Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grantiau Effeithlonrwydd Ynni

Efallai y gallwch gael grantiau a chynigion effeithlonrwydd ynni i'ch helpu i wella'ch cartref er mwyn arbed ynni. Mae'r grantiau a'r cynigion hyn ar gael gan y llywodraeth, gan eich cyngor lleol neu gan y cwmni sy'n cyflenwi ynni i chi.

Pwy sy'n gymwys?

Os ydych chi'n derbyn budd-dal anabledd neu fudd-dal cysylltiedig ag incwm, mae'n bosibl y gallwch chi gael Grant Ffrynt Cynnes gan y llywodraeth gwerth hyd at £2,700 (neu hyd at £4,000 mewn rhai achosion) i'ch helpu i dalu am wres a gwelliannau insiwleiddio i'ch cartref.

Mae Grantiau Ffrynt Cynnes ar gael yn Lloegr yn unig. Yng Nghymru, mae'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES Cymru) yn rhoi grantiau i wneud cartrefi pobl yn gynhesach, yn fwy ynni-effeithlon a mwy diogel

Grantiau cynghorau lleol

Mae'n bosib y gallwch chi gael grantiau a gostyngiadau ar ynni gan eich cyngor lleol. I fod yn gymwys am y rhain, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi fod yn bensiynwr a/neu'n hawlio budd-daliadau penodol. I gael gwybod a oes gennych chi'r hawl i un o'r rhain, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Cynigion gan gyflenwyr ynni

Bydd llawer o gyflenwyr ynni'n cynnig cynigion a gostyngiadau arbennig sy'n lleihau'n sylweddol gostau gwella'ch cartref er mwyn arbed ynni.

I gael gwybod a ydych chi'n gymwys ar gyfer unrhyw un o'r grantiau neu'r cynigion arbennig sydd ar gael yn genedlaethol neu'n lleol, defnyddiwch y gwasanaeth chwilio-am-grantiau ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Additional links

Arbed Arian Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 i ddarganfod dulliau hawdd o arbed arian ac ynni

Cyfryngu Teuluol

Angen cymorth i ddatrys anghydfod o fewn y teulu? Ffoniwch 0845 60 26 627

Allweddumynediad llywodraeth y DU