Rhaid i gwmni sy'n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ariannol ddilyn rheolau a safonau penodol a osodwyd gan ei gorff rheoleiddio ariannol. Lluniwyd y rhain er mwyn gwarchod hawliau defnyddwyr. Os nad ydynt yn glynu wrth y rheolau, cewch chi gwyno amdanynt. Hefyd, mae gennych fwy o hawliau os cawsoch chi gyngor ariannol ganddynt.
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yw corff gwarchod ariannol y DU a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu i reoleiddio gwasanaethau ariannol yn y DU ac i warchod hawliau defnyddwyr. Yr Awdurdod sy'n gosod y rheolau y mae'r rhan fwyaf o fusnesau gwasanaethau ariannol yn gorfod eu dilyn.
Rhaid i gwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol:
Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn darparu gwybodaeth a thaflenni ffeithiau rhad ac am ddim am amrywiaeth o gynnyrch ariannol. Mae'r wybodaeth yn cynnwys manylion am yr hyn y dylai cynghorwyr ariannol eu rhoi i chi a'r cwestiynau y dylech chi eu gofyn. I gael gwybod mwy, ewch i wefan yr Awdurdod.
I weld a yw cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, gallwch ddefnyddio'r 'Gwasanaeth Gwirio Cwmnïau' ar wefan yr Awdurdod.
Mae'r Bwrdd Safonau a Chod Bancio (Banking Code and Standards Board) yn sicrhau bod banciau a chymdeithasau adeiladu yn cydymffurfio â'r Cod Bancio (cod gwirfoddol ar gyfer delio gyda chwsmeriaid).
Er enghraifft, dylent wneud y canlynol:
Drwy fynd at gwmni awdurdodedig am gyngor, bydd gennych rywfaint o warchodaeth. Er enghraifft, rhaid i gwmnïau awdurdodedig lynu wrth y rheolau a'r safonau gofynnol a osodir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Hefyd, os ydych chi'n cael cyngor sy'n wallus oherwydd eich amgylchiadau, mae yna system i ddatrys cwynion ac unioni'r cam a wnaethpwyd, os oes angen.
Pan fyddwch chi'n prynu heb dderbyn cyngor, chi sy'n gyfrifol am eich penderfyniad ac os digwydd i'r cynnyrch fod yn anaddas, ni fydd eich dadl dros gwyno mor gryf.
Mae'n bwysig peidio â chamgymryd 'gwybodaeth' am gynnyrch gyda 'chyngor'.
Mae hysbysebion, cylchgronau a gwefannau cwmnïau yn rhoi manylion am eu cynnyrch, ond nid ydynt yn gyfystyr â rhoi cyngor personol i chi. Darllenwch y ddogfen 'Ffeithiau Allweddol am ein gwasanaeth' (dan reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol rhaid i gwmnïau roi'r daflen hon i chi cyn i chi brynu) i weld a ydych chi'n cael gwybodaeth neu gyngor a holwch y person yr ydych yn delio ag ef hefyd.
Os nad ydych chi'n fodlon gyda gwasanaeth ariannol neu gynnyrch ariannol yr ydych wedi'i brynu, mae gennych hawl i gwyno. Yn y lle cyntaf, dylech gwyno wrth y cwmni wnaeth werthu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth i chi. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, mae'n bosib y gallwch gael cymorth gan Gynllun Cwyno Annibynnol, megis y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol neu'r Ombwdsmon Pensiynau.
Gweler 'Yn yr adran hon' isod am fwy o wybodaeth ynghylch sut i wneud cwyn.
Cyn y gall sefydliad gadw eich manylion ar ffeil, rhaid iddynt gofrestru dan y Ddeddf Diogelu Data. Gallwch hefyd ofyn am gael gweld pa wybodaeth sydd ganddynt amdanoch chi.
Cyn y cewch brynu cynnyrch ariannol, mae'n bosib y bydd rhaid i chi ddarparu gwybodaeth sicr am eich amgylchiadau ariannol.
Os ydych yn gwneud cais am fenthyciad neu forgais, efallai bydd angen i'r cwmni wneud 'prawf credyd' drwy gyfrwng un o dair asiantaeth archwilio credyd y DU. Mae hyn yn golygu y byddant yn edrych yn ôl dros eich 'hanes credyd', sy'n helpu'r cwmni benderfynu a ydynt am roi benthyciad neu forgais i chi ai peidio. Mae hawl gennych wybod pa wybodaeth a gedwir amdanoch chi, a chywiro'r wybodaeth honno os yw'n anghywir.