Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ôlddyledion morgais neu anawsterau talu

Os na allwch chi dalu'r arian sy'n ddyledus ar eich morgais, neu os ydych chi'n poeni am fynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, mae'n bwysig cysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted ag y bo modd. Mae gan fenthycwyr drefniadau ar gyfer delio ag anawsterau talu ac maen nhw'n barod i geisio helpu. Mae cyngor annibynnol ar gael am ddim gan gyrff eraill hefyd.

Cysylltwch â'ch benthyciwr a chytunwch ar gynllun

Mae benthycwyr morgeisi'n awyddus i helpu eu cwsmeriaid i ddatrys unrhyw anawsterau talu. Hefyd, mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid iddyn nhw'ch trin yn deg ac ystyried eich amgylchiadau. Mae'n bosib y gallwch chi a nhw gytuno ar drefniant talu.

Os ydych chi'n straffaglu i dalu

A dibynnu ar eich hanes talu ac a yw eich anawsterau'n debygol o fod yn rhai sy'n para am gyfnod hir ynteu dros dro, fe allai'r benthyciwr gytuno i'r canlynol:

  • lleihau eich taliadau am gyfnod penodol
  • codi llog am gyfnod yn unig, os oes gennych forgais ad-daliadau (fel arfer, byddwch chi'n talu cyfalaf a llog)
  • rhoi 'gwyliau talu' i chi
  • ymestyn cyfnod eich morgais i leihau eich ad-daliadau

Os ydych chi eisoes ar ei hôl hi gyda'ch taliadau

Os ydych chi eisoes wedi mynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, bydd eich benthyciwr yn awgrymu ffordd o dalu'r dyledion yn raddol, ochr yn ochr â'ch taliadau arferol. Os na allwch chi dalu'r taliadau ychwanegol, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gohirio'u talu am gyfnod, neu eu hychwanegu at eich benthyciad. Unwaith eto, mae'n dibynnu ar eich hanes chi fel talwr.

Talwch beth bynnag y gallwch chi bob tro

Talwch gymaint ag y gallwch chi'i fforddio bob mis. Mae talu'n rheolaidd (hyd yn oed os bydd y taliadau eu hunain yn amrywio) yn dangos bod gennych ymrwymiad. Mae eich benthyciwr y fwy tebygol o'ch trin gyda chydymdeimlad a bydd y taliadau am fod ar ei hôl hi'n llai hefyd.

Os yw eich morgais yn un sydd wedi'i godi ar 31 Hydref 2004 neu wedi hynny

Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r rhan fwyaf o forgeisio a godwyd ar ôl y dyddiad hwn. Dan reolau'r Awdurdod, rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac anfon datganiadau rheolaidd atoch i roi gwybod i chi am eich sefyllfa gyda golwg ar eich dyledion. Ceir rheolau hefyd ynghylch beth y mae'n rhaid i'r benthyciwr ei wneud os yw'n bwriadu adfeddiannu'ch cartref.

Beth os na allwch chi dalu'r ad-daliadau?

Mae'n bwysig iawn i chi beidio ag anwybyddu unrhyw broblemau talu. Mae morgeisi'n 'ddyledion â blaenoriaeth' ac felly fe ddylech chi dalu'r rhain gyntaf gan y gallai eich benthyciwr adfeddiannu eich cartref a'i werthu i gael eu harian.

Penderfynu faint y gallwch chi ei fforddio

Gall eich benthyciwr eich helpu i weld faint y gallwch chi ei fforddio, ond mae'n bosib y bydd yn well gennych wneud hyn eich hun. Man cychwyn da yw ysgrifennu i lawr eich incwm a'ch gwariant i gyd (ar wahân i'r morgais) a gweld beth sydd gennych dros ben. Mae gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol gyfrifiannell cyllidebu ar-lein y gallwch ei ddefnyddio.

Alla'i gael help ariannol?

Os ydych chi wedi colli'ch swydd neu os na allwch chi weithio oherwydd salwch

Os ydych chi wedi colli'ch swydd neu os ydych chi'n rhy sâl i weithio, holwch a oes gennych 'yswiriant gwarchod morgais' i dalu'ch taliadau. Mae'n bosib na fydd y taliadau yswiriant yn dechrau ar unwaith - felly cysylltwch â'ch yswiriwr cyn gynted ag y bo modd.

Budd-daliadau a allai gynyddu'ch incwm

Mae'n werth gweld a oes gennych yr hawl i fudd-daliadau megis Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu Fudd-dal Treth Gyngor. Mae'r rhain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'ch incwm ac fe allan nhw'ch helpu i dalu'ch morgais.

Cyrff sy'n gallu rhoi cyngor am ddim i chi

Mae cyngor annibynnol am ddim ar gael gan nifer o gyrff os cewch chi anhawster i dalu eich morgais. Bydd y rhain yn help i chi weld faint y gallwch ei fforddio mewn gwirionedd.

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae'r CAB yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn. Mae'r rhan fwyaf o CAB hefyd yn cynnig ymweld â chi gartref ac mae rhai'n rhoi cyngor dros yr e-bost.

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n rhoi cyngor annibynnol am sut i ymdopi â dyled. Mae gwybodaeth ar gael ar-lein neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0808 808 4000 (9.00 am tan 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.30 am ac 1.00 pm dydd Sadwrn).

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae'r Gwasanaeth Cwnsela yn cynnig gwasanaeth cwnsela am ddim ar gyllidebu personol a chyngor am ddefnyddio credyd. Fe allwch chi ffonio'u llinell wybodaeth am ddim ar 0800 138 1111 (rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Mae'r Gwasanaeth hwn yn cynnig gwybodaeth am ddim ynghylch problemau cyfreithiol ac fe all eich cysylltu â chynghorwyr lleol. Fe allwch chi ffonio'u llinell wybodaeth ar 0845 345 4345 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Arian yn dal yn ddyledus ar ôl adfeddiannu

Os bydd eich benthyciwr yn adfeddiannu eich cartref, byddan nhw'n ei werthu i gael eu harian yn ôl. Ond os byddan nhw'n gwerthu'ch cartref am lai na'r swm sy'n ddyledus iddyn nhw, mae'n bosib y byddan nhw eisiau i chi dalu gweddill y ddyled (y 'diffyg'). Nid yw hyn yn 'ddyled â blaenoriaeth' rhagor, sy'n golygu na all eich benthyciwr hawlio mwy o'ch eiddo neu'ch asedau. Ond fe allan nhw geisio adfer y ddyled am gyfnod hir - hyd at 12 mlynedd. Mae gwefan y National Debtline yn rhoi cyngor am beth i'w wneud os gofynnir i chi dalu'r diffyg ar forgais.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU