Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Biliau dyledus am wasanaethau

Os cewch chi drafferth talu biliau am wasanaethau, megis nwy a thrydan, mae'n bwysig delio â'r broblem. Mae cwmnïau'r prif wasanaethau (ac eithrio cyflenwyr dŵr - Gweler 'dyledion trethi dŵr' isod) yn gallu atal y cyflenwad. Mae hyd yn oed eich bil ffôn yn flaenoriaeth os oes angen ffôn arnoch i ennill eich bara beunyddiol.

Beth i'w wneud os na allwch chi dalu bil gwasanaethau

Rhestrwch eich credydwyr

Gwnewch restr o bawb yr ydych mewn dyled iddynt. Rhain yw’ch ‘credydwyr’.

Penderfynwch pa ddyledion i'w talu gyntaf

Rhestrwch eich credydwyr yn nhrefn eu pwysigrwydd er mwyn gwybod pa rai i'w talu gyntaf. Mae rhai biliau'n bwysicach i'w talu nag eraill am eu bod yn 'ddyledion â blaenoriaeth'. Mae biliau'r prif wasanaethau'n ddyledion â blaenoriaeth - mae hyn yn golygu y gall peidio â'u talu arwain at ganlyniadau difrifol.

Cael trefn ar eich cyllideb

Ceisiwch gael trefn ar eich cyllideb wythnosol neu fisol bersonol. Nodwch fanylion eich incwm a'ch gwariant. Edrychwch i weld beth y gallwch fforddio'i dalu i'ch credydwyr a phenderfynu faint y byddwch chi'n ei dalu i bob un.

Cysylltu â'ch cyflenwyr gwasanaethau

Cysylltwch â phob cwmni gwasanaethau os oes gennych fil ganddyn nhw heb ei dalu. Esboniwch eich sefyllfa a chynnig talu swm y gallwch ei fforddio.

Bydd pob cyflenwr tanwydd (trydan a nwy) yn dilyn cod ymarfer sy'n golygu na fyddan nhw'n atal eich cyflenwad os cytunwch chi ar gynllun talu a chadw ato. Dylech ddarllen cod ymarfer pob gwasanaeth unigol, ond fe ddylen nhw ystyried eich gallu i dalu - cwynwch wrth Cyswllt Defnyddwyr os nad ydyn nhw'n gwneud hyn (ewch i 'Beth i'w wneud os cewch chi broblemau wrth ddelio â'ch cyflenwr tanwydd' isod).

Gallai cynllun fel hyn gynnwys:

  • talu'n fisol neu'n wythnosol
  • defnyddio mesurydd talu-ymlaen-llaw

Gyda mesurydd talu-ymlaen-llaw, byddwch yn defnyddio cerdyn 'clyfar', 'allwedd' neu docyn (neu, weithiau ddarnau arian) i dalu am eich nwy neu'ch trydan wrth i chi ei ddefnyddio. Byddwch yn 'llenwi' eich cerdyn neu'ch allwedd mewn PwyntiauTalu megis siopau papur newydd a Swyddfeydd Post. Os oes gennych fesurydd wedi'i osod, cofiwch mai dim ond pan fyddwch chi wedi rhoi rhywbeth i mewn y cewch chi'r cyflenwad.

Budd-daliadau a all helpu

Os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar Incwm

Os oes gennych filiau heb eu talu gan gyflenwr tanwydd neu ddur, gallwch ofyn i'ch swyddfa budd-daliadau eu talu'n uniongyrchol o'ch budd-dal, gelwir y drefn hon yn Danwydd Uniongyrchol. Mae hyn yn talu am y tanwydd rydych chi'n ei ddefnyddio ar y pryd ac mae hefyd yn talu rhywfaint bob wythnos oddi ar y bil sy'n ddyledus.

Os byddwch chi'n defnyddio'r drefn Tanwydd Uniongyrchol, darllenwch eich mesurydd a dywedwch wrth eich swyddfa budd-daliadau - bydd hyn yn help i sicrhau bod eich cyflenwr yn deall y sefyllfa'n iawn.

Taliad tanwydd gaeaf

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hwn, fe allech gael Taliad Tanwydd Gaeaf i'ch helpu i dalu am gadw'n gynnes yn y gaeaf. Fel arfer, telir y budd-dal di-dreth hwn o fis Tachwedd ymlaen - a bydd y rhan fwyaf o'r taliadau wedi'u gwneud cyn y Nadolig.

Manteision eraill

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu'ch biliau gwasanaethau ond heb fod yn hawlio budd-daliadau, mae'n werth edrych i weld a ydych chi'n gymwys i gael rhai. Os ydych chi ar incwm isel neu os oes gennych gostau ychwanegol oherwydd eich sefyllfa bersonol, mae'n bosib y bydd rhai budd-daliadau y gallech eu hawlio.

Beth i'w wneud os cewch chi broblemau'n delio â'ch cyflenwydd tanwydd

Os ydych chi'n cael trafferth datrys yr anawsterau gyda'ch cyflenwydd tanwydd, dylech gysylltu â’r cwmni perthnasol yn syth. Gall Cyswllt Defnyddwyr ddarparu cyngor a gwybodaeth ar sut i barhau â’ch cwyn os ydych yn anfodlon gydag ymateb y cwmni.

Gallwch gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar 0845 040 506 neu ymweld â’i wefan am ragor o wybodaeth.

Dyledion trethi dŵr

Bydd llawer o gwmnïau dur yn anfon biliau ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ebrill ac ym mis Hydref. Gallwch dalu'ch bil i gyd ar unwaith neu fesul tipyn - bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis efallai. Os byddwch chi'n mynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, all y cwmni dur ddim atal eich cyflenwad, ond fe allan nhw gymryd camau i gael eu harian, ac, os oes angen, mynd â chi i'r llys.

Mae'n well cysylltu â'ch cwmni dur cyn gynted ag y bydd y broblem yn codi a chytuno ar gynllun i ad-dalu'r ddyled iddyn nhw. Ystyr cod gweithredu yw y dylai'r cwmni wneud ei orau glas i ddod o hyd i ateb sy'n deg i bawb.

Gweler 'Budd-daliadau a all helpu' uchod i weld a allwch chi gael help gyda'ch bil dur.

Os ydych chi'n cael trafferth datrys pethau gyda'ch cwmni dur, cewch gwyno wrth y Swyddfa Gwasanaethau Dur (Ofwat).

Ble i gael help a chyngor

Os oes gennych broblemau dyled, mynnwch gael help a chyngor gan arbenigwr. Mae Cyngor ar Bopeth (CAB) yn cynnig cyngor annibynnol am ddim ar ddelio gyda dyled.

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (neges llais 24 awr).

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU