Mae myfyrwyr rhan-amser a grwpiau penodol o fyfyrwyr amser llawn weithiau'n gymwys i gael budd-daliadau ar sail incwm.
Os ydych chi'n dilyn cwrs addysg uwch, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr i'ch helpu i dalu am eich astudiaethau.
Fel arfer, ni all myfyrwyr amser llawn hawlio budd-daliadau ar sail incwm hefyd - ond weithiau gall myfyrwyr rhan-amser a grwpiau penodol o fyfyrwyr amser llawn fod yn gymwys.
Fodd bynnag, gall y rheolau ynghylch bod yn gymwys fod yn gymhleth, a'ch amgylchiadau personol chi fydd yn penderfynu a allwch chi gael budd-daliadau ar sail incwm ai peidio.
Felly, hyd yn oed os ydych chi'n perthyn i grŵp sy'n gymwys i gael budd-daliadau ar sail incwm, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y cewch chi nhw - efallai bydd yr incwm a gewch chi drwy gyllid myfyrwyr yn rhy uchel.
Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau ar sail incwm ac yn dymuno dechrau ar gwrs addysg uwch, dylech ofyn i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol a/neu'ch awdurdod lleol sut y bydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau.
Os ydych yn y brifysgol neu goleg yn barod, bydd cynghorwr myfyriwr yn gallu eich helpu i weithio allan os ydych yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau.
Er nad yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yn gallu hawlio budd-daliadau, mae'n bosibl y gall grwpiau penodol hawlio.
Ceir rhestr lawn o'r rheolau yn y rheoliadau ar gyfer Cymhorthdal Incwm a Budd-dal Tai. Ond, fel canllaw cyffredinol, gallwch hawlio budd-daliadau ar sail incwm dan yr amgylchiadau canlynol:
Ac mae grwpiau penodol eraill o bosibl yn gymwys - er enghraifft, pobl sydd wedi cael eu hystyried yn analluog i weithio am gyfnod di-dor o 28 wythnos o leiaf.
Bydd eich awdurdod lleol yn gallu cadarnhau a ydych chi'n perthyn i grŵp sy'n debygol o fod yn gymwys ai peidio.
Os oes gennych bartner nad yw'n fyfyriwr, ond yn gymwys i gael unrhyw un o'r budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, caiff eich partner wneud cais ar ran y ddau ohonoch.
Gall myfyrwyr rhan-amser mewn addysg uwch hefyd wneud cais am fudd-daliadau ar sail incwm os ydynt ar incwm isel ac yn bodloni'r amodau i fod â hawl i gael y budd-dal perthnasol. Nid oes yn rhaid iddynt berthyn i un o'r grwpiau penodol a restrir yn y rheoliadau ar gyfer Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Tai.
Os ydych chi'n perthyn i un o'r grwpiau a ddisgrifir uchod, eich amgylchiadau personol chi fydd yn penderfynu a allwch chi gael budd-daliadau ar sail incwm ai peidio - bydd hyn yn cynnwys eich incwm a faint sydd gennych mewn cynilion.
Dyma rai o'r budd-daliadau ar sail incwm y gallech eu hawlio:
I gael gwybod mwy, dilynwch y dolenni isod.
Wrth i chi gyfrifo a ydych chi'n gymwys i gael budd-daliadau ar sail incwm a chithau'n fyfyriwr, bydd rhai mathau o gyllid myfyrwyr yn cyfrif fel incwm.
I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen isod.
Os ydych chi’n astudio amser llawn, mae'n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith dros wyliau'r haf dan yr amgylchiadau canlynol:
Efallai y gallwch hefyd hawlio os ydych chi'n aros i fynd yn ôl ar gwrs, a chithau wedi cael seibiant y cytunwyd arno am gyfnod hyd at un flwyddyn oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd erbyn hyn wedi dod i ben.
Os ydych chi’n astudio rhan-amser, mae'n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych chi:
Fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn. Bydd yn rhaid i chi fod yn fodlon mynd am gyfweliad am swydd, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu cymryd amser o'ch cwrs. Dylech fod yn barod hefyd i aildrefnu'ch oriau astudio i gyd-fynd â'ch swydd.
Y mae hwn ar gael i bobl nad ydynt yn gallu gweithio o ganlyniad i anabledd neu salwch. Os ydych yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd eisoes, mae'n bosib i chi barhau i'w dderbyn fel myfyriwr.
Gall eich Swyddog Anabledd neu Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg neu'ch prifysgol roi cyngor i chi. Gellir cael mwy o wybodaeth hefyd gan Skill (Y Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau).
Mae'n bosibl i chi hawlio Credyd Treth Gwaith naill ai fel myfyriwr amser llawn neu fel myfyriwr rhan-amser os yw o leiaf un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Os ydych chi’n derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith, ni fydd hi'n bosib i chi hawlio'r Grant Gofal Plant hefyd.
Mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Credyd Treth Plant os ydych chi'n fyfyriwr ac yn gyfrifol am blentyn. Gellir cael cyfraddau uwch os:
Mae'n bosibl y caiff myfyrwyr amser llawn eu heithrio rhag talu'r Dreth Gyngor, neu gallant fod yn gymwys i gael gostyngiad yn eu bil Treth Gyngor. Holwch eich awdurdod lleol sut i hawlio, yna gofynnwch i'ch coleg neu'ch prifysgol gyflwyno tystiolaeth o'ch statws myfyriwr amser llawn.
I gael gwybod mwy am gymorth ariannol i rieni unigol, megis Cynhaliaeth Cynnal Plant, gweler y dudalen 'Rhieni unigol' yn yr adran rhieni.
Gallwch gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael drwy gyllid myfyrwyr - gan gynnwys grantiau, a (i fyfyrwyr amser llawn) Benthyciadau Myfyrwyr a bwrsarïau - drwy ddilyn y ddolen isod sy'n berthnasol i chi.