Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gorddrafftiau a dyledion eraill yn y banc

Gall gorddrafft a benthyciad banc fod yn ffordd hawdd o gael benthyg arian yn gyflym. Ond mae'n bosib y byddan nhw'n costio mwy i chi na'r disgwyl, yn enwedig os byddwch chi'n mynd i'r coch heb ofyn i'ch banc gyntaf. Dylech wastad sicrhau eich bod yn deall y cyfraddau llog, y ffioedd a'r telerau a bennir pan fyddwch chi'n cael benthyg arian.

Benthyg arian o'r banc

Cyn cael benthyg arian, dylech wastad ystyried:

  • a oes gwir angen benthyciad arnoch chi
  • a allwch chi fforddio'i dalu'n ôl

Gorddrafftiau

Gyda gorddrafft, gallwch wario mwy o arian nag sydd gennych yn eich cyfrif banc - hyd at derfyn y cytunwch chi arno gyda'ch banc. Dim ond ar yr union orddrafft y byddwch chi'n ei ddefnyddio y bydd rhaid i chi dalu llog, a does dim rhaid i chi ddweud wrth y banc at beth rydych chi'n bwriadu defnyddio'r arian.

Os ewch chi dros y terfyn, neu os ewch chi i'r coch heb drefnu hynny gyda'r banc gyntaf, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu tâl ychwanegol a chyfradd uchel o log ar ben hynny. Mae'n debyg y bydd eich banc yn codi arnoch chi am anfon llythyr atgoffa atoch, ac am unrhyw ddebyd uniongyrchol neu siec y byddwch chi'n eu bwydo drwy'ch cyfrif.

Mae'n bosib y bydd y banc hefyd yn rhewi eich cyfrif nes y bydd y gorddrafft wedi'i dalu - a bydd hynny'n golygu na allwch gael gafael ar unrhyw arian, megis eich cyflog, a delir i'r cyfrif.

Bydd rhai banciau hefyd yn codi ffi fisol a ffi am sefydlu'r gorddrafft, felly, fe all fod yn ddrud os benthyciwch chi swm mawr o arian heb ei dalu'n ôl yn gyflym.

Benthyciadau banc

Mae benthyciad yn drefniant ffurfiol, fel arfer am gyfnod penodol (a byddwch chi'n cytuno i hyn ar y cychwyn). Os ydych chi'n meddwl am godi benthyciad, bydd angen i chi gytuno i hynny gyda'ch benthyciwr:

  • faint o arian gewch chi ei fenthyca?
  • am ba mor hir y cewch chi fenthyca'r swm hwnnw
  • faint o log bydd rhaid i chi ei dalu

Rhaid i chi edrych yn ofalus ar y taliadau misol er mwyn sicrhau y byddwch yn gallu eu fforddio. Mae'n syniad da hefyd i chi siopa o gwmpas am y fargen orau cyn gwneud penderfyniad. Hefyd, cofiwch wneud yn siŵr nad oes unrhyw ddyled wedi'i sicrhau yn erbyn eich cartref.

Beth os cewch chi anhawster talu'r arian yn ôl

Mae arian sy'n ddyledus i'ch banc yn ddyled heb flaenoriaeth, sy'n golygu na fyddwch chi o anghenraid yn colli'ch cartref neu'n cael eich carcharu am beidio â thalu'r dyledion hyn, ond mae'n dal i fod yn bosib i'r banc fynd â chi i'r llys a'ch gorchymyn i dalu'r ddyled - a hynny'n aml gyda chostau ychwanegol ar ben y swm sy'n ddyledus.

Os oes arnoch chi arian i'r banc:

  • gwnewch restr o'ch dyledion i gyd
  • penderfynwch ba rai y mae angen i chi eu talu gyntaf
  • paratowch gyllideb bersonol
  • penderfynwch faint y gallwch gynnig ei dalu bob mis
  • mynnwch sgwrs â'ch banc am y sefyllfa

Rheoli ad-daliadau

Os na allwch chi dalu'ch ad-daliadau, mae'n bwysig cysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted ag y bo modd. Mae'r Cod bancio'n ymrwymo'ch benthyciwr i edrych ar eich sefyllfa gyda chydymdeimlad ac mewn ffordd gadarnhaol - byddan nhw'n aml iawn yn barod i drafod opsiynau megis newid cyfradd yr ad-daliadau, gadael i chi beidio â thalu am gyfnod, neu dalu'r benthyciad dros gyfnod hwy.

Methu ad-daliadau

Os byddwch chi'n methu ad-daliadau'n rheolaidd heb gael sgwrs am eich amgylchiadau gyda'ch benthyciwr, fe allai eich banc fynd â chi i'r llys am beidio â thalu a chael Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn. Bydd hyn yn cyfri yn eich erbyn os byddwch chi'n gwneud cais am gredyd o unrhyw fath yn y dyfodol.

Negodi gyda'ch banc

Mae hi bob amser yn werth ceisio cael eich banc i gynnig gwell bargen o ran cyfraddau ac amodau.

Pa bryd bynnag y byddwch chi'n negodi benthyciad neu orddrafft, mae'n syniad da dangos eich bod wedi meddwl yn ofalus am y peth. Yn ogystal â siarad â'r banc, fe allech ysgrifennu llythyr yn esbonio:

  • y rhesymau pam fod angen yr arian arnoch chi
  • am faint y bydd angen yr arian i bob golwg
  • sut y byddwch chi'n talu'r arian yn ôl

Mae'n bwysig bod yn onest am eich sefyllfa ariannol. Os ydych chi'n poeni am arian, mae'n ddoeth cysylltu â'ch banc cyn gynted ag y bo modd.

Setlo anghydfodau gyda'ch banc

Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad, fe allwch chi gwyno wrth eich banc. Fe allai anghydfod godi am:

  • log sydd wedi'i ychwanegu at fenthyciad
  • ffioedd ychwanegol annisgwyl
  • tynnu benthyciad yn ôl

Rhowch hyd at wyth wythnos i'ch banc geisio datrys eich cwyn. Yna, dylai'r banc anfon llythyr atoch yn nodi ei benderfyniad terfynol ac yn dweud wrthych sut mae cysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os ydych chi'n anhapus â'r canlyniad.

Os na chewch chi lythyr terfynol o fewn wyth wythnos, ac os nad ydych chi'n awyddus i roi mwy o amser i'r banc, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Ariannol i ofyn am ffurflen gwyno.

Ble i gael help a chyngor

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn fan cychwyn da ar gyfer cyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (neges llais 24 awr).

Hefyd mae gan wefan National Debtline cyhoeddiadau defnyddiol y gallwch eu llwytho oddi ar y we.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled. Fe allwch chi ffonio'u llinell gymorth ar 0800 1381 111 rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd ysgrifennu atynt.

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU