Fel arfer, byddwch yn codi cytundeb hur bwrcas (HP) neu gytundeb 'gwerthu amodol' pan fyddwch chi'n prynu ceir neu ddodrefn. Dyled yw cytundeb HP, ac fel arfer, fyddwch chi ddim wir yn berchen ar eich nwyddau eich hun nes bod y ddyled wedi'i thalu. Tan hynny, y person brynoch chi'r nwyddau ganddyn nhw (y credydwr) biau nhw.
Bydd gwaith papur eich cytundeb yn dweud wrthych pa fath o gytundeb sydd gennych.
Os byddwch chi'n mynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau HP, gall credydwr ofyn i chi ddychwelyd eich nwyddau. Fodd bynnag, os ydych wedi talu mwy na thraean cyfanswm y ddyled, rhaid iddyn nhw fynd drwy'r Llysoedd Sirol gyntaf (neu Lysoedd y Siryf yn yr Alban).
Os ydych chi wedi talu llai na thraean eich dyled, dim ond gorchymyn llys fydd ei angen ar gredydwr i symud nwyddau o'ch eiddo. Ond nid oes rhaid iddyn nhw wneud hyn os ydyn nhw mewn man cyhoeddus. Er enghraifft, os oes gennych gytundeb Hur Bwrcas ar eich car, gall credydwr ei symud oddi ar y stryd heb orchymyn llys.
Mae'r llysoedd yno i'ch helpu chi a'r credydwr. Os gallwch ad-dalu'r ddyled mewn rhandaliadau rhesymol, mae'n bosib y bydd y llys yn gadael i chi gadw'ch nwyddau.
Yn y cyswllt hwn, fe all credydwr geisio cael 'Gorchymyn Dychwelyd' gan y llys sy'n eich gorfodi i ddychwelyd eich nwyddau. Fodd bynnag, rhaid cynnal gwrandawiad llys gyntaf (yn eich Llys Sirol lleol, mae'n debyg).
Cyn y gwrandawiad, mae'r llys yn anfon 'Ffurflen Hawlio' atoch, sy'n rhoi'r cyfle i chi ddychwelyd y nwyddau eich hun. Byddan nhw hefyd yn anfon 'ffurflen addef' atoch sy'n rhoi cyfle i chi:
Rhaid i chi anfon y ffurflen addef yn ôl i'r llys o fewn 14 diwrnod. Yna, bydd y llys yn sgwrsio gyda'r credydwr i weld a fydd yn barod i dderbyn eich telerau. Os bydd, caiff y gwrandawiad ei ganslo; os na fydd, neu os na fyddwch chi'n anfon y ffurflen yn ôl, bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen.
Yna, bydd y llys yn penderfynu a ddylid gorfodi'r gorchymyn Dychwelyd ynteu ei 'ohirio' (gan olygu y caiff ei orfodi os methwch chi daliad arall yn ddiweddarach). Os caniateir i chi gadw'r nwyddau, bydd y llys yn pennu eich taliadau misol newydd.
Os na fyddwch chi'n bresennol yn y gwrandawiad, fel arfer bydd y barnwr yn caniatáu'r Gorchymyn Dychwelyd
Yn yr achos hwn, dyma'r dewis fydd gennych:
Dan rai amodau, mae'n fwy realistig terfynu'r cytundeb - yn enwedig os na allwch chi wneud taliadau rhesymol.
Cewch derfynu cytundeb HP defnyddiwr (h.y. nid cytundeb rhwng busnesau) unrhyw bryd cyn gwneud y taliad terfynol. (Bydd pob taliad ar wahân i'r olaf un ar gyfer rhent; ac fe rennir y taliad terfynol rhwng y rhent a swm penodol i brynu'r nwyddau.)
fel arfer, cewch wneud hyn drwy roi'r nwyddau yn ôl. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd credydwyr yn gofyn am hyd at hanner cyfanswm y cytundeb gwreiddiol (wedi tynnu'r swm rydych chi eisoes wedi'i dalu) - waeth pryd y byddwch chi'n terfynu'r cytundeb. Hefyd, bydd rhaid i chi dalu'r ôlddyledion ac am unrhyw ddifrod (megis traul anghyffredin ar y dodrefn).
Bydd gwaith papur eich cytundeb yn nodi unrhyw amodau arbennig sydd gan y credydwr ar gyfer terfynu cytundeb.
Os oes dal arnoch chi arian i'r credydwr ar ôl dychwelyd y nwyddau, dylech drin hyn fel dyled gyffredin. Os anghytunwch chi â'r swm, rhaid i chi ysgrifennu at y credydwr ar unwaith.
Os bydd y credydwr yn mynd â'r ddyled i'r llys, fe gewch Ffurflen Hawlio a chyfle i gyflwyno'ch dadl (fel sy'n wir gydag unrhyw ddyled arall).
Cyrff annibynnol yw llawer o gyrff cynghori, megis y rhai a restrir yma, ac ni fyddant yn codi tâl am roi cyngor. Mynnwch gyngor annibynnol am ddim bob tro cyn defnyddio gwasanaeth masnachol.
Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'u llinell gymorth a llwytho taflenni ffeithiau am ddim oddi ar eu gwefan.
Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled:
Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Mae cyfeiriad eich swyddfa leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.