Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mynd i'r afael â phroblemau dyled

Os byddwch chi mewn dyled ac yn ei chael yn anodd ymdopi, mae'n bwysig delio â'r broblem ar unwaith - hwya'n y byd y byddwch chi'n anwybyddu'ch dyledion, gwaethaf y bydd y sefyllfa.

Gwnewch restr o'ch dyledion i gyd

Y cam cyntaf yw gweld yn union beth sy'n ddyledus gennych, ac i bwy (eich credydwyr). Yna, bydd angen i chi drefnu'r dyledion hyn yn nhrefn eu pwysigrwydd. Nid y dyledion mwyaf o anghenraid yw'r rhai pwysicaf (dyledion â blaenoriaeth). Dyledion â blaenoriaeth yw'r rhai sy'n gallu arwain at gamau difrifol yn eich erbyn os na fyddwch chi'n talu'r hyn sy'n ddyledus.

Dyledion â blaenoriaeth

Dyledion â blaenoriaeth yw pethau megis ad-daliadau morgais, rhent, trethi a thaliadau a orchmynnir gan y llysoedd: os na fyddwch chi'n datrys y pethau hyn, mae'n bosib y gallech chi golli'ch cartref neu fynd i'r carchar.

Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Enghreifftiau o ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yw taliadau cerdyn credyd, benthyciadau banc, ad-daliadau catalog ac arian rydych chi wedi'i fenthyg gan eich teulu neu'ch ffrindiau. Allwch chi ddim anwybyddu'r rhain, ond does dim rhaid i chi roi'r flaenoriaeth iddyn nhw.

Paratowch gyllideb bersonol

I gael gwybod pa ddyledion y gallwch chi fforddio'u talu, paratowch gyllideb wythnosol neu fisol i weld faint sydd ei angen arnoch chi i fyw. Mae'n bwysig bod yn realistig ac yn onest â chi'ch hun.

Bydd eich cyllideb yn dangos faint o arian y gallwch chi fforddio'i ymrwymo i dalu'ch dyledion. Fe allai eich cyllideb ddangos hefyd ymhle y gallwch chi arbed arian.

Help i baratoi cyllideb bersonol

Mae'r National Debtline yn cynnig pecyn hunan-gymorth a thaflenni am ddim, gan gynnwys help am sut i baratoi cyllideb bersonol. Gallwch lwytho'r rhain oddi ar eu gwefan neu ofyn iddyn nhw'u postio atoch drwy ffonio'u llinell gymorth.

Siarad â'ch credydwyr

Unwaith y byddwch chi'n gwybod faint y gallwch ei fforddio, gallwch sgwrsio gyda'ch credydwyr am eich sefyllfa a beth rydych chi'n bwriadu ei wneud yn ei gylch. Cynigiwch dalu pob dyled mewn ffordd y gallwch chi ei fforddio - mae'n bwysig peidio â chynnig talu mwy nag y gallwch chi ei fforddio a pheidio â thybio y byddwch chi'n gallu talu mwy yn y dyfodol.

Ar ôl siarad dros y ffôn, mae'n bwysig anfon llythyr yn cadarnhau'r hyn a ddywedwyd ac a gytunwyd gennych.

Efallai na fydd gennych fawr ddim neu ddim o gwbl ar ôl i'w gynnig i'ch credydwyr nad ydyn nhw'n flaenoriaeth. Ond dylech ddal i siarad â nhw, gan esbonio'r sefyllfa; mae'n bosib y byddwch chi'n gallu dweud wrthyn nhw y byddwch chi'n talu'ch dyled iddyn nhw rywbryd yn y dyfodol - ond peidiwch ag addo dim byd na allwch chi mo'i gadw.

Ble i gael help a chyngor

Mae llawer o sefydliadau'n cynnig cyngor annibynnol am ddim ynghylch problemau dyled, fel nad oes rhaid i chi ddefnyddio cwmnïau sy'n codi tâl.

Bydd y swyddog yn rhoi cymorth a chyngor i chi am ddim:

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn fan cychwyn da ar gyfer cyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'r llinell gymorth a llwytho cyhoeddiadau oddi ar eu gwefan.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled.

Eich awdurdod lleol

Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaeth cynghori am ddyledion yn rhad ac am ddim. Gallwch weld a yw'ch awdurdod lleol yn cynnig hyn trwy ddilyn y ddolen isod. Gofynnir i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna eir â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

Cyrff eraill

Os ydych chi'n cael eich bygwth ag achos llys, edrychwch ar wefan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol i weld beth yw eich hawliau dan y gyfraith. Mae'n bosib y bydd gennych yr hawl i gael cyngor annibynnol am ddim hefyd gan eich Canolfan Gyfraith leol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU