Os ydych chi'n straffaglu gyda dyledion, mae'n bosib y byddan nhw'n ymddangos yn amhosib eu rheoli. Fodd bynnag, mae ffyrdd o ddianc rhag dyled, waeth pa mor ddrwg mae'r sefyllfa'n ymddangos. Ac mae digon o gyngor ar gael am ddim i'ch helpu.
Mae ar bawb fwy neu lai arian i rywun - mae biliau'n un o ffeithiau bywyd. Ond weithiau, mae'n bosib y byddwch chi'n boddi dan ddyledion ac na allwch chi weld ffordd o dalu'r cyfan. Y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud yw anwybyddu'r broblem - wnaiff hi ddim diflannu ar ei phen ei hun.
Os ydych chi mewn dyled, ceisiwch lunio cyllideb bersonol realistig er mwyn i chi wybod i ble mae'ch arian yn mynd a faint y gallwch chi fforddio'i dalu i'r bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw.
Os byddwch chi'n gweld nad oes gennych ddigon i dalu'ch dyledion, edrychwch ar ffyrdd o dorri'ch costau a chynyddu eich incwm.
Gallwch edrych ar eich costau i weld ymhle y gallwch chi arbed arian.
Gallech hefyd roi cynnig ar edrych o gwmpas i weld a allwch chi leihau'ch biliau neu ystyried gwerthu pethau sy'n eiddo i chi ac nad oes rhaid i chi eu cadw (ail gar er enghraifft).
Mae'n bosib eich bod mewn dyled hefyd am nad ydych chi'n derbyn yr holl arian y mae gennych yr hawl iddo.
Er enghraifft, mae'n beth doeth:
Os ydych chi'n meddwl am godi un benthyciad i dalu'r holl ddyledion sydd gennych, gwnewch yn siur nad ydych chi'n suddo i fwy o ddyled mewn gwirionedd. Gwnewch yn siur nad yw telerau'r benthyciad - y cyfraddau llog a hyd y benthyciad, er enghraifft - yn rhy llym. Byddwch yn ofalus iawn am godi benthyciad sydd wedi'i sicrhau ar eich cartref gan y bydd hynny'n rhoi'ch cartref mewn perygl.
Mae bob amser yn ddoeth ceisio cyngor annibynnol cyn codi unrhyw fath o fenthyciad.
Unwaith i chi gael trefn ar eich cyllideb bersonol, gallwch ddechrau trefnu gyda'ch credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt) faint y byddwch chi'n ei dalu. Mae 'na sawl dewis:
Os ydych chi'n gwybod na allwch chi dalu'ch dyledion i gyd, mae'n bwysig blaenoriaethu'ch dyledion ac ysgrifennu at eich credydwyr i weld a allwch chi gytuno ar amserlen ad-dalu.
Nid yw trefniant anffurfiol yn eich rhwymo'n gyfreithiol, felly fe allai eich credydwyr ei anwybyddu'n ddiweddarach a gofyn i chi dalu'n llawn. Gweler 'Ble i gael help a chyngor' isod i weld ymhle mae cyngor arbenigol am ddim ar gael.
Gall cwmnïau rheoli dyledion gynnig help i chi os ydych chi mewn dyled (fel arfer, dim ond â dyledion 'nad ydynt yn flaenoriaeth' y bydd y rhain yn delio - gweler y ddolen 'Cael gwybod mwy am ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth' isod). Byddan nhw'n trafod gyda'ch credydwyr ar eich rhan er mwyn gostwng eich taliadau'n gyffredinol. Wedyn, byddwch chi'n gwneud un taliad i'r Cwmni sy'n ei ddosbarthu i'r credydwyr.
Bydd credydwyr yn talu comisiwn i ambell gwmni rheoli dyledion. Fodd bynnag, bydd y rhan fwya'n codi ffi, felly mae'n bosib y bydd gennych lai o arian ar gael o'r incwm sydd gennych i setlo'ch dyledion.
Mae llawer o sefydliadau, megis y National Debtline, yn cynnig cynlluniau rheoli dyled am ddim, ac felly, does dim angen defnyddio gwasanaeth masnachol. Gweler 'Ble i gael help a chyngor am ddim' isod i weld manylion cysylltu.
Os na allwch chi gael trefniant anffurfiol, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gwneud cais am Drefniant Gwirfoddol Annibynnol, lle byddwch chi'n cytuno'n ffurfiol i dalu rhan neu'r cyfan o'ch dyledion dros gyfnod (pum mlynedd fel arfer). Rhaid i chi gael arbenigwr ansolfedd i sefydlu'r trefniant, a rhaid bod 75 y cant (gan ddibynnu ar werth eich dyledion) yn cytuno iddo. Cofiwch y gall gymryd sawl mis i drefnu Trefniant Gwirfoddol fel hyn, ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu ffi weinyddol fawr.
Os oes gennych ddyfarniadau gan fwy nag un credydwr, gall y llys gyfuno'ch dyledion a gwneud 'gorchymyn gweinyddu' - yn dweud bod rhaid i chi wneud un taliad bob mis i'w rannu rhwng eich credydwyr i gyd.
Dim ond os oes gennych ddigon o incwm rheolaidd bob mis i dalu'r ad-daliadau a bod cyfanswm eich dyledion yn llai na £5,000 y rhoddir gorchymyn. Gall yr ad-daliadau fod cyn lleied â £5 y mis os mai dyna'r cyfan y gallwch chi ei fforddio. Os yw hi'n anodd i chi dalu'r taliadau gallwch wneud cais am newid gorchymyn.
Unwaith i chi fynd yn fethdalwr, bydd gweinyddwr yn defnyddio'ch asedau (eiddo a meddiannau) i dalu'ch credydwyr.
Mae methdaliad yn fater difrifol - bydd rhaid i chi ildio pethau sydd o werth i chi a'ch budd yn eich cartref. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi fynd yn fethdalwr dim ond am eich bod mewn dyled - gallwch geisio trefnu pethau gyda'ch credydwyr yn lle hynny.
Mae sawl sefydliad yn cynnig cyngor annibynnol am ddim, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, y National Debtline a'r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd i Ddefnyddwyr (CCCS).
Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth yn fan cychwyn da ar gyfer cyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.
Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (neges llais 24 awr). Gallwch hefyd anfon e-bost atynt.
Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled: Fe allwch chi ffonio'u llinell gymorth ar 0800 1381 111 rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch hefyd ysgrifennu atynt.