Efallai y bydd eich hawl i gael cymhorthdal incwm yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn cyrraedd oed arbennig, os ydych ond yn hawlio oherwydd eich bod yn rhiant unigol. Fodd bynag efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau a chymorth eraill.
Ar 24 Tachwedd 2008 cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhai rhieni unigol. Maent yn golygu y gallai eich hawl i gael Cymhorthdal Incwm ddod i ben pan fydd eich plentyn yn cyrraedd oed arbennig, os ydych ond yn hawlio oherwydd eich bod yn rhiant unigol.
Yn lle hynny bydd yn rhaid i chi wneud cais am fudd-dal arall, ac os ydych yn gallu, byddwch yn cael ei hannog i chwilio am waith a thâl. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi cefnogaeth i chi gyda hyn.
Ni fydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm am resymau ychwanegol. Er enghraifft os ydych:
Efallai bod rhesymau eraill pam nad yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i chi. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i’ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno’n raddol dros y tair blynedd nesaf.
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cysylltu â chi wyth wythnos cyn y disgwylir i’ch Cymhorthdal Incwm ddod i ben i ddweud wrthych pryd bydd eich taliad olaf yn ddyledus. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn eich gwahodd am gyfweliad gydag ymgynghorydd, a fydd yn egluro beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn gwneud cais am fudd-dal arall os nad ydych wedi dod o hyd i waith a thâl.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynychu’r cyfweliad hwn er mwyn i chi allu parhau i gael y budd-daliadau cywir a’r gefnogaeth ariannol os ydych ei angen.
Ni fydd y rhan fwyaf o rieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf 12 oed neu drosodd, sy’n gwneud cais newydd neu ail-gais, yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm ar y sail eu bod yn rhiant unigol.
O 26 Hydref 2009, caiff hwn ei hehangu i’r rhan fwyaf o rieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf deng mlwydd oed neu’n hŷn ac o 25 Hydref 2010 i’r rheiny sydd a’r plentyn ieuengaf yn saith mlwydd neu’n hŷn.
Os nad ydych wedi dod o hyd i waith pan ddaw eich Cymhorthdal Incwm i ben, neu os ydych angen gwneud cais newydd fel rhiant unigol, byddwch yn gallu gwneud cais am unai Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Lwfans Ceisio Gwaith yw’r prif fudd-dal ar gyfer pobl sydd allan o waith. I’w gael mae’n rhaid i chi fod ar gael i weithio ac wrthi’n chwilio am waith. Fel rhiant, efallai y byddwch yn gallu trefnu’r oriau rydych ar gael i weithio i weddu â’ch cyfrifoldebau gofal plant. Bydd eich ymgynghorydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yw’r prif fudd-dal ar gyfer pobl sydd yn methu â gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Mae Credyd Treth Plant yn cael ei dalu gan Gyllid a Thollau EM ac mae’n disodli’r elfen sy’n berthnasol i blant sydd efallai’n cael ei dalu gyda’ch Cymhorthdal Incwm. I gael Credyd Treth Plant mae’n rhaid cwblhau ffurflen gais. Gall eich ymgynghorydd eich helpu i gwblhau’r ffurflen gywir.