Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Benthyciadau Cyllidebu

Os ydych chi ar incwm isel a bod angen help arnoch gyda chostau pwysig penodol, mae'n bosib y gallech chi gael Benthyciad Cyllidebu di-log gan y Gronfa Gymdeithasol, ond bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Pwy sy'n gymwys?

Fe allech chi gael Benthyciad Cyllidebu os ydych chi neu'ch partner wedi bod yn hawlio neu'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol am 26 wythnos o leiaf:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

a bod angen cymorth arnoch i dalu am unrhyw un o'r canlynol:

  • dodrefn neu offer ar gyfer y cartref
  • dillad neu esgidiau
  • rhent ymlaen llaw neu gostau symud i gartref newydd
  • costau teithio
  • pethau i'ch helpu i chwilio am waith neu ddechrau gweithio
  • gwella, cynnal a chadw neu ddiogelu eich cartref
  • ad-dalu dyled hur bwrcas neu dalu'n ôl arian rydych wedi'i fenthyg i dalu am unrhyw un o'r uchod

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Cewch wneud cais am fenthyg rhwng £100 a £1,500. Bydd swm terfynol y Benthyciad Cyllidebu a gewch chi'n dibynnu ar y canlynol:

  • ers faint rydych chi wedi bod ar fudd-dal
  • nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref
  • unrhyw arian sy'n ddyledus gennych i'r Gronfa Gymdeithasol
  • eich gallu i ad-dalu'r benthyciad
  • eich cynilion - fel arfer, tynnir unrhyw swm dros £1,000 rydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil wedi'i gynilo (neu £2,000 os yw un ohonoch neu'r ddau ohonoch dros 60) o'r benthyciad gewch chi

Nid yw'r canlynol yn cyfri o gwbl:

  • bod eich angen yn fater o frys
  • unrhyw broblemau iechyd a all fod gennych chi neu'ch teulu

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer, telir y benthyciad i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arall yr ydych wedi enwebu.

Sut byddwch yn ei ad-dalu?

Bydd eich ad-daliadau, sy'n cael eu cyfrifo pan gytunir ar eich benthyciad, fel arfer yn cael eu tynnu o'ch budd-dal yn awtomatig. Os nad ydych chi'n cael budd-daliadau, cytunir ar ddull arall.

Fel arfer, rhaid i chi ad-dalu Benthyciad Cyllidebu o fewn 104 wythnos.

Mae'r ad-daliadau'n ddi-log ac mae hynny'n golygu mai union swm y benthyciad y byddwch yn ei dalu'n ôl a dim mwy.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw Benthyciad Cyllidebu bob amser yn cyfri fel incwm ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.

Sut mae gwneud cais

Gallwch gysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith, eich swyddfa nawdd cymdeithasol neu'ch canolfan bensiynau leol a gofyn iddyn nhw anfon ffurflen hawlio SF500 atoch.

Llwytho ffurflen oddi ar y we i'w hargraffu a'i llenwi

Neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.

Sut i apelio

Os ydych chi'n anhapus â phenderfyniad ynghylch Benthyciad Cyllidebu, bydd gennych chi'r hawl i ofyn am adolygiad. Rhaid i chi ysgrifennu at eich Canolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod i'r penderfyniad yn esbonio pam fod y penderfyniad yn anghywir yn eich barn chi gan ofyn iddynt ailystyried.

Ar ôl yr adolygiad hwnnw, os ydych chi'n dal i feddwl bod y penderfyniad yn anghywir, cewch ofyn am adolygiad pellach gan un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol. Nid yw'r Arolygwyr yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maent yn annibynnol. Mae'r broses adolygu'n gyflym ac yn rhwydd, ac ni ddylai gymryd mwy na 12 diwrnod.

Gallwch lwytho'r daflen a'r ffurflen hawlio, 'Sut mae gofyn am adolygiad annibynnol' oddi ar wefan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

Additional links

Arbed Arian Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 i ddarganfod dulliau hawdd o arbed arian ac ynni

Cyfryngu Teuluol

Angen cymorth i ddatrys anghydfod o fewn y teulu? Ffoniwch 0845 60 26 627

Allweddumynediad llywodraeth y DU