Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllidebu

Cael gwybod sut gall cyllideb bersonol fod o help i chi gynllunio ymlaen llaw a gwneud yn fawr o'ch arian. Bydd hefyd yn help i chi gynllunio ar gyfer y dyfodol a thrafod gydag unrhyw bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw.

Pam paratoi cyllideb?

Wrth baratoi cyllideb fanwl, byddwch yn gallu osgoi costau dianghenraid ac arbed arian, neu atal eich hun rhag mynd i ddyledion mawr. Os oes gennych chi broblemau dyled yn barod, bydd cyllideb yn dangos i chi faint o arian sydd gennych dros ben. Bydd hyn yn help pan fyddwch chi'n sgwrsio gyda'ch credydwyr (y bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw), oherwydd byddwch chi'n gallu gwneud cynigion realistig iddyn nhw i'w talu'n ôl dros gyfnod o amser.

Paratoi eich cyllideb bersonol

Mae pecyn paratoi cyllideb yn cynnwys sawl pennawd ar gyfer gwahanol fathau o incwm a gwariant, ac fe allwch chi roi eich ffigurau chi'ch hun dan y rhain. Mae sawl pecyn fel hyn ar gael ar y rhyngrwyd; dewiswch yr un sydd orau i chi.

Gwariant

Dechreuwch drwy weld faint rydych chi'n ei wario: edrychwch ar eich datganiadau banc diweddar, a biliau nwy, trydan, ffôn, Treth Gyngor, trethi dŵr, yswiriant a chostau tebyg. Cofiwch gynnwys unrhyw beth y byddwch chi'n ei dalu drwy archeb sefydlog (er enghraifft, taliadau morgais neu rent, ad-daliadau ar fenthyciadau/hur bwrcas, neu daliadau cynnal plant).

Y cam nesaf yw amcangyfrif faint y byddwch chi'n ei wario ar nwyddau bob dydd (er enghraifft, bwyd, dillad, petrol, bwyd anifeiliaid anwes a phapurau newydd).

Yn olaf, dylech gynnwys amcangyfrif ar gyfer costau annisgwyl ac achlysurol (er enghraifft, anrhegion Nadolig a phen-blwydd, trwsio'r car neu bethau yn y cartref, biliau deintydd ac optegydd, gwyliau a thripiau).

Nodwch gyfanswm yr arian y byddwch chi'n ei wario mewn blwyddyn gron a'i rannu gyda 52 neu 12 i gael ffigur ar gyfer pob wythnos neu bob mis.

Incwm

Yna, rhestrwch eich incwm i gyd:

  • edrychwch ar eich slipiau cyflog i gael gwybod faint o gyflog yn union rydych chi'n ei gael
  • edrychwch ar eich datganiadau i weld faint o fudd-daliadau, Credyd Treth Plant ac incwm tebyg rydych chi'n ei gael
  • cofiwch gynnwys rhent lodjars neu gyfraniadau gan blant sy'n oedolion

Os ydych chi'n derbyn incwm yn afreolaidd dylech gyfrifo'r cyfartaledd dros gyfnod ac anwybyddu symiau untro neu symiau ansicr.

Nodwch gyfanswm eich incwm wythnosol neu fisol, ac yna tynnwch eich gwariant ohono i weld a oes gennych unrhyw arian dros ben, neu a ydych chi'n gwario mwy nag sy'n dod i mewn.

Os ydych chi'n gwario mwy nag sy'n dod i mewn

Os yw eich incwm yn llai na'ch gwariant, bydd rhaid i chi flaenoriaethu'ch gwario a thorri'n ôl ar bethau na allwch chi mo'u fforddio. Meddyliwch am:

Ar yr un pryd, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn derbyn cymaint o incwm ag y bo modd:

  • ceisiwch gael gwybod a allwch gael rhagor o fudd-daliadau neu gredydau treth
  • gwnewch yn siŵr bod pawb sy'n byw gyda chi ac sy'n ennill yn talu eu rhan

Ar yr un pryd, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn derbyn cymaint o incwm ag y bo modd:

  • ceisiwch gael gwybod a allwch gael rhagor o fudd-daliadau neu gredydau treth
  • gwnewch yn siur bod pawb sy'n byw gyda chi ac sy'n ennill yn talu eu rhan

Pan fydd gennych dipyn o arian dros ben

Hanfod cyllidebu yw sicrhau bod gennych arian dros ben ar ôl talu'ch biliau i gyd. Mae'n bosib y byddwch yn dymuno meddwl am roi arian sydd dros ben mewn cyfrif cynilo i dalu am gostau annisgwyl, neu tuag at gost fawr (gwyliau neu flaendal ar gar newydd, er enghraifft). Os yw'r swm yn weddol fawr, mae'n syniad da buddsoddi'r arian er mwyn iddo dyfu.

Edrychwch o gwmpas ar beth sydd ar gael cyn dewis pecyn cynilo neu fuddsoddi er mwyn sicrhau eich bod yn cael y fargen orau. Mae'n bosib y byddech hefyd yn dymuno cael cyngor proffesiynol cyn gwneud penderfyniad.

Cadw golwg ar eich cyllideb

Dim ond amcangyfrif o'ch incwm posib a faint rydych chi'n debygol o'i wario yw cyllideb. Mae'n bwysig cadw golwg ar eich incwm a'ch costau go iawn, er mwyn sicrhau bod eich cyllideb yn gywir.

Mae'n syniad da cadw llyfr nodiadau, ac yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, nodi popeth y byddwch chi'n ei wario. Byddwch yn gallu newid eich cyllideb i'w gwneud yn fwy cywir, ac mae'n bosib y byddwch chi'n cael rhywfaint o syniadau am ble y gallech chi arbed arian. Mae'n syniad da hefyd i chi adolygu eich cyllideb yn rheolaidd, er mwyn ymateb i newidiadau mawr yn eich amgylchiadau (swydd newydd, er enghraifft).

Ble i gael help a chyngor

Bydd llawer o sefydliadau'n cynnig help a chyngor am gyllidebu.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

Man cychwyn da i gael cyngor ariannol personol yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Addysg i Ddefnyddwyr

Mae'r wefan Addysg i Ddefnyddwyr yn cynnwys cyngor am ddelio gydag arian, gan gynnwys adran ar gyllidebu.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gwefan y CCCS yn cynnig rhestr ddefnyddiol o fathau o gostau, ac mae'n esbonio ambell derm ariannol.

National Debtline

Mae'r National Debtline yn rhoi cyngor am ddyledion dros y ffôn a gwybodaeth a phecynnau i'ch helpu, gan gynnwys pecyn cyllidebu ar-lein, ar eu gwefan.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU