Mae dau fath o gyfrif banc i reoli arian bob dydd: cyfrif banc sylfaenol a chyfrif cyfredol. Mae banciau hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfrifon wedi'u cynllunio ar gyfer cynilion tymor canolig neu dymor hir. Bydd cyfrifon cynilo neu 'dymhorol' fel arfer yn talu mwy o log na chyfrifon sylfaenol a chyfrifon cyfredol.
Bydd cyfrifon banc sylfaenol yn cynnig lle cyfleus i roi a chadw arian y bydd arnoch ei angen o ddydd i ddydd. Gellir trefnu bod cyflogau, Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau neu gredydau treth yn cael eu talu i un. Gallwch hefyd dalu sieciau neu arian parod i mewn i'r cyfrif am ddim, a sefydlu 'debydau uniongyrchol' sy'n talu biliau rheolaidd allan o'ch cyfrif yn awtomatig.
Gyda chyfrif banc sylfaenol cewch gerdyn codi arian. Gallwch ddefnyddio'r cerdyn i dynnu arian allan o'ch cyfrif gan ddefnyddio peiriant yn y banc. Bydd rhai hefyd yn cynnig 'cerdyn debyd' y gallwch ei ddefnyddio i dalu am bethau ac i gael 'arian yn ôl'; gyda chyfrif sylfaenol, fodd bynnag, ni fydd y cardiau hyn yn gweithio onid oes digon o arian yn eich cyfrif.
Ni fyddwch yn cael llyfr siec gyda chyfrif banc sylfaenol, a chewch chi ddim cymryd mwy o arian allan o'ch cyfrif nac sydd gennych ynddo ('gordynnu'). Am y rheswm hwn mae cyfrifon banc sylfaenol yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n poeni am orwario.
Mae gan gyfrifon cyfredol fwy o nodweddion na chyfrifon banc sylfaenol. Er enghraifft, byddant fel arfer yn cynnig:
Bydd rhai cyfrifon cyfredol yn talu llog ar yr arian y byddwch yn ei adael yn y cyfrif, ond bydd y gyfradd fel arfer yn isel.
Mae banciau'n cynnig ystod eang o gyfrifon cynilo. Y prif wahaniaethau rhyngddynt yw pa mor aml y gallwch gael gafael ar eich arian, yr isafswm sydd ei angen i gadw'r cyfrif yn agored, y math o log a chyfradd y llog a delir.
Mae nifer o undebau credyd yn cynnig cyfrifon cynilo, lle gallwch dalu arian i mewn a chymryd arian allan. Gallwch hefyd drefnu bod eich budd-daliadau neu'ch cyflog yn cael eu talu'n syth i rai cyfrifon Undeb Credyd.
Mae rhai Undebau Credyd yn cynnig cyfrifon cyllidebu, lle byddwch yn talu swm penodol i mewn bob wythnos/mis a'u bod hwy'n talu biliau cartref y cytunwyd arnynt pan fyddant yn daladwy.
Mae rhai Undebau Credyd bellach yn cynnig cyfrifon cyfredol hefyd, a gall y 'llinellau arian' hefyd eich helpu i agor cyfrif.
Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn sicrhau bod banciau a chymdeithasau adeiladu mewn cyflwr ariannol da. Pe bai eich banc yn mynd i'r wal, mae'n bosib y byddech yn cael eich diogelu'n rhannol o leiaf trwy'r 'Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol'.
Os bydd arnoch eisiau gwneud cwyn, rhaid i fanciau a chymdeithasau adeiladu helpu drwy gael dulliau gweithredu mewnol a thrwy berthyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (gwasanaeth diduedd sy'n gallu helpu i setlo anghydfodau).
Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn dilyn y 'Cod Bancio' gwirfoddol. Mae hyn yn gosod safonau ar gyfer arfer bancio da o fewn y diwydiant o safbwynt delio â chwsmeriaid personol.