Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Tai

Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich rhent i gyd neu ran ohono, mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu hawlio Budd-dal Tai.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n bosib y cewch hawlio Budd-dal Tai os ydych chi'n talu rhent a bod eich incwm a'ch cyfalaf (eich cynilion a'ch buddsoddiadau) o dan lefel benodol.

Os ydych chi'n rhentu gan landlord preifat mae ffordd newydd o gyfrifo'r Budd-dal Tai - gelwir hyn yn Lwfans Tai Lleol.

Pwy sydd ddim yn gymwys?

Fel arfer, chewch chi ddim Budd-dal Tai:

  • os oes gennych gynilion gwerth dros £16,000 oni bai eich bod yn 60 oed neu drosodd a'ch bod yn cael 'credyd gwarant' y Credyd Pensiwn.
  • os ydych chi'n byw yng nghartref perthynas agos
  • os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn (oni bai eich bod yn anabl neu fod gennych blant)
  • os ydych chi'n geisiwr lloches neu'n derbyn nawdd i fod yn y DU

Cyfyngiadau eraill

Os ydych chi'n byw gyda phartner neu bartner sifil, dim ond un ohonoch gaiff hawlio'r Budd-dal Tai.

Os ydych chi'n sengl a dan 25 oed, dim ond ar gyfer llety ystafell byw-a-chysgu neu un ystafell mewn llety a rennir y cewch chi'r Budd-dal Tai.

Sut mae gweld a ydych yn gymwys

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Tai, bydd y ddolen sy'n dilyn yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Chewch chi ddim mwy o Fudd-dal Tai na'ch rhent 'cymwys'.

Dyma'r swm a ddefnyddir i gyfrifo'ch budd-dal ond mae'n bosibl na fydd hynny yr un fath â'ch rhent llawn.

Beth yw ystyr rhent 'cymwys'?

Mae rhent 'cymwys' yn cynnwys:

  • rhent ar gyfer y llety
  • taliadau am rai gwasanaethau, megis lifftiau, cyfleusterau golchi dillad neu ardaloedd chwarae ar y cyd

Hyd yn oed os yw hynny wedi'i gynnwys yn eich rhent, chewch chi ddim Budd-dal Tai ar gyfer:

  • costau dŵr
  • costau gwres, dŵr poeth, golau, neu goginio
  • taliadau am fwyd neu danwydd mewn llety sy'n darparu bwyd neu hostel

Hefyd, bydd faint o Fudd-dal Tai gewch chi'n dibynnu o bosibl ar:

1. Eich amgylchiadau personol ac ariannol

Bydd eich cyngor lleol yn edrych ar:

  • yr arian sy'n dod i mewn gennych chi a'ch partner neu bartner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth a phensiynau galwedigaethol
  • eich cynilion (a chynilion eich partner neu eich partner sifil)
  • eich amgylchiadau: megis eich oedran, maint eich teulu a'u hoedrannau, a ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu'n anabl, ac a oes rhywun sy'n byw gyda chi a allai helpu gyda'r rhent

2. Manylion eich cartref a'r rhent rydych chi'n ei dalu

Bydd eich cyngor hefyd yn ystyried:

  • a yw'r rhent yn rhesymol i'ch cartref chi
  • a yw'r cartref o faint rhesymol i chi a'ch teulu
  • a yw'r rhent yn rhesymol ar gyfer yr ardal lle rydych chi'n byw

Mae'n bosibl y bydd eich rhent 'cymwys' yn cael ei gyfyngu i swm sy'n rhesymol ar gyfer eiddo o faint addas yn eich ardal.

Sut mae'n cael ei dalu

Os ydych chi'n denant i gyngor, bydd eich cyngor yn talu unrhyw Fudd-dal Tai a gewch chi'n syth i'ch cyfrif rhent.

Os nad ydych chi'n denant i'r cyngor, ac os nad ydych chi'n byw mewn ardal Lwfans Tai Lleol, fe gewch ddewis cael talu'ch Budd-dal Tai:

  • yn syth i'ch landlord
  •  i chi ar ffurf siec
  • yn syth i'ch cyfrif banc neu i'ch cyfrif cymdeithas adeiladu gyda Thaliad Uniongyrchol

Cysylltwch â'ch cyngor os ydych chi'n poeni am sut mae'ch Budd-dal Tai'n cael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Chaiff y Budd-dal Tai ddim effaith ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch chi.

Sut i hawlio

Fe'ch asesir ar gyfer y Budd-dal Tai a'r Budd-dal Treth Gyngor ar yr un pryd.

Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau eraill

Fe gewch ffurflen i hawlio'r Budd-dal Tai a'r Budd-dal Treth Gyngor, (can gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) os ydych chi'n hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Dylech lenwi a dychwelyd eich ffurflen hawlio Budd-dal Tai i'ch cyngor lleol.

Os nad ydych chi'n hawlio budd-daliadau eraill

Os nad ydych chi'n hawlio Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch gael ffurflen gan eich cyngor lleol i hawlio Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) gan eich cyngor lleol.

Llwytho ffurflen hawlio oddi ar y we

Neu fe allwch lwytho ffurflen hawlio, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Hawlio ymlaen llaw

Felly os ydych chi'n gwybod eich bod am symud i gyfeiriad newydd cyn bo hir, gallwch hawlio Budd-dal Tai hyd at 13 wythnos (17 wythnos os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn) cyn i chi symud.

Fel arfer, chewch chi ddim arian cyn i chi symud i mewn.

Hawlio'ch cais am gyfnod sydd wedi mynd heibio

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio'ch cais am gyfnod sydd wedi mynd heibio. Gall eich awdurdod lleol eich cynghori am hyn.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol:

  • os bydd unrhyw rai o'ch plant yn gadael yr ysgol neu'n gadael cartref
  • os bydd unrhyw un yn symud i'ch cartref neu allan ohono
  • os bydd eich incwm, neu incwm unrhyw un sy'n byw gyda chi, yn newid
  • os bydd eich cyfalaf neu'ch cynilion yn newid
  • os bydd eich rhent yn newid
  • os byddwch yn symud
  • os ydych chi neu'ch partner neu bartner sifil yn bwriadu bod oddi cartref am fwy na mis

Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn. Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.

Sut i apelio

Os gwrthodir rhoi'r Budd-dal Tai i chi neu os nad ydych chi'n hapus gyda phenderfyniad eich cyngor, gallwch ofyn iddyn nhw ailystyried.

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU