Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Osgoi clymu'ch hun ormod

Un o ffeithiau bywyd yw biliau; dim ond pan fyddwch chi'n clymu'ch hun ormod ac nad oes gennych ddigon o incwm rhagor i dalu'r biliau sy'n dod i mewn y bydd hyn yn creu problem. Fodd bynnag, drwy baratoi cyllideb a chynllunio'n ofalus a thrwy fod yn realistig am yr hyn y gallwch chi ei fforddio, fe allwch osgoi problemau dyled a gwneud yn fawr o'ch incwm.

Clymu'ch hun ormod

Mae'n hawdd clymu'ch hun ormod; bob tro y byddwch chi'n llofnodi i gael gwasanaeth newydd (er enghraifft teledu cebl, aelodaeth o'r gym neu gontract ffôn symudol), prynu rhywbeth ar hur bwrcas neu ychwanegu at ddyled eich cerdyn credyd, byddwch yn clymu'ch hun i dalu mwy bob mis.

Newidiadau yn eich sefyllfa

Rheswm arall dros glymu'ch hun ormod efallai fyddai bod eich amgylchiadau personol yn newid a hynny'n golygu bod eich incwm yn gostwng - er enghraifft, os byddwch chi:

  • wedi colli eich swydd
  • wedi cael damwain a'ch bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'ch gwaith
  • wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Gallai unrhyw un o'r digwyddiadau hyn beri i'ch incwm ostwng gan olygu bod rhaid i chi newid eich blaenoriaethau gwario. Os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd mae'n bwysig ailystyried eich cyllideb cyn gynted ag y gallwch chi.

Cyllidebu

Gall cyllideb bersonol fod o help i chi gynllunio ymlaen llaw a gwneud yn fawr o'ch arian. Bydd angen i chi:

  • restru eich ymrwymiadau (er enghraifft, morgais, rhent, biliau)
  • penderfynu faint maen nhw'n ei gostio
  • gweld o ble mae'r arian yn dod i dalu amdanynt

Mae'n bwysig adolygu eich cyllideb yn rheolaidd, oherwydd bod eich amgylchiadau'n debygol o newid.

Blaenoriaethau a chynlluniau

Drwy baratoi cyllideb, byddwch yn gwybod faint o arian sydd gennych ar gyfer costau byw hanfodol (er enghraifft, biliau'r cartref, rhent neu forgais a bwyd) a faint y gallwch fforddio'i ymrwymo i gynlluniau eraill (prynu car, er enghraifft, prynu car, codi morgais, mynd ar wyliau neu gynilo ar gyfer y dyfodol).

Drwy flaenoriaethu eich ymrwymiadau, gallwch wneud yn siur bod eich anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu ac wedyn, gallwch benderfynu beth arall y gallwch ei fforddio, a beth y gall fod rhaid i chi gynilo ar ei gyfer neu wneud hebddo.

Sut i gael y budd mwyaf o'ch arian

Drwy holi o gwmpas a negodi gyda phobl - nid dim ond ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ond hefyd ar gyfer cynnyrch ariannol megis benthyciadau a chardiau credyd - gallwch wneud i'ch arian fynd ymhellach.

Camau i'w cymryd os byddwch wedi clymu'ch hun ormod

Os byddwch wedi clymu'ch hun ormod a bod gennych broblem ddyled, peidiwch ag anwybyddu'r sefyllfa.

Dyma ambell arwydd y gall fod gennych broblem:

  • ôlddyledion rhent neu forgais
  • codi benthyciadau newydd i dalu hen rai
  • talu'r swm isaf posibl ar eich cerdyn credyd
  • defnyddio cerdyn credyd ar gyfer pryniannau beunyddiol
  • anwybyddu llythyrau gan gredydwyr

Trwy restru a blaenoriaethu eich dyledion, cyllidebu a siarad â'ch credydwyr, gallwch gael trefn ar y sefyllfa.

Ble i gael help a chyngor

National Debtline

Mae'r National Debtline yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'u llinell gymorth a llwytho taflenni ffeithiau am ddim oddi ar eu gwefan.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth hefyd sy'n cynnig cyngor diduedd am ddim i bobl sydd â phroblemau gyda dyled:

Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae eich canolfan CAB leol yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim am broblemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill. Mae cyfeiriad eich swyddfa leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU