Os oes arnoch chi arian i berson, efallai y bydd yn ceisio casglu'r ddyled drwy ddefnyddio beili neu gasglwr dyledion. Os bydd y bobl hyn yn cysylltu neu'n ymweld â chi, mae angen i chi wybod sut i ddelio â nhw, a beth yw eich hawliau a'ch dyletswyddau.
Gall eich credydwr (y person y mae arnoch chi arian iddo/i) wneud hawliad yn eich erbyn yn y Llys Sirol. Efallai y gwneir Dyfarniad Llys Sirol yn datgan y bydd yn rhaid i chi dalu'r ddyled yn ôl.
Gall eich credydwr ofyn i'r llys roi 'gwarant i weithredu', sy'n golygu y gellir defnyddio beilïod i helpu i gael yr arian.
Os oes arnoch chi dreth i Gyllid a Thollau EM, neu Dreth Gyngor i'ch awdurdod lleol, efallai y byddant yn defnyddio beilïod i gael yr arian sy'n ddyledus yn ôl.
Gall credydwyr ddefnyddio asiantaeth casglu dyledion i ofyn i chi dalu'r ddyled.
Nid yw casglwyr dyledion yn swyddogion llys ac nid oes ganddynt yr un pwerau â beilïod. Allan nhw ddim mynd i mewn i'ch cartref na chymryd eich eiddo personol.
Rhaid i gredydwyr a chasglwyr dyledion ddilyn canllawiau casglu dyledion y Swyddfa Masnachu Teg - mae tudalennau 14 i 19 taflen y Swyddfa Masnachu Teg 'Debt collection guidance' yn nodi'n fanwl sut y dylai casglwyr trethi ymddwyn.
Os cewch eich harasio gan gasglwr, dylech gysylltu ag adran safonau masnach eich cyngor lleol. Os cewch eich bygwth yn gorfforol, cysylltwch â'r heddlu.
Os oes Dyfarniad Llys Sirol wedi'r roi gyda golwg ar eich dyled a bod gwarant i weithredu wedi'i gyflwyno, gallwch geisio atal y beilïod rhag ymweld â'ch cartref drwy lenwi ffurflen N245 yn eich Llys Sirol lleol, gan gynnig ad-dalu'r ddyled, er enghraifft drwy dalu mewn rhandaliadau - dylai hwn bob amser fod yn gynnig y gallwch gadw ato. Os derbynnir hyn, bydd y warant yn cael ei ohirio dim ond i chi barhau i dalu'r taliadau y cytunwyd arnynt.
Os daw beilïod y Llys Sirol i'ch cartref, does dim rhaid i chi adael iddynt ddod i mewn.
Ni chânt wthio'u ffordd i mewn ar eu hymweliad cyntaf, ond gallant fynd i mewn drwy ffenestr agored, neu ddrws heb ei gloi. Mae gwthio'u ffordd i mewn yn cynnwys gwthio heibio i chi ar ôl ichi agor y drws neu roi eu troed yn y drws i'ch rhwystro chi rhag ei gau. Byddai camau o'r fath yn gwneud y broses gyfan yn anghyfreithlon.
Gall beilïod sy'n ceisio adfer arian sy'n ddyledus i Gyllid a Thollau EM dorri i mewn i'ch cartref, gyhyd â bod ganddynt warant gan lys ynadon.
Ond mae gan feilïod sy'n ceisio adfer dirwyon heb eu talu a roddwyd gan lysoedd ynadon hawl i wthio'u ffordd i mewn
Gallwch negodi gyda beilïod i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'r ddyled yn y fan a'r lle, fel eu bod yn gadael heb gymryd unrhyw beth. Os byddant yn derbyn unrhyw arian gennych, cofiwch gael derbynneb. Efallai y bydd beilïod yn fodlon cyfrannu at negodi rhesymol (yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol a chytundebol) - gwnewch gytundeb dim ond os gallwch fforddio i lynu wrtho.
Mae'n debyg y bydd treuliau a ffi'r beili am bob ymweliad ychwanegol yn cael eu hychwanegu at eich dyled - gallwch ofyn am fanylion y rhain unrhyw bryd, a gellir anghytuno â ffioedd. Os oes gennych chi gwestiynau am ffioedd a threuliau'r beili, dylech gael cyngor - darllenwch 'Ble i gael help a chyngor' isod.
Ni chaiff beilïod fynd â hanfodion megis dillad, dillad gwely, stôf, oergell, y rhan fwyaf o ddodrefn ac 'offer gweithio' (er enghraifft, cyfrifiadur a ddefnyddir gennych ar gyfer eich gwaith).
Gallant fynd ag eitemau nad ydynt yn hanfodol megis eich teledu. Gallant fynd ag eiddo sydd y tu allan i'ch cartref (er enghraifft, eich car neu offer garddio), neu eiddo mewn sied a garej heb eu cloi.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch taliadau rhent neu forgais, efallai y bydd eich landlord neu eich benthyciwr morgais yn cael gorchymyn meddiannu gan y Llys Sirol i'ch troi chi allan. Yn y sefyllfa hon, gall beilïod dorri i mewn i'ch cartref.
Mae delio gyda beilïod yn gymhleth; ceisiwch gymorth a chyngor annibynnol a di-dâl os oes rhaid i chi ddelio â nhw.
Mae National Debtline yn cynnig cyngor di-dâl i bobl gyda phroblemau dyled yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r CAB yn helpu i ddatrys problemau cyffredinol, cyfreithiol ac ariannol drwy roi cyngor di-dâl, annibynnol a chyfrinachol.