Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ôlddyledion Treth Gyngor

Fel arfer, byddwch yn talu'ch bil Treth Gyngor fesul tipyn dros 10 mis. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu, cysylltwch â'ch cyngor lleol ar unwaith ac esbonio'r sefyllfa - hwya'n y byd y byddwch chi'n anwybyddu problem ddyled, gwaethaf y bydd y sefyllfa.

Beth i'w wneud os na allwch chi dalu'ch Treth Gyngor

Yna, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol a chynnig gwneud taliadau rheolaidd y gallwch chi eu fforddio. Pan fyddwch chi wedi cytuno, mae'n bwysig cadw at y trefniant, felly peidiwch â chytuno i dalu mwy nag y gallwch ei fforddio. Dylech hefyd holi a ydych chi'n gymwys i gael help megis Budd-dal Treth Gyngor.

Os na allwch dalu'ch Treth Gyngor, rhestrwch bawb y mae arnoch chi arian iddyn nhw (eich credydwyr) a blaenoriaethu eich dyledion er mwyn i chi wybod pa ddyledion y mae'n rhaid i chi eu talu gyntaf. Nesaf, paratowch gyllideb bersonol er mwyn gweld faint y gallwch chi fforddio'i dalu i bob credydwr.

Tynnu arian o'r Cymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith

Mae'n bosib y byddwch chi'n gallu trefnu i daliadau gael eu gwneud tuag at eich Treth Gyngor yn uniongyrchol o'ch Cymhorthdal Incwm neu'ch Lwfans Ceisio Gwaith. Unwaith y sefydlir hyn, ni ddylai'r cyngor gymryd unrhyw gamau eraill i gael taliad. Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.

Beth os na fyddwch chi'n talu wedyn?

Os byddwch chi wedi gwneud trefniadau i dalu ond nad ydych chi'n cadw at y trefniadau hynny, gall eich cyngor ofyn i Lys yr Ynadon am 'Orchymyn Atebolrwydd' (gorchymyn i chi dalu'r swm llawn sy'n ddyledus a chostau).

Bydd y llys yn gwneud yn siur:

  • bod y cyngor wedi dilyn y drefn gywir
  • nad ydych wedi talu'r arian sy'n ddyledus
  • bod eich enw ar y wws

Mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch cyngor ar unwaith os tybiwch fod unrhyw un o'r ffeithiau'n anghywir neu fod y wybodaeth wedi newid.

Mae'n well i chi fynd i'r gwrandawiad yn y llys i esbonio'ch sefyllfa ac ateb y cwestiynau eich hun. Yna, gall y barnwr sicrhau bod y gorchymyn yn addas ar gyfer eich amgylchiadau.

Os bydd y llys yn gorchymyn i chi wneud taliadau na allwch chi mo'u fforddio, dylech ddal i dalu'r swm y gallwch chi ei fforddio a gwneud cais i'r llys ostwng y swm.

Canlyniadau anwybyddu Gorchymyn Atebolrwydd

Os bydd y llys yn gwneud Gorchymyn Atebolrwydd yn eich erbyn a chithau'n talu dim, gall eich cyngor gymryd camau.

Tynnu arian o'ch cyflog

Gall eich cyngor orchymyn i'ch cyflogwr dynnu swm rheolaidd o'ch cyflogau tuag at y Dreth Gyngor sydd heb ei thalu. Os bydd hyn yn peri caledi ariannol i chi, gallwch ofyn i'ch cyngor a ydyn nhw'n barod i dderbyn taliadau llai.

Beilïaid

Gall eich cyngor anfon beilïaid i'ch cartref i feddiannu eiddo i'w werthu. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at dalu eich dyled, yn ogystal â chostau. Byddan nhw'n anfon llythyr atoch o leiaf bythefnos cyn ymweliad cynta'r beili'n dweud faint o arian sy'n ddyledus gennych dan y Gorchymyn Atebolrwydd.

Gallwch gysylltu â'r cyngor a'r beilïaid a chynnig dod i gytundeb ynghylch taliadau. Mae'n bwysig gwneud hyn ar unwaith, oherwydd os bydd y beilïaid yn ymweld â chi, fe ellid ychwanegu'r costau at eich bil.

Gwrandawiad llys

Os yw eich cyngor wedi ceisio defnyddio beilïaid ond bod eich Treth Gyngor yn dal i fod heb ei thalu'n llawn, gallant wneud cais i'r Llys Ynadon orfodi mwy o gosbau. Mae'n bosib y gellid eich carcharu os ydych chi wedi 'gwrthod talu'n fwriadol' neu wedi 'esgeuluso talu' a chithau'n gallu gwneud hynny.

Bydd y llys yn ystyried:

  • pam nad ydych wedi talu
  • a allech chi fod wedi talu

Mae'n well i chi fynd i'r gwrandawiad yn y llys i esbonio'ch sefyllfa eich hun.

Gan amlaf, bydd y llys yn gorchymyn i chi dalu swm penodol bob mis i glirio'r ddyled. Os byddwch chi'n dal i wrthod neu'n esgeuluso talu, fe ellid eich carcharu am hyd at dri mis.

Ble i gael cyngor

Cyrff annibynnol yw llawer o gyrff cynghori, megis y rhai a restrir yma, ac ni fyddant yn codi tâl am roi cyngor. Mynnwch gyngor annibynnol am ddim bob tro cyn defnyddio gwasanaeth masnachol.

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar sut i ddelio a phroblemau dyled i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'u llinell gymorth a llwytho taflenni ffeithiau am ddim oddi ar eu gwefan.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled:

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Mae cyfeiriad eich canolfan CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU