Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Delio â siarcod benthyg arian

Y cyngor gorau y gellir ei roi ar ddelio â siarcod benthyg arian yw 'peidiwch'. Benthycwyr arian heb drwydded ydy siarcod benthyg arian. Byddant yn codi cyfradd llog uchel iawn ac weithiau'n bygwth ac yn defnyddio trais er mwyn dychryn pobl sy'n methu ad-dalu eu benthyciad.

Beth yw siarc benthyg arian?

Benthyciwr arian heb drwydded ydy siarc benthyg arian. Mae benthycwyr arian â thrwydded yn cael eu rheoleiddio gan y Swyddfa Masnachu Teg a rhaid iddynt ddilyn eu codau ymarfer hwy.

Gan nad ydynt wedi'u trwyddedu, gall siarcod benthyg arian weithredu y tu allan i'r gyfraith. Os byddwch yn benthyg arian ganddynt mae'n debygol:

  • y byddwch yn cael benthyciad ar delerau gwael iawn
  • y byddwch yn talu cyfradd llog gormodol
  • y byddwch yn cael eich poeni os byddwch yn ei chael yn anodd ad-dalu'r arian mewn pryd
  • y rhoddir pwysau arnoch i fenthyg mwy ganddynt er mwyn ad-dalu un ddyled gyda'r llall

Sut i gael gwybod os yw benthyciwr wedi'i drwyddedu

Mae'r Gofrestr Gyhoeddus Credyd Defnyddwyr yn rhestru pawb sydd â thrwydded Swyddfa Masnachu Teg yn ogystal â phawb sydd wedi gwneud cais am un neu lle mae un wedi cael ei hatal neu'i gohirio. Gellir cael gwybodaeth sylfaenol oddi ar y gofrestr am ddim, gan gynnwys enwau masnachol a'r gweithgareddau y mae busnesau wedi'u trwyddedu i'w gwneud.

I chwilio'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch 020 7211 8608 rhwng 9.30am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad oes gan fenthyciwr ar y rhestr drwydded gyfredol, peidiwch â benthyg arian ganddynt.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian

Os ydych wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian nid oes unrhyw orfodaeth gyfreithiol arnoch i ad-dalu'r ddyled. Dylech gysylltu â'ch swyddfa Safonau Masnach leol yn syth. Byddant yn eich cynorthwyo i ddelio â'ch sefyllfa ac â'r siarc benthyg arian.

I ddod o hyd i'ch swyddfa Safonau Masnach agosaf rhowch eich cod post yn y blwch ar ochr dde hafan gwefan Safonau Masnach.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian

Os ydych wedi benthyg arian gan siarc benthyg arian nid oes unrhyw orfodaeth gyfreithiol arnoch i ad-dalu'r ddyled. Dylech gysylltu â'ch swyddfa Safonau Masnach leol yn syth. Byddant yn eich cynorthwyo i ddelio â'ch sefyllfa ac â'r siarc benthyg arian.

I ddod o hyd i'ch swyddfa Safonau Masnach agosaf rhowch eich cod post yn y blwch ar ochr dde hafan gwefan Safonau Masnach.

Rhifau ffôn y Timau Benthyg Arian yn Anghyfreithlon

Canol Lloegr (Gorllewin Canolbarth Lloegr) De-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a Humber a Dwyrain Lloegr

I rwystro siarcod benthyg arian ffoniwch 030 0555 222 neu anfonwch e-bost.

stoploansharks@birmingham.gov.uk

Gogledd-ddwyrain Lloegr

Gallwch ffonio 0800 030 4210 neu gysylltu â'r gwasanaeth negeseuon testun cyfrinachol drwy anfon 'net shark' a neges i'r rhif 60003

Llundain

Gallwch gysylltu dros y ffôn ar 020 7364 6886 neu anfon 'shark bait' a neges i'r rhif 60003 neu anfon e-bost.

sharkbait@lotsa.org.uk

De-orllewin Lloegr

I rwystro siarcod benthyg arian ffoniwch 030 0123 4247 neu anfonwch e-bost. stoploansharks@bristol.gov.uk

