Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pa ddyledion i'w talu'n gyntaf

Wrth geisio cael trefn ar eich dyledion i weld sut mae eu talu'n ôl, bydd angen i chi weld pa rai sy'n ddyledion â blaenoriaeth. Bydd hyn yn golygu y gallwch chi ddefnyddio'r arian sydd ar gael i chi i setlo'r dyledion pwysicaf gyntaf.

Dyledion â blaenoriaeth

Nid y dyledion mwyaf o anghenraid yw'r rhai pwysicaf. Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhai lle gellir cymryd camau difrifol yn eich erbyn os na fyddwch chi'n talu'r hyn sy'n ddyledus.

Dyma ychydig o enghreifftiau o ddyledion â blaenoriaeth, a chanlyniadau peidio â delio â nhw.

Morgeisi

Os na fyddwch chi'n talu'ch taliadau morgais yn rheolaidd, fe all y benthyciwr gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i feddiannu'ch cartref a'i werthu, am ba bris bynnag y dymunant. Os bydd y pris gân nhw'n llai na'r ddyled sydd ar ôl, byddwch chi'n dal i fod yn atebol am y gweddill.

Rhent

Os byddwch chi'n mynd ar ei hôl hi gyda'ch rhent, gall eich landlord eich troi allan (a dal i fynd â chi i'r llys am yr arian sy'n ddyledus gennych).

Treth

Gall peidio â thalu treth arwain at gael eich gwneud yn fethdalwr neu'ch carcharu.

Biliau gwasanaethau

Gall cwmnïau nwy a thrydan ddatgysylltu'r cyflenwad i'ch cartref os na fyddwch chi'n talu eu biliau. Mae hyd yn oed eich bil ffôn yn flaenoriaeth os oes angen ffôn arnoch i ennill eich bara beunyddiol.

Dyled hur bwrcas (HP)

Os yw'r hyn rydych chi'n ei brynu ar gredyd (neu 'HP') yn hanfodol - megis prynu car sy'n angenrheidiol ar gyfer eich gwaith, dylech ystyried y ddyled honno'n flaenoriaeth.

Dyledion eraill sy'n flaenoriaeth

Fyddwch chi ddim o anghenraid yn colli'ch cartref neu'n cael eich carcharu am beidio â thalu dyledion 'heb flaenoriaeth', ond mae'n dal i fod yn bosib i rywun fynd â chi i'r llys a'ch gorchymyn i dalu'r ddyled - a hynny'n aml gyda chostau ychwanegol ar ben y swm sy'n ddyledus. Ar ôl i chi gael gorchymyn, os byddwch chi'n dal i wrthod talu, gellir defnyddio beilïaid i gymryd eich eiddo.

Dyma enghreifftiau o ddyledion sydd heb fod yn flaenoriaeth:

  • dyledion ar gerdyn credyd a cherdyn siop
  • dyledion catalog
  • gorddrafft a benthyciad banc
  • gordaliadau budd-daliadau
  • arian a fenthyciwyd oddi wrth ffrindiau neu'r teulu
  • nwyddau nad ydynt yn hanfodol sydd wedi eu prynu ar gytundeb hur-bwrcas (HP)

Fodd bynnag, unrhyw ddyled sy'n arwain at achos methdaliad fydd â'r flaenoriaeth uchaf. Unwaith y bydd achos methdaliad yn cychwyn, bydd unrhyw drugaredd y mae eich credydwyr eraill wedi'i ddangos tuag atoch yn diflannu wrth iddynt geisio gwarchod eich dyled iddyn nhw rhag y credydwyr eraill - mae'n bwysig iawn ymateb i unrhyw hawliad i'r llys cyn gynted ag y gallwch a cheisio cyngor.

Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Fyddwch chi ddim o anghenraid yn colli'ch cartref neu'n cael eich carcharu am beidio â thalu dyledion 'heb flaenoriaeth', ond mae'n dal i fod yn bosib i rywun fynd â chi i'r llys a'ch gorchymyn i dalu'r ddyled - a hynny'n aml gyda chostau ychwanegol ar ben y swm sy'n ddyledus. Ar ôl i chi gael gorchymyn, os byddwch chi'n dal i wrthod talu, gellir defnyddio beilïaid i gymryd eich eiddo.

Dyma enghreifftiau o ddyledion sydd heb fod yn flaenoriaeth:

  • dyledion ar gerdyn credyd a cherdyn siop
  • dyledion catalog
  • gorddrafft a benthyciad banc
  • gordaliadau budd-daliadau
  • arian a fenthyciwyd oddi wrth ffrindiau neu'r teulu

nwyddau nad ydynt yn hanfodol sydd wedi eu prynu ar gytundeb hur-bwrcas (HP)

Fodd bynnag, unrhyw ddyled sy'n arwain at achos methdaliad fydd â'r flaenoriaeth uchaf. Unwaith y bydd achos methdaliad yn cychwyn, bydd unrhyw drugaredd y mae eich credydwyr eraill wedi'i ddangos tuag atoch yn diflannu wrth iddynt geisio gwarchod eich dyled iddyn nhw rhag y credydwyr eraill - mae'n bwysig iawn ymateb i unrhyw hawliad i'r llys cyn gynted ag y gallwch a cheisio cyngor.

Ble i gael help a chyngor

Bydd llawer o sefydliadau'n cynnig help a chyngor. Mae'n bwysig dewis un a fydd yn rhoi'ch lles chi gyntaf - cofiwch sicrhau bod unrhyw gyngor geisiwch chi'n annibynnol ac am ddim.

Bydd rhai cwmnïau'n cynnig cyfuno'ch dyledion, ond gwasanaeth masnachol yw hwn, felly peidiwch ag ystyried defnyddio gwasanaeth fel hyn oni bai eich bod wedi cael cyngor annibynnol i wneud hynny.

Gall y sefydliadau canlynol gynnig cyngor annibynnol am ddim i chi:

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim am sut i ddelio a phroblemau dyled yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Maer gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth yn gallu'ch helpu i ddatrys problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim, o dros 3,200 o leoliadau ledled y wlad.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Elusen a noddir gan y diwydiant credyd yw'r Gwasanaeth Cwnsela ac mae'n cynnig cyngor am broblemau dyled - gan gynnwys paratoi cyllideb bersonol a chyngor am sut i ddefnyddio credyd yn gall.

Cyrff eraill

Bydd sefydliadau megis undebau llafur ac eglwysi yn aml yn cynnig llwybr at wasanaethau cwnselwyr hyfforddedig ym maes dyled a allai eich helpu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU