Mae Cymorth Rhodd yn cynnig ffordd syml o gynyddu gwerth rhodd o arian gan drethdalwyr y DU i elusennau neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC) drwy ganiatáu i CASC adhawlio'r gyfradd dreth sylfaenol sydd eisoes wedi'i thalu ar y rhodd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Ers i Cymorth Rhodd gael ei gyflwyno mae wedi cynyddu o ran maint fel ei fod werth bron i £1 biliwn y flwyddyn i elusennau'r DU a'u rhoddwyr.
Mae Cymorth Rhodd yn gweithio drwy alluogi elusennau i gymryd rhodd (sef yr arian y mae'r rhoddwr eisoes wedi talu treth arno), ac yna adhawlio'r dreth ar y 'gros' sy'n cyfateb i'r rhodd (ei werth cyn y tynnwyd y dreth) ar y gyfradd sylfaenol. Bydd hyn yn 20 y cant o 6 Ebrill 2008.
Yn ymarferol, golyga hyn y gall yr elusen hawlio 25 ceiniog ychwanegol gan CTEM am bob punt a roddir i elusen drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd. Hefyd, bydd CTEM yn talu 3 ceiniog yn ychwanegol i'r elusen yn awtomatig am bob punt o Gymorth Rhodd y bydd yn ei gael rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2011; darparwyd y rhyddhad trosiannol hwn gan y Llywodraeth er mwyn galluogi elusennau i addasu i'r gwymp yng nghyfradd sylfaenol treth (o 22% i 20%) o 6 Ebrill 2008. Golyga hyn y bydd yr elusen yn parhau i gael 28 ceiniog am bob punt a roddir drwy Cymorth Rhodd.
Gall Cymorth Rhodd fod yn berthnasol i roddion unwaith ac-am-byth neu i gyfres o roddion rheolaidd.
Datganiadau cymorth rhodd
Er mwyn i rodd fod yn gymwys o dan Gymorth Rhodd bydd angen i'r rhoddwr roi datganiad yn nodi ei fod am roi rhodd drwy gynllun Cymorth Rhodd a chadarnhau ei fod wedi talu digon o dreth i dalu am arian y mae'r elusen wedi'i hawlio. Gall yr elusen ofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu mae'n bosib y byddant yn derbyn datganiadau ar lafar.
Gall datganiad Cymorth Rhodd fod yn berthnasol i:
Bydd yr elusen yn gofyn pa fath o ddatganiad y mae'r rhoddwr am ei wneud.
Gall rhoddwr ddefnyddio Cymorth Rhodd os yw swm y dreth maent wedi'i dalu yn ystod blwyddyn dreth y rhodd yn ddigon i dalu am swm y dreth y bydd yr elusen yn ei adhawlio yn erbyn y rhodd. Gall i dretha dalwyd gan y rhoddwr fod yn Dreth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu'n gredydau treth ar ddifidendau cwmni yn y DU. Mae blynyddoedd treth yn dechrau ar 6 Ebrill ac yn parhau tan 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Trethdalwyr ar y gyfradd uwch
Gall trethdalwr sy'n cyfrannu arian ar gyfradd uwch drwy Cymorth Rhodd hawlio'r gwahaniaeth rhwng y gyfradd dreth uwch o 40 y cant a'r gyfradd sylfaenol o 20 y cant ar gyfanswm gwerth y cyfraniad i'r elusen/CASC (y rhodd 'gros').
Gall y rhoddwr ddewis rhoi rhywfaint o'r gwahaniaeth neu'r cyfan ohono i elusen.
Bydd gan roddwyr sy'n cwblhau ffurflen dreth Hunan-Asesu ddewis i hawlio cyfradd uwch y gostyngiad treth ar unrhyw roddion a roddir i elusen. Gall rhoddwyr nad ydynt yn cwblhau ffurflen dreth Hunan-Asesu ffonio eu swyddfa dreth leol a chael y gostyngiad cyfradd uwch wedi'i adlewyrchu yn eu cod treth PAYE.
SA Donate
Mae SA Donate yn gynllun i roddwyr sy'n cwblhau ffurflen dreth Hunan-Asesu ac mae'n galluogi rhoddwyr i roi unrhyw ad-daliad treth y mae ganddynt hawl iddo yn uniongyrchol i elusen.
Pobl nad ydynt yn talu treth
Os nad ydych yn talu treth, ni ddylech ddefnyddio Cymorth Rhodd.
Cyllid a Thollau EM yw'r arweiniad a'r cymorth mwyaf cynhwysfawr i elusennau ar gyfer hawlio Cymorth Rhodd. Drwy eu harweiniad ar-lein a'u llinell gymorth dros y ffôn, bydd CTEM yn gallu rhoi cyngor ar hawlio Cymorth Rhodd yn unol â'ch amgylchiadau penodol.
Mae gan y Llywodraeth ymrwymiad tymor hir i gefnogi elusennau a galluogi pobl i roi arian at achosion da. Yn draddodiadol, mae hyn wedi digwydd drwy gymhellion treth, sy'n ddull pwysig i elusennau, ond nid dyma'r ateb yn llwyr. Mae Swyddfa'r Trydydd sector yn darparu gwybodaeth am ffyrdd eraill o gefnogi elusennau
Mae'r Sefydliad Codi Arian yn rhedeg Rhaglen Hyfforddiant Elusennau Bach. Mae ei weithdy rhad yn rhoi awgrymiadau a syniadau i elusennau ar sut i roi hwb i'w dulliau codi arian drwy eu gwneud yn fwy treth-effeithiol
Gall elusennau hefyd ddysgu mwy am Gymorth Rhodd gan godwyr arian eraill drwy fforwm mentora Cymorth Rhodd. Mae'r fforwm yn galluogi ymarferwyr Cymorth Rhodd i rannu eu profiadau a'u cyngor yn anffurfiol ar-lein.
Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol nad ydynt yn elusennau eu hunain ond bod ganddynt ddiben elusennol hawlio mantais Cymorth Rhodd pan gaiff rhoddion gan gefnogwyr eu rhoi drwy elusen gofrestredig