Dwyrain Canolbarth Lloegr

Gallwch ffonio un o'r llinellau ffôn isod ar gyfer yr ardal hon:

  • Nottingham ffoniwch 01158 510 351
  • Derby ffoniwch 01332 644 000
  • Caerlŷr ffoniwch 01162 179 550
  • Northampton ffoniwch 016046 511 099
  • Lincoln ffoniwch 01522 848 299

neu anfon 'loan shark' a neges i'r rhif 60003 neu anfon e-bost.

stoploansharks@nottinghamcity.gov.uk

Cymru

Gallwch gysylltu drwy ffonio 03001 233 311 neu anfon e-bost. imlu@cardiff.gov.uk

Yr Alban

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 01412 876 655    

A yw'n drosedd peidio ag ad-dalu benthyciad gan siarc benthyg arian?

Os nad oes gan fenthyciwr drwydded gan y Swyddfa Masnachu Teg nid oes ganddynt hawl gyfreithiol i adennill y ddyled.

Weithiau bydd siarcod benthyg arian yn dychryn pobl drwy ddweud wrthynt y byddant yn cael eu herlyn a hyd yn oed yn cael eu hanfon i garchar oni fyddant yn talu. All hyn ddim digwydd - nid yw'n drosedd peidio ag ad-dalu benthyciad gan fenthyciwr heb drwydded.

Beth i'w wneud os ydych chi'n cael eich harasio

Mae unrhyw fenthyciwr - yn drwyddedig neu beidio - sy'n eich harasio yn torri'r gyfraith. Dylech riportio unrhyw siarc benthyg arian i'ch swyddfa Safonau Masnach leol, ac os yw'r siarc benthyg arian yn eich bygwth neu'n bod yn dreisgar tuag atoch dylech ddweud wrth yr heddlu.

I ddod o hyd i'ch swyddfa Safonau Masnach agosaf rhowch eich cod post yn y blwch ar ochr dde hafan gwefan Safonau Masnach.

Ffyrdd eraill o fenthyg arian

Os oes angen benthyciad arnoch, ewch at fenthyciwr gyda thrwydded bob amser. Mae yna fenthycwyr ag enw da a fydd yn ystyried rhoi benthyg arian i chi hyd yn oed os yw'ch incwm yn isel, os yw eich sgôr credyd yn wael neu os mai ychydig o arian am gyfnod byr y mae ei angen arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog uchel o hyd ond bydd y Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn gwarchod cytundeb eich benthyciad. Er hyn, dylech chwilio o gwmpas am gredyd bob amser - dydy'r ffaith bod benthyciwr yn drwyddedig ddim o anghenraid yn golygu eich bod yn cael bargen dda.

Os ydych ar incwm isel ac y mae angen cael benthyg swm bychan arnoch am gyfnod byr, ystyriwch fenthyg gan undeb credyd. Bydd undebau credyd yn eich annog i gynilo beth allwch chi ac ni chewch fenthyg mwy na'r swm y gallwch ei fforddio i'w dalu'n ôl. Un y cant yw'r llog mwyaf y byddwch yn ei dalu bob mis, felly ni fydd y llog ar fenthyciad o £100 yn fwy na £1 y mis

Ble i gael help a chyngor

Bydd llawer o sefydliadau'n cynnig help ac arweiniad am ddim ynghylch materion ariannol. Mynnwch gyngor annibynnol am ddim bob tro cyn talu am wasanaeth masnachol.

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn fan cychwyn da ar gyfer cyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor ar broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

Llinell Gymorth Dyledion Cenedlaethol

Mae gwefan National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (neges llais 24 awr). Gallwch hefyd ysgrifennu atynt.

Mae gwefan y National Debtline hefyd yn cynnig nifer o gyhoeddiadau defnyddiol y gallwch chi eu llwytho oddi ar y we.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled. Fe allwch chi ffonio'u llinell gymorth ar 0800 1381 111 rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd ysgrifennu atynt.

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU