Os oes ar berson neu gwmni arian i chi, yna, mae'n 'ddyledwr'. Os ydyn nhw'n gwrthod talu, mae 'na ffyrdd o gael yr arian yn ôl. Bydd y camau a gymerwch chi'n dibynnu ar faint y ddyled a'ch gallu i brofi bod yr arian yn ddyledus i chi.
Wrth geisio adfer dyled, dylech yn gyntaf ysgrifennu at y dyledwr, gan nodi ffeithiau'r sefyllfa. Mae'n bwysig cynnwys gwybodaeth megis:
Mae'n bwysig:
Ceisiwch osgoi:
bygwth camau cyfreithiol heb fod yn fodlon cymryd y camau hynny
Os nad yw eich dyledwr yn ymateb i'ch llythyr neu os yw'n dal wrthod talu, fe all fod o help i chi drafod eich achos gyda thwrnai sy'n brofiadol ym maes adfer dyledion.
Am ffi, fe allan nhw ysgrifennu llythyr at eich dyledwr yn rhoi gwybod iddyn nhw y gellir cymryd camau cyfreithiol os na wnân nhw dalu. Gall llythyr twrnai arwain at ganlyniad cyflym.
Gall sgwrs gyda thwrnai hefyd fod o help i chi ddiffinio'ch achos o safbwynt cyfreithiol a gweld pa gamau pellach a all fod ar gael i chi.
Bydd rhai cwmnïau'n arbenigo ym maes adfer dyledion ac yn cyflogi twrnai i gymryd camau cyfreithiol i adfer eich dyled. Fe allen nhw godi ffi sefydlog neu gymryd canran o'r arian y byddan nhw'n ei adfer ar eich rhan.
Os bydd y dyledwr yn gwrthod setlo'r ddyled ar ôl i chi ysgrifennu atyn nhw, neu'n mynnu nad oes arnyn nhw arian i chi, mae dewisiadau eraill y dylech chi eu hystyried cyn cymryd camau cyfreithiol.
Gall mynd â'ch dyledwr i'r llys (gweler 'Adfer dyledion drwy'r llysoedd' isod) fod yn draul ar amser ac yn ddrud. Dewisiadau eraill yn lle gweithredu yn y llys yw'r cynllun cyflafareddu annibynnol, y cynllun cyfryngu a chynllun yr ombwdsmon (gelwir y rhain i gyd yn 'ddulliau amgen o ddatrys anghydfod' (ADR)).
Os na allwch chi setlo'r mater mewn ffordd arall, mae'n bosib y byddwch am wneud hawliad yn y llys; mae'n ddoeth, fodd bynnag, i chi geisio cyngor cyfreithiol annibynnol yn gyntaf.
Mae'n bwysig cofio'r canlynol hefyd:
Faint o arian sydd dan sylw fydd yn penderfynu a fydd eich achos yn cael ei wrando ai peidio. Mae'n ddoeth cael cyngor cyfreithiol os bydd eich hawliad dros £5,000.
Ar gyfer hawliadau am hyd at £5,000, gallwch gynrychioli'ch hun yn eich llys hawliadau bach lleol. Gall y llys wneud penderfyniadau ynghylch hawliadau am symiau penodol a chyhoeddi gwarantau'n gorfodi ei benderfyniadau. Fodd bynnag, ni all ddyfarnu iawndal o unrhyw fath.
Gall y Llys Sirol wrando hawliadau am unrhyw swm - does dim lleiafswm nac uchafswm.
Bydd achosion sy'n ymwneud â symiau dros £15,000 yn cael eu clywed yn yr Uchel Lys. Rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol a chael twrnai i'ch cynrychioli.
Gallwch hawlio hyd at £100,000 ar-lein. Ni chaiff yr hawliad fod yn erbyn mwy na dau o bobl.
Os ydy llys wedi penderfynu bod rhaid i rywun dalu swm o arian i chi a chithau heb ei dderbyn, cewch ofyn i'r llys orfodi ei benderfyniad.
Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn cynnig gwybodaeth a chyngor am eich hawliau cyfreithiol a bydd yn eich helpu i orfodi'r hawliau hynny.