Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfraniadau drwy'r cynllun Rhoi drwy'r Gyflogres sy'n arbed treth

Mae Rhoi drwy'r Gyflogres yn ffordd hawdd o gynyddu gwerth eich rhodd i elusen trwy adael ichi awdurdodi'ch cyflogwr i wneud y cyfraniad o'ch cyflog cyn didynnu unrhyw dreth.

Sut mae Rhoi drwy'r Gyflogres yn gweithio

Gyda Rhoi drwy'r Gyflogres rydych yn gwneud eich cyfraniadau i elusen yn syth o'ch cyflog. Gwneir y cyfraniadau ar ôl didynnu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ond cyn didynnu treth. Oherwydd eich bod yn rhoi'r arian cyn y cyfrifir eich treth, rydych ond yn talu treth ar yr hyn sydd ar ôl. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael gostyngiad treth yn syth ar eich cyfradd dreth uchaf.

Pwy sy'n gallu defnyddio Rhoi drwy'r Gyflogres?

Gallwch ddefnyddio Rhoi drwy'r Gyflogres os yw'r ddau isod yn berthnasol:

  • os ydych yn weithiwr neu'n bensiynwr a bod eich cyflogwr yn tynnu treth o'ch tâl neu'ch pensiwn
  • os yw'ch cyflogwr yn gweithredu'r cynllun Rhoi drwy'r Gyflogres

Os nad yw'ch cyflogwr yn gweithredu'r cyfryw gynllun, gallech ofyn iddynt ystyried gwneud hynny. Gallant gael gwybodaeth am y cynllun ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Neu gallant ffonio llinell gymorth Elusennau Cyllid a Thollau EM ar 0845 3020203 (a dewis opsiwn pump). Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau, a rhwng 8.30 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Sut i wneud cyfraniad gan ddefnyddio Rhoi drwy'r Gyflogres

Gallwch wneud cyfraniad drwy awdurdodi'ch cyflogwr i ddidynnu rhoddion i elusen o'ch cyflog.

Mae'ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn trosglwyddo'ch rhodd i asiantaeth Rhoi drwy'r Gyflogres a gymeradwyir gan y llywodraeth, sydd wedyn yn trosglwyddo'r arian i'r elusen o'ch dewis.

Gallwch ddewis pa un ai a i wneud eich cyfraniad yn ddi-enw a chadw eich dewis o elusen yn gyfrinachol.

Mae rhai asiantaethau'n rhoi cerdyn elusen neu lyfr siec elusen ichi er mwyn i chi allu rhoi'n uniongyrchol i unrhyw elusen ar amser o'ch dewis chi.

Rhoi drwy'r Gyflogres a rhoddion eraill i elusen

Nid yw Rhoi drwy'r Gyflogres yn effeithio ar unrhyw gyfraniadau eraill yr ydych am eu gwneud i elusen. Gallwch, er enghraifft, roi cyfraniadau eraill gan ddefnyddio Cymorth Rhodd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU