Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfuno dyledion

Cyfuno dyledion yw pan fyddwch yn codi un benthyciad newydd i dalu nifer o ddyledion sydd gennych. Gall hyn fod yn ffordd dda o gael rheolaeth dros eich sefyllfa ariannol ond rhaid i chi fod yn ofalus. Nid benthyciad cyfuno yw'r dewis gorau bob tro o anghenraid.

Cyn ystyried benthyciad cyfuno

Cyn penderfynu ar fenthyciad cyfuno, holwch beth sydd ar gael a pha ddewis arall sydd i chi. Gallai'r rhain gynnwys:

  • ceisio gwneud trefniadau newydd gyda'r benthycwyr sydd gennych eisoes
  • gwneud yn siur eich bod yn gwneud y defnydd gorau o'r opsiynau credyd sydd gennych eisoes - megis gorddrafft, cerdyn credyd neu gerdyn siop, benthyciad personol neu estyniad i'ch morgais
  • cael benthyg arian gan berthnasau

Gallech hefyd fanteisio ar y cyngor am ddim sydd ar gael gan wasanaethau cwnsela am ddyled megis y National Debtline. (Gweler 'Ble i gael help a chyngor' isod.)

Os byddwch chi'n penderfynu ar fenthyciad cyfuno, holwch o gwmpas i gael y telerau gorau gan fenthyciwr ag enw da. Fe allai cymdeithasau adeiladu a banciau gynnig benthyciad personol i chi.

Rhesymau dros ystyried benthyciad cyfuno

O'i ddefnyddio'n ofalus, gall benthyciad cyfuno eich helpu i gael rheolaeth dros eich materion ariannol eto. Dyma rai o'r manteision:

  • gallwch ei ddefnyddio i dalu'r dyledion sy'n flaenoriaeth (i gael gwybod mwy am ddyledion â blaenoriaeth, gweler y ddolen isod, 'Pa ddyledion i'w talu gyntaf')
  • gallech dalu cyfradd llog is - mae cyfraddau llog ar gyfer benthyg arian am gyfnod byr fel arfer yn uchel iawn (mae benthyciadau cyfuno'n cael eu trefnu dros gyfnod hwy ac fe allen nhw fod yn well i chi na benthyciad dros gyfnod byr)
  • fe allai eich taliadau misol fod yn is
  • byddwch yn gwybod pa bryd y byddwch yn gorffen talu'r ddyled
  • dim ond un taliad bob mis y bydd rhaid i chi ei wneud
  • dim ond gydag un benthyciwr y byddwch chi'n gorfod delio
  • fe allech chi osgoi mynd ar ei hôl hi gyda'r taliadau a chael sgôr credyd isel

Anfanteision posibl benthyciadau cyfuno

Cofiwch fod anfanteision hefyd, megis:

  • fe allech dalu mwy yn y pen draw a thros gyfnod hwy
  • byddwch fel arfer yn talu costau ychwanegol am sefydlu ac ad-dalu'r benthyciad newydd
  • os oedd llog y benthyciadau rydych chi'n eu cyfuno wedi'i ychwanegu ar y dechrau, byddwch chi'n talu llog ar y llog hwnnw - yn ogystal ag ar swm y benthyciad
  • bydd eich wyau i gyd yn yr un fasged - os cewch chi broblemau, fe allai fod yn fwy anodd cytuno ar drefniant newydd gydag un benthyciwr
  • os caiff y benthyciad ei sicrhau ar sail eich eiddo, byddwch yn wynebu risg os na allwch chi dalu'r taliadau

Sut mae dewis benthyciad cyfuno

Holwch o gwmpas am y telerau gorau - bydd yn arbed arian i chi. Cofiwch wneud yn sicr eich bod yn deall holl delerau ac amodau'r benthyciad megis;

  • am faint y byddwch chi'n ad-dalu'r benthyciad a faint y byddwch chi'n ei dalu i gyd
  • y gyfradd llog ac a oes modd i honno newid
  • beth yw'r ad-daliadau misol a beth fydd yn digwydd os collwch chi un
  • unrhyw gosbau neu gostau y bydd rhaid i chi eu talu os byddwch chi am dalu'r benthyciad yn ôl yn fuan
  • beth fydd yn digwydd os bydd y benthyciad wedi'i sicrhau ar sail eich cartref ac na allwch chi dalu'r ad-daliadau

Unwaith i chi drefnu benthyciad, ceisiwch gadw'ch sefyllfa ariannol dan reolaeth gadarn - er enghraifft, rhowch siswrn drwy'ch cardiau credyd a pheidiwch â gadael i'r ddyled gronni eto. Cofiwch y gall y benthyciwr roi pwysau arnoch i fenthyg mwy o arian drwy ymestyn y benthyciad.

Fe'ch anogir i godi yswiriant gyda'ch benthyciad. Cofiwch fod yn glir am y telerau, bod gwir angen y benthyciad arnoch ac y byddwch yn gallu hawlio'r yswiriant hwnnw os bydd rhaid.

Ble i gael help a chyngor

Mae cyngor annibynnol ar gael am ddim am ddyled gan nifer o wasanaethau cwnsela. Mae wastad yn well defnyddio'r rhain cyn defnyddio gwasanaeth masnachol.

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (neges llais 24 awr). Gallwch hefyd anfon e-bost atynt.

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled: Fe allwch chi ffonio'u llinell gymorth ar 0800 1381 111 rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd ysgrifennu atynt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU