Os cewch chi lythyr yn dweud bod rhywun yn gwneud Hawliad Llys Sirol gan ddweud bod arnoch chi arian iddyn nhw, peidiwch â dychryn. Bydd y Llys yn penderfynu a oes dyled y mae'n rhaid i chi ei thalu - ac os felly, sut y dylech chi wneud hynny - mewn ffordd sy'n deg i bawb.
Gall rhywun y mae arnoch chi arian iddyn nhw ('credydwr') ddwyn achos yn eich erbyn mewn Llys Sirol er mwyn hawlio'r arian. Os talwch chi'r swm sy'n ddyledus, fe allwch osgoi gwrandawiad neu ddyfarniad. Os na fyddwch chi'n talu, cynhelir gwrandawiad llys syml, preifat. Fe gewch ddewis bod yn bresennol, neu anfon y wybodaeth y mae'r llys yn gofyn amdani drwy'r post.
Ni fydd y llys yn dweud bod neb yn 'euog' nac yn 'ddieuog'. Mae'n edrych ar y ffeithiau ac yn penderfynu a oes arnoch chi arian o gwbl, ac os felly, sut y dylech ei dalu'n ôl.
Dan gyfraith yr Alban, bydd hawliadau'n cael eu trin yn wahanol, gan Lys y Siryf.
Bydd y llys yn anfon 'Ffurflen Hawlio' atoch, yn dangos faint mae'r credydwr yn ei ddweud sydd arnoch chi iddyn nhw, a manylion yr hawliad (er y gellir anfon y manylion hyn ar wahân hyd at 14 o ddiwrnodau wedyn). Mae'r ffurflen hon yn rhoi'r cyfle i chi esbonio'ch sefyllfa i'r llys.
Byddwch yn derbyn 'Ffurflen Addef' gyda'r Ffurflen Hawlio, yn gofyn i chi am eich incwm a'ch gwariant. Ar y ffurflen, gallwch gynnig talu'r ddyled (neu swm llai os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi lai na'r hyn y mae'r credydwr yn ei honni).
Os na wnewch chi gynnig a bod y llys yn penderfynu yn eich erbyn, mae'n bosib y bydd yn dweud bod rhaid i chi dalu'r swm llawn neu'r taliadau misol.
Bydd gennych 16 diwrnod o ddyddiad y marc post i anfon y ffurflen yn ôl i'r llys. Neu fe gewch gyflwyno 'Cydnabyddiad Cyflwyno' neu 'Ffurflen Amddiffyn', a dibynnu ar sut rydych chi'n bwriadu bwrw ymlaen - dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am y ffurflenni hyn.
Ar ôl y gwrandawiad yn y llys, mae'n bosib y bydd y llys yn rhoi gorchymyn sy'n dweud bod rhaid i chi dalu'r ddyled yn ôl. Gelwir y gorchymyn hwn yn CCJ a bydd naill ai am y swm y cytunwyd arno rhyngoch chi a'ch credydwr, neu, os na allwch chi gytuno, yn swm a bennir gan y llys.
Os oes gennych ddyfarniadau gan fwy nag un credydwr, gall y llys gyfuno'ch dyledion a gwneud 'gorchymyn gweinyddu' - yn dweud bod rhaid i chi wneud un taliad bob mis i'w rannu rhwng eich credydwyr i gyd.
Byddwch yn talu i'r credydwr a wnaeth yr hawliad yn eich erbyn, neu i'w twrnai neu i'w cynrychiolydd a fydd yn derbyn eich taliadau ar eu rhan.
Os na fyddwch chi'n talu o gwbl, neu os na fyddwch chi'n talu'r taliadau ar yr adegau a bennwyd, gall y credydwr ofyn i'r llys gymryd camau i'ch gorfodi i dalu, ac fe all hynny olygu bod rhaid i chi dalu mwy o gostau. Os nad oes gennych chi fodd i dalu, hyd yn oed fesul cam, gallwch ofyn i'r llys:
Os na fyddwch chi wedi talu swm llawn y dyfarniad o fewn mis, bydd eich Dyfarniad Llys Sirol yn cael ei gofnodi ar Gofrestr y Dyfarniadau Llys Sirol am chwe blynedd.
Mae sefydliadau megis banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau benthyciadau'n defnyddio'r wybodaeth ar y gofrestr i'w helpu i benderfynu a ddylen nhw roi credyd neu fenthyciad megis morgais i chi.
Os oes gennych reswm dilys dros anghytuno â Dyfarniad Llys Sirol, cewch ofyn i'r llys beidio â'i roi ar waith ar unwaith ('ei osod o'r neilltu'). Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu ffi am hyn. Os nad oes gennych reswm dilys, fe allai eich cais gael ei ystyried yn gais sy'n gwastraffu amser y llys neu'n anudo (dweud celwydd yn y llys) - mae'r rhain yn droseddau a all arwain at ddirwyon a dedfryd o garchar.
Os rhoddir y dyfarniad o'r neilltu, bydd popeth yn mynd yn ôl i ddechrau'r hawliad. Fe gewch gyfle arall i ymateb i'r Ffurflen Hawlio, ac esbonio eich sefyllfa. Tynnir y Dyfarniad oddi ar Gofrestr y Llys Sirol nes y gwneir dyfarniad newydd.
Bydd rhai cwmnïau'n codi arian am wasanaethau 'trwsio credyd' sy'n honni eu bod yn gallu'ch helpu i gael tynnu'ch enw oddi ar y gofrestr - mynnwch gael cyngor annibynnol am ddim gyntaf cyn defnyddio un o'r cwmnïau hyn.
Os yw'r wybodaeth ar y gofrestr yn anghywir, fe allwch dalu £2 am gael gweld eich ffeil credyd a gofyn iddyn nhw gywiro unrhyw gamgymeriad. Ond cofiwch, dim ond dan yr amodau a ganlyn y tynnir dyfarniad oddi ar y gofrestr:
Fe allwch chi chwilio drwy'r cofnodion am unrhyw Ddyfarniad Llys Sirol sydd wedi'i gofrestru yn erbyn eich enw a chael 'wedi'i fodloni' wedi'i farcio arno os ydych chi wedi talu'r ddyled.
Bydd llawer o sefydliadau, megis y rhai a restrir yma, yn darparu cyngor am ddim - mynnwch gyngor annibynnol am ddim bob amser cyn defnyddio gwasanaeth masnachol.
Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.
Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'r llinell gymorth a llwytho cyhoeddiadau oddi ar eu gwefan.
Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled: ffoniwch eu llinell gymorth neu ewch i wefan y CCCS
Os ydych chi'n cael eich bygwth ag achos llys, edrychwch ar wefan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol i weld beth yw eich hawliau dan y gyfraith. Mae'n bosib y bydd gennych yr hawl i gael cyngor annibynnol am ddim hefyd gan eich Canolfan Gyfraith leol.