Os ydych yn talu treth drwy’r system Talu Wrth Ennill (PAYE), mae Rhoi drwy’r Gyflogres yn cynnig ffordd syml o leihau’r gost o roi cyfraniad rheolaidd i elusennau yn y DU. Mae’n gadael i chi awdurdodi eich cyflogwr neu’r sawl sy’n talu’ch pensiwn personol/cwmni i roi cyfraniad o’ch cyflog neu’ch pensiwn cyn didynnu treth.
Gyda Rhoi drwy'r Gyflogres, rydych yn rhoi cyfraniadau i elusen yn syth o'ch cyflog neu’ch pensiwn personol/cwmni. Gwneir y cyfraniadau cyn cyfrifo a didynnu’r Dreth Incwm. O ganlyniad, dim ond ar yr hyn sydd ar ôl y byddwch chi'n talu treth.
Mae hyn yn golygu eich bod yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniad yn syth, a hynny ar eich cyfradd dreth uchaf.
Enghraifft – y gyfradd dreth sylfaenol a Rhoi drwy’r Gyflogres
Rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant, ac yn awdurdodi cyfraniad misol o £10. Mae hynny’n golygu y byddwch yn arbed £2 o dreth (20 y cant o £10). Gwir gost y cyfraniad i chi yw £8.
Enghraifft – y gyfradd dreth uwch a Rhoi drwy’r Gyflogres
Rydych yn talu treth ar y gyfradd uwch o 40 y cant, ac yn awdurdodi cyfaniad misol o £10. Mae hynny’n golygu y byddwch yn arbed £4 (40 y cant o £10). Gwir gost y cyfraniad i chi yw £6.
Gallwch Roi drwy'r Gyflogres os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Os nad yw'ch cyflogwr neu’r sawl sy'n talu’ch pensiwn yn gweithredu cynllun Rhoi drwy'r Gyflogres, gallech ofyn iddynt ystyried gwneud hynny. Gallant weld gwybodaeth am gynlluniau Rhoi drwy’r Gyflogres a manylion cyswllt asiantaethau Rhoi drwy'r Gyflogres ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Neu gallant ffonio’r llinell gymorth Elusennau ar 0845 302 0203, a dewis opsiwn pump. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch wneud cyfraniad drwy awdurdodi eich cyflogwr neu’r sawl sy’n talu’ch pensiwn i ddidynnu swm penodol o’ch cyflog neu’ch incwm pensiwn.
Bydd eich cyflogwr neu’r sawl sy’n talu’ch pensiwn yn trosglwyddo'ch cyfraniad i asiantaeth Rhoi drwy'r Gyflogres a gymeradwyir gan y llywodraeth, a fydd wedyn yn trosglwyddo'r arian i'r elusen o'ch dewis. Nid oes rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr neu’r sawl sy'n talu'ch pensiwn pa elusennau rydych chi'n eu cefnogi. Yn hytrach, gallwch lenwi ffurflen syml ar gyfer yr asiantaeth Rhoi drwy'r Gyflogres er mwyn dweud wrthynt i ble y dylent anfon eich cyfraniadau.
Gall rhai asiantaethau Rhoi drwy’r Gyflogres roi cerdyn elusen neu lyfr siec elusen i chi er mwyn i chi allu gwneud cyfraniadau uniongyrchol i unrhyw elusen pryd bynnag y dymunwch.
Ar ôl i gyfraniad gael ei ddidynnu o’ch cyflog neu’ch pensiwn, nid yw'n bosib cael ad-daliad. Mae’n bosib y bydd rhai asiantaethau yn codi ffi fechan, a ddidynnir o'ch cyfraniad, i dalu am gostau gweinyddol.
Nid yw Rhoi drwy'r Gyflogres yn effeithio ar unrhyw gyfraniadau eraill yr ydych am eu gwneud i elusen. Er enghraifft, gallwch roi cyfraniadau eraill drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd.