Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymateb i hawliad Llys Sirol

Os bydd rhywun wedi gwneud hawliad Llys Sirol yn eich erbyn, mae'n bwysig gwneud rhywbeth ar unwaith - dim ond 14 diwrnod fydd gennych chi i ymateb ar ôl i chi dderbyn yr hawliad. Os na fyddwch chi'n ymateb, neu os byddwch chi'n ei gadael hi'n rhy hwyr, fe ellid gwneud dyfarniad yn eich erbyn a allai ei gwneud yn anodd i chi gael credyd yn y dyfodol.

Os ydych chi am dalu'r swm yn llawn

Os penderfynwch chi dalu'r swm llawn, rhaid i chi:

  • gynnwys ffioedd y llys, y costau a'r llog (os nodir hynny) yn eich taliad
  • anfon y taliad yn syth at yr hawlydd (i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen gais)
  • sicrhau bod yr hawlydd yn derbyn eich taliad o fewn 14 diwrnod (gan ganiatáu o leiaf ddau ddiwrnod ar gyfer postio)
  • Mae'n syniad da gofyn am dderbynneb hefyd.

Os byddwch chi'n talu'n llawn cyn y dyddiad cau, does dim rhaid i chi gysylltu â'r llys na llenwi unrhyw un o'r ffurflenni.

Os na allwch chi fforddio talu'r swm i gyd ar unwaith

Os na allwch chi fforddio talu'r swm i gyd ar unwaith, gallwch ofyn am amser i dalu. Bydd angen i chi:

  • lenwi'r 'Ffurflen Addef' N9A
  • nodi ar y ffurflen sut y bwriadwch dalu (ee fesul tipyn)
  • anfon y ffurflen yn syth at yr hawlydd (i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen hawlio)
  • sicrhau bod yr hawlydd yn derbyn eich ffurflen o fewn 14 diwrnod (gan ganiatáu o leiaf ddau ddiwrnod ar gyfer postio)

Mae'n syniad da cadw copi i chi'ch hun hefyd.

Os nad ydych chi'n cytuno â'r swm sy'n ddyledus

Os oes arnoch chi rywfaint o arian, ond nad ydych chi'n cytuno â'r swm a hawlir, gelwir hyn yn 'gwneud addefiad rhannol'. Dylech wneud y canlynol:

  • dychwelyd y 'Ffurflenni Addef' N9A ac N9B i'r llys a'u hanfonodd atoch
  • dweud ar y ffurflenni faint yn eich barn chi sy'n ddyledus i'r hawlydd a pham eich bod yn meddwl nad oes arnoch chi fwy na hynny iddyn nhw
  • sicrhau bod y llys yn derbyn y ffurflenni o fewn 14 diwrnod (gan ganiatáu o leiaf ddau ddiwrnod ar gyfer postio)
  • naill ai talu'r swm rydych chi'n meddwl sy'n ddyledus ar unwaith, neu ofyn am amser i dalu fesul tipyn neu erbyn rhyw ddyddiad penodol

Os ydych chi'n bwriadu amddiffyn yr hawliad

Os ydych chi'n bwriadu amddiffyn yr hawliad, dylech:

  • ddychwelyd y 'Ffurflenni Addef' N9B i'r llys a'u hanfonodd atoch
  • ateb pob pwynt a godir ('cyhuddiadau') ym manylion yr hawliad
  • sicrhau bod y llys yn derbyn y ffurflen o fewn 14 diwrnod (gan ganiatáu o leiaf ddau ddiwrnod ar gyfer postio)

Os oes angen mwy o amser arnoch i ymateb

Os yw eich amddiffyniad yn gymhleth a bod angen mwy o amser arnoch i ymateb, llenwch y 'Ffurflen Cydnabyddiad Cyflwyno' N9.

Os byddwch chi'n ffeilio cydnabyddiad cyflwyno o fewn 14 diwrnod, bydd hyn yn golygu bod gennych 14 diwrnod arall i lenwi'r ffurflen amddiffyn.

Os ydych chi am wneud gwrth-hawliad

Os ydych chi'n meddwl bod ar yr hawlydd arian i chi ac y gallai hynny leihau rhywfaint ar yr hawliad neu ei ddileu'n llwyr, gelwir hyn yn 'gwneud gwrth-hawliad'.

Dan yr amgylchiadau hyn, dylech lenwi adran gwrth-hawliad y ffurflen amddiffyn.

Oes rhaid i chi dalu er mwyn ymateb i hawliad?

Gallwch ymateb i hawliad drwy wneud addefiad neu gyflwyno amddiffyniad heb dalu dim. Os byddwch yn cynnwys gwrth-hawliad, mae'n bosib y codir tâl. Bydd staff y llys yn gallu'ch cynghori ynghylch hyn.

Ble i gael cyngor

Help i lenwi'r ffurflenni

Bydd staff eich Llys Sirol lleol yn gallu ateb eich ymholiadau wrth lenwi'r ffurflenni ymateb.

Cyngor cyffredinol

Os nad ydych chi'n sicr beth i'w wneud, gallwch gael cyngor am ddim gan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 345 (9.00 am tan 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gall y gwasanaeth hwn ddweud wrthych hefyd a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ai peidio.

Neu, fe allwch gael cyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Ymateb i'r hawliad ar-lein

Os yw'r sawl sy'n gwneud yr hawliad yn eich erbyn wedi gwneud hynny drwy ddefnyddio gwasanaeth ar y we o'r enw Money Claim Online, gallwch ddewis defnyddio'r un gwasanaeth i ymateb. Bydd y manylion sydd eu hangen arnoch i gyflwyno'ch hun i'r system ar yr hawliad. Rhaid i chi ddal i ymateb o fewn 14 diwrnod, felly mae'n bwysig symud yn gyflym.

Beth sy'n digwydd os anwybyddwch chi'r hawliad?

Os anwybyddwch chi hawliad, neu os byddwch chi'n rhy hwyr yn ymateb, gall yr hawlydd ofyn am ddyfarniad yn eich erbyn heb i neb glywed eich ochr chi o'r stori. Gelwir hyn yn 'ddyfarniad trwy ddiffyg'.

Gall hyn arwain at orchymyn dyfarniad sy'n mynnu eich bod yn talu'r arian yn llawn (a chostau ar ben hynny) ar unwaith. Fe allai hyn effeithio ar eich sgôr credyd hefyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU