Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth i Dalu Llog Morgais

Pedair wythnos ychwanegol o arian yw'r Cymorth i Dalu Llog Morgais. Mae hwn ar gael tuag at dalu'ch costau tai os bydd budd-daliadau penodol eraill yn dod i ben oherwydd eich bod yn mynd yn ôl i'r gwaith, yn ennill neu'n gweithio mwy o oriau.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n bosib y gallwch chi hawlio'r Cymorth i Dalu Llog Morgais os ydych chi (neu eich partner neu bartner sifil) wedi stopio cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm oherwydd bod un ohonoch yn gwneud un o'r canlynol:

  • yn dychwelyd i waith amser llawn
  • yn gweithio mwy o oriau
  • yn ennill mwy o arian

a bod y canlynol i gyd yn berthnasol:

  • eich bod wedi bod yn hawlio'r budd-dal yn ddi-dor am 26 wythnos o leiaf ac
  • eich bod yn disgwyl i'r gwaith bara am bum wythnos neu fwy, a
  • bod gennych hawl i gael help gyda'ch costau tai cyn dechrau gweithio a'ch bod yn dal i orfod talu'r taliadau hyn ar ôl dechrau gweithio

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Byddwch chi fel arfer yn cael yr un swm yn union ag y cewch chi tuag at eich costau tai.

Sut mae'n cael ei dalu

Sut i wneud cais

Does dim rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig am Gymorth i Dalu Llog Morgais.

Rhowch wybod i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau gweithio mewn swydd y disgwylir iddi bara am bum wythnos neu fwy.

Sut i apelio

Os gwrthodir help i chi gyda'ch costau tai, neu gyda'r taliadau ychwanegol am bedair wythnos, cewch ofyn am ailystyried y penderfyniad.

Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.

Additional links

Cyfryngu Teuluol

Angen cymorth i ddatrys anghydfod o fewn y teulu? Ffoniwch 0845 60 26 627

Allweddumynediad llywodraeth y DU