Os oes angen help arnoch i dalu'r rhent pan fydd budd-daliadau penodol eraill yn dod i ben am eich bod yn dychwelyd i'r gwaith, yn gweithio mwy o oriau neu'n ennill mwy o arian, efallai y bydd modd i chi gael eich Budd-dal Tai am bedair wythnos yn ychwanegol.
Mae'n bosib y gallwch chi bellach hawlio'r Budd-dal Tai am gyfnod Estynedig os nad ydych chi neu eich partner neu'ch partner sifil (neu'ch partner neu'ch partner sifil sy’n parhau yn bartner drwy gydol y cais) yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, neu Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol oherwydd bod un ohonoch yn disgwyl gwneud un o'r canlynol am bum wythnos neu ragor:
a'ch bod wedi bod yn cael un o'r canlynol:
neu
ac
Fel arfer, fe gewch chi'r un faint o Fudd-dal Tai ag yr oeddech chi'n ei gael cyn i'ch Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, eich Cymhorthdal Incwm, eich Budd-dal Analluogrwydd neu'ch Lwfans Anabledd Difrifol ddod i ben.
Fe'i telir gan eich cyngor lleol, yn yr un ffordd ag y byddwch chi fel arfer yn cael eich Budd-dal Tai.
Rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol ac wrth swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith eich bod chi neu'ch partner neu bartner sifil (os oes gennych bartner) ar fin dechrau gwaith neu wedi gwneud eisoes, wedi cynyddu'ch oriau gweithio neu'n ennill mwy o arian. Rhaid i chi ddweud wrthynt hefyd (o fewn pedair wythnos i'r newid) os disgwylir i'r newid bara pum wythnos o leiaf neu fwy.
Pan fydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu'ch Cymhorthdal Incwm yn stopio am eich bod yn dechrau gweithio neu am fod eich amgylchiadau'n newid, bydd eich Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol yn cysylltu â'ch cyngor lleol ac yn dweud wrthynt fod y budd-daliadau hynny wedi dod i ben ac ers faint yr oeddech chi wedi bod yn eu derbyn.
Pan fydd eich Budd-dal Analluogrwydd neu'ch Lwfans Anabledd Difrifol yn dod i ben am eich bod yn dechrau gweithio neu am fod eich amgylchiadau'n newid, bydd eich cyngor lleol yn edrych i weld ers faint rydych chi wedi bod yn eu derbyn.
Yn y naill sefyllfa neu'r llall, eich cyngor lleol fydd yn penderfynu a oes gennych hawl i gael taliadau estynedig ai peidio.
Bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i wneud cais newydd am Fudd-dal Tai ar ddiwedd eich taliad estynedig.
Os gwrthodir Budd-dal Tai neu'r Taliadau Estynedig i chi, gallwch ofyn i'r cyngor lleol ail edrych ar eu penderfyniad.
Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl annibynnol.