Os oes angen cymorth ariannol arnoch i'ch helpu i dalu bil y dreth gyngor, efallai y cewch Fudd-dal Treth Gyngor. Mae hefyd yn bosib y bydd modd i chi gael Ad-daliad Ail Oedolyn os ydych yn rhannu'ch cartref gydag oedolyn arall (nid eich partner na'ch partner sifil) sy'n methu â chyfrannu tuag at y Dreth Gyngor.
Efallai y cewch Fudd-dal Treth Gyngor os ydych chi'n talu Treth Gyngor a bod eich incwm a'ch cyfalaf (eich cynilion a'ch buddsoddiadau) yn £16,000 neu'n is.
Efallai y cewch yr Ad-daliad Ail Oedolyn os yw'r canlynol yn wir am y sawl sy'n rhannu eich cartref:
Mae'n bosibl y gallwch chi gael Ad-daliad Ail Oedolyn hyd yn oed os nad ydych chi'n cael Budd-dal Treth Gyngor.
Os yw un o'r ddau hyn yn berthnasol i chi:
Dylai eich awdurdod lleol edrych i weld a oes gennych hawl i gael Ad-daliad Ail Oedolyn fel mater o drefn.
Os oes gennych gynilion gwerth dros £16,000 fel arfer ni fyddwch yn gallu cael Budd-dal y Dreth Gyngor, oni bai eich bod yn 60 oed neu'n hŷn a'ch bod yn cael 'gwarant credyd' y Credyd Pensiwn.
Ni fydd eich incwm a'ch cynilion yn effeithio ar yr Ad-daliad Ail Oedolyn. Seilir yr Ad-daliad Ail Oedolyn ar amgylchiadau'r person arall.
Ni chaiff y rhan fwyaf o geiswyr lloches a phobl sy'n derbyn nawdd i fod yn y DU Budd-dal Treth Gyngor.
Sut mae gweld a ydych yn gymwys
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael budd-dal Treth Gyngor, bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.
I weld faint o Fudd-dal Treth Gyngor gewch chi, bydd eich cyngor lleol yn edrych ar y canlynol:
Gostyngiad o 100 y cant ar eich bil yw'r swm mwyaf gewch chi o ran Budd-dal Treth Gyngor.
Os oes gennych hawl i gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu 'warant credyd' y Credyd Pensiwn, mae'n bosibl y cewch chi'r swm mwyaf posibl i helpu gyda'ch Treth Gyngor.
| Rheswm dros ostwng y Dreth Gyngor - Canran y gostyngiad | Canran y gostyngiad |
|---|---|
| Ad-daliad ail oedolyn sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn | 25% |
|
Os yw incwm wythnosol gros yr ail oedolyn yn llai na £169.00 |
15% |
|
Os yw incwm wythnosol gros yr ail oedolyn rhwng £169.00 a £219.99 |
7.5% |
Os oes gennych hawl i Fudd-dal Treth Gyngor ac Ad-daliad Ail Oedolyn, fe gewch chi ba un bynnag sy'n rhoi'r swm mwyaf i chi.
Tynnir swm y Budd-dal Treth Gyngor a'r Ad-daliad Ail Oedolyn oddi ar eich bil Treth Gyngor.
Fe gewch fil newydd yn dangos faint o Dreth Gyngor mae'n rhaid i chi ei dalu ar ôl tynnu'r gostyngiad hwn.
Ni fydd y Budd-dal Treth Gyngor a'r Ad-daliad Ail Oedolyn yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch chi.
Fe gewch ffurflen i hawlio Budd-dal Treth Gyngor, (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) a'r Budd-dal Tai os ydych chi'n hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
Dylech lenwi a dychwelyd y ffurflenni i'ch cyngor lleol.
Os nad ydych chi'n hawlio Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch gael ffurflen gan eich cyngor lleol i hawlio Budd-dal Treth Gyngor, Ad-daliad Ail Oedolyn a Budd-dal Tai.
Neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cewch hawlio hyd at 13 wythnos (17 wythnos os ydych chi'n 60 neu'n hŷn) cyn i chi fod â'r hawl i gael Budd-dal Treth Gyngor.
Felly os ydych chi'n gwybod eich bod am symud i gyfeiriad newydd cyn bo hir, gallwch hawlio Budd-dal Treth Gyngor cyn i chi symud. Fel arfer, chewch chi ddim arian cyn i chi symud i mewn.
Mae'n bosib y bydd modd i chi hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor sydd wedi mynd heibio os oes rheswm dilys pam nad oeddech yn gallu ei hawlio'n gynt.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol, er enghraifft:
Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn. Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.
Os gwrthodir rhoi Budd-dal Treth Gyngor i chi neu os nad ydych chi'n hapus gyda phenderfyniad eich cyngor, gallwch ofyn iddyn nhw ailystyried.
Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.
Efallai y cewch ostyngiad ar y Dreth Gyngor os ydych yn anabl neu os oes person anabl yn byw gyda chi.