Os oes gennych broblemau dyled, mae'n bosib eich bod yn meddwl am y posibilrwydd o fethdaliad. Mae'n bwysig deall beth yw methdaliad, a pha ddewisiadau eraill sydd ar gael. Nid yw methdaliad yn gyflwr parhaol, felly mae'n bosib y byddwch chi'n dewis hyn fel ffordd o glirio'ch dyledion a chychwyn o'r newydd.
Statws cyfreithiol yw methdaliad sydd fel arfer yn para am flwyddyn (edrychwch ar 'Pa mor hir y mae methdaliad yn para' isod) ac fe all fod yn ffordd o glirio dyledion na allwch chi mo'u talu. Pan fyddwch chi'n fethdalwr, bydd unrhyw asedau sydd gennych nad ydyn nhw'n angenrheidiol (eiddo a meddiannau) ac incwm ychwanegol yn cael eu defnyddio i dalu'ch credydwyr (y bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw). Ar ddiwedd cyfnod y methdaliad, bydd y rhan fwyaf o ddyledion yn cael eu dileu.
Gall llys eich datgan yn fethdalwr drwy gyhoeddi 'gorchymyn methdaliad' ar ôl iddo dderbyn 'deiseb methdaliad'.
Gellir llwytho ffurflen (deiseb dyledwr) oddi ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd neu gellir ei chael gan lysoedd sirol a chanddynt awdurdodaeth methdaliad.
Ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen, dylid mynd â hi i'ch llys sirol agosaf sydd ag awdurdodaeth methdaliad. Mae ffi o £150 yn ddyledus, er y gellir ei hepgor os ydych yn bodloni meini prawf penodol, pan fyddwch yn ffeilio'r ddeiseb.
Mae blaendal o £345, ar gyfer gwaith y Derbynnydd Swyddogol, hefyd yn ddyledus ar yr un adeg. Ni ellir hepgor y swm hwn.
Gall eich credydwyr gyflwyno deiseb credydwr i chi os oes arnoch chi ddyled heb ei sicrhau gwerth dros £750.
Unwaith y bydd achosion methdaliad wedi cychwyn, rhaid i chi gydweithredu'n llawn, hyd yn oed os mai deiseb credydwr ydy hi a'ch bod yn anghytuno â'r hawliad. Os oes modd, dylech geisio taro cytundeb cyn gwrando'r ddeiseb - mae gwneud hynny wedyn yn gallu bod yn anodd ac yn ddrud.
Mae methdaliad yn fater difrifol - bydd rhaid i chi ildio pethau sydd o werth i chi a'ch budd yn eich cartref. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi fynd yn fethdalwr dim ond am eich bod mewn dyled. Gallwch geisio gwneud trefniadau gyda'ch credydwyr yn lle hynny - gan gynnwys:
Fel arfer, cyflwynir deisebau methdaliad yn yr Uchel Lys yn Llundain neu mewn llys sirol yn yr ardal lle rydych chi'n byw neu'n masnachu (er nad yw pob llys sirol yn delio â deisebau methdaliad).
Penodir Derbynnydd Swyddogol i warchod eich asedau. Maen nhw'n gweithio fel ymddiriedolwyr ar gyfer eich methdaliad os nad oes gennych unrhyw asedau.
Os oes gennych asedau, penodir Ymarferydd Ansolfedd i fod yn ymddiriedolwr a gwerthu'ch asedau i dalu'ch credydwyr.
Unwaith y gwneir gorchymyn methdaliad yn eich erbyn, ni all eich credydwyr fynd ar eich ôl am daliad. Bydd yr ymddiriedolwr yn dod yn gyfrifol am y taliad.
Unwaith i chi fynd yn fethdalwr, bydd y Derbynnydd Swyddogol, neu'r ymddiriedolwr a benodwyd, yn gallu gwerthu'ch asedau i dalu'ch credydwyr. Fodd bynnag, ni fydd rhai pethau'n cael eu hystyried yn asedau at y pwrpas hwn, er enghraifft:
Gall y Derbynnydd Swyddogol edrych ar eich incwm (gan ystyried costau megis eich morgais, eich rhent a'ch biliau ar gyfer y cartref) a phenderfynu a ddylid gwneud taliadau i'ch credydwyr.
Mae'n bosib y gofynnir i chi lofnodi 'cytundeb taliadau incwm' i dalu rhandaliadau misol sefydlog o'ch incwm am dair blynedd.
Os na fyddwch chi'n talu (neu os na fyddwch chi'n llofnodi'r cytundeb yn wirfoddol), gall y Derbynnydd Swyddogol wneud cais am orchymyn taliadau incwm gan y llys i orchymyn i chi dalu - a hwnnw i fod mewn grym am o leiaf dair blynedd o ddyddiad y gorchymyn.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, bydd rhaid i chi roi gwybod i'r Derbynnydd Swyddogol, er mwyn iddynt adolygu'r trefniadau hyn.
Byddwch yn dal i orfod talu'ch costau rheolaidd megis rhent neu ddyledion sy'n codi ar ôl i chi fynd yn fethdalwr.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
Mae'n bosib hefyd y bydd rhaid i chi fynd i'r llys ac esbonio pam eich bod mewn dyled.
Fel arfer, bydd methdaliad yn para am flwyddyn. Ar ôl hyn, fe gewch eich 'rhyddhau' rhag eich methdaliad waeth faint sy'n dal i fod yn ddyledus gennych.
Fe allech chi gael eich rhyddhau'n gynt petaech chi'n cydweithredu'n llawn gyda'r Derbynnydd Swyddogol. Fodd bynnag, mewn nifer fach o achosion ac os ydych chi wedi ymddwyn yn anghyfrifol (ee, peidio â chydweithredu), fe all methdaliad bara'n hwy o lawer na blwyddyn.
Os ydych chi'n ystyried datgan eich hun yn fethdalwr neu'n cael eich bygwth gyda methdaliad, mae'n bwysig ceisio cyngor annibynnol.
Mae sawl asiantaeth yn cynnig help am ddim, gan gynnwys y Swyddfa Cyngor ar Bopeth, y National Debtline a'r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd i Ddefnyddwyr (CCCS).
Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn fan cychwyn da ar gyfer cyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.
Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (neges llais 24 awr). Gallwch hefyd anfon e-bost atynt.
Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled. Fe allwch chi ffonio'u llinell gymorth ar 0800 1381 111 rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd ysgrifennu atynt.