Os ydych chi'n denant preifat sy'n rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat a chithau ar incwm isel - mae'n bosibl y gallwch chi hawlio a derbyn Lwfans Tai Lleol.
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai sy’n seiliedig ar yr ardal y mae'r cwsmer yn byw ynddi, nifer y deiliaid yn yr adeilad, a maint y tŷ. Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ffordd llawer tecach o gyfrifo Budd-dal Tai, gan ei fod yn sicrhau bod tenantiaid sydd mewn amgylchiadau tebyg yn yr un ardal yn cael yr un faint o gymorth ariannol ar gyfer eu costau tai.
Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai ni fydd hyn yn effeithio arnoch oni fyddwch yn newid cyfeiriad ac yn symud i dŷ ar rent gan landlord preifat. Os bydd hyn yn digwydd byddwch yn cael Lwfans Tai Lleol yn ei le.
Caiff cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol eu cyfrifo ar gyfer ardaloedd unigol bob mis, sef Ardaloedd Rhentu Marchnad Eang. Bydd y swm sy'n ddyledus yn seiliedig ar y ffigur rhentu 'canol y ffordd' ar gyfer yr ardal y mae'r eiddo ynddi a bydd yn ystyried maint yr eiddo.
Mae seilio'r Lwfans Tai Lleol ar ystod canol y ffordd ar gyfer meintiau adeiladau penodol yn golygu bod union hanner tai rhent y maint hwnnw yn yr ardal yn fforddiadwy gyda swm y Lwfans Tai Lleol y byddwch yn ei gael.
Os bydd rhent y tŷ rydych wedi ei drafod gyda'ch landlord yn is na chyfradd y Lwfans Tai Lleol byddwch yn gallu cadw unrhyw fudd-dal sy'n weddill hyd at uchafswm o £15 yr wythnos. Ni chaiff yr arian sy'n weddill ei ystyried fel arfer wrth benderfynu ar fudd-daliadau eraill. Os bydd y rhent yn uwch na'r gyfradd Lwfans Tai Lleol bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth neu chwilio am dŷ arall o fewn cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol.
Mae'r hawl i gael Lwfans Tai Lleol yn amodol ar brawf modd a bydd angen i chi ddarparu cytundeb tenantiaeth dilys fel prawf.
Gallwch hawlio Lwfans Tai Lleol cyn gynted ag y bydd gennych gytundeb rhent gyda'ch landlord. Cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosib i drafod eich hawliad. Os na wnewch chi hyn, efallai y byddwch chi'n colli eich budd-dal.
Caiff y taliad ei wneud fel arfer yn syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (os oes gennych un) neu drwy siec. Ni chaiff y taliad ei wneud i'ch landlord fel arfer.
Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu eisoes, efallai y byddai'n syniad i chi gael un. Trwy wneud hynny gallwch drefnu i dalu'r rhent i'ch landlord yn awtomatig, drwy ddebyd uniongyrchol.
Gallwch gael cyngor ar agor a rhedeg cyfrif banc gan unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu. Gallwch hefyd gael cyngor gan sefydliad fel Cyngor ar Bopeth. Mae cyngor ar gyfrifon banc ar gael hefyd.
Eich dewis chi yw talu rhent i'ch landlord. Os na fyddwch yn talu rhent, gellir mynd â chi i'r llys a chewch eich troi allan o'ch cartref.
Os ydych yn poeni am reoli eich arian, gofynnwch i'ch cyngor lleol os gallant eich helpu. Mewn rhai achosion efallai y gallant dalu eich budd-dal i'ch landlord.
Caiff cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol eu cyhoeddi ar ddiwedd pob mis ar gyfer y mis canlynol. Er enghraifft, bydd cyfraddau mis Ebrill ar gael ddiwedd mis Mawrth. Gallwch edrych ar y rhain yn lleol ar wefan eich cyngor lleol neu drwy fynd i wefan Y Gwasanaeth Rhent.
Os ydych yn cael Budd-dal Tai a'ch bod yn symud i gyfeiriad newydd neu os oes rhyw newid arall yn eich amgylchiadau, dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol ar unwaith. Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais newydd am Fudd-dal Tai.
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth byddwch yn cael ffurflenni i wneud cais am Lwfans Tai Lleol gyda'ch pecyn hawlio. Cwblhewch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'ch ffurflen gais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os ydych yn dymuno cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor yn ychwanegol i’r budd-daliadau uchod, bydd y Ganolfan Byd Gwaith neu’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn danfon y ffurflenni perthnasol i’ch cyngor lleol. Os nad ydych chi'n hawlio'r Cymhorthdal Incwm, y Lwfans Ceisio Gwaith neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gofynnwch i'ch cyngor lleol am ffurflenni i hawlio'r Lwfans Tai Lleol.
A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded