Os nad ydych chi'n hapus gyda chynnyrch neu gyngor ariannol a gawsoch, yna gallwch chi gwyno. Rhaid i gwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gael trefn gwyno, a rhaid iddynt ymateb o fewn terfynau amser penodedig. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch gwyno wrth gynllun cwyno annibynnol.
Os nad ydych chi'n hapus gyda chynnyrch ariannol neu'r gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn, yna'r peth gorau yw cysylltu â'r cwmni cyn gynted â phosib. Mae gan gwmnïau ddyletswydd i drin eu cwsmeriaid yn deg, a byddant yn awyddus i helpu er mwyn datrys y broblem yn gyflym. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, mae gennych hawl i wneud cwyn ffurfiol er mwyn derbyn ymddiheuriad, cywiriad neu iawndal.
Os nad ydych eisoes wedi derbyn copi o drefn gwyno'r cwmni, yna gofynnwch am gopi. Ynddi, cewch enw'r person i anfon eich cwyn ato, gwybodaeth am ba bryd i ddisgwyl ymateb a'ch opsiynau os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad terfynol.
Os ydych chi'n anhapus gyda'r ymateb terfynol, neu os nad yw'ch cwyn wedi'i datrys cyn pen wyth wythnos, gallwch gyfeirio'ch cwyn i gynllun cwyno annibynnol. Gwasanaethau diduedd, rhad ac am ddim yw'r rhain sy'n cynnwys y canlynol:
Bydd trefn gwyno ysgrifenedig y cwmni'n cadarnhau pa gynllun y bydd angen i chi gysylltu ag ef. Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n delio gyda'r rhan fwyaf o gwynion am gwmnïau gwasanaethau ariannol.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl 'Cynlluniau Cwyno Annibynnol' - ewch i 'Yn yr adran hon' isod.
Os yw Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol wedi ystyried eich cwyn ond eich bod yn dal i fod yn anhapus, gallwch fynd i'r llys os mai dyna yw'ch dymuniad. Ond cofiwch y bydd y Llys, yn y rhan fwyaf o achosion, yn debygol o gytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon.
Os ydych eisoes wedi dilyn cynllun cyflafareddu neu fod yr Ombwdsmon Pensiynau wedi ystyried eich cwyn, fel arfer ni allwch fynd â'ch cwyn i'r llys. (Gallwch fynd yn syth i'r llys heb ddilyn y cynlluniau hyn, ond fe allai hyn arwain at gostau uwch.)
Os ydych chi'n mynd i'r llys, ewch i lys hawliau bychain. Gall systemau eraill y llys fod yn draul ar eich amser ac ar eich poced.
Os yw'r cwmni yr ydych chi'n delio ag ef wedi mynd i'r wal, mae'n annhebygol iawn y byddant yn ymateb i gwynion. Serch hynny, os oedd yn cael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, mae'n bosib y bydd gennych hawl i dderbyn iawndal dan y Cynllun Iawndal Ariannol.