Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael cyngor am gynnyrch yswiriant

Gallwch brynu yswiriant yn seiliedig ar wybodaeth yn unig neu ar ôl cael cyngor. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r rhan fwyaf o werthiannau yswiriant yn y DU. Dim ond polisi yswiriant sy'n addas ar eich cyfer y caiff cynghorwyr yswiriant ei argymell i chi.

Y gwahaniaeth rhwng cyngor a gwybodaeth

Pan fyddwch yn cael cyngor am yswiriant, bydd y brocer neu'r ymgynghorydd ariannol yn edrych ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol ac yn argymell polisi a fydd yn eu diwallu. Mae hyn yn aml yn golygu cyfarfod wyneb-yn-wyneb, ond gallwch gael cyngor mewn ffyrdd eraill, er enghraifft dros y ffôn, e-bost neu drwy'r post. Yn unol â rheolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, os daw'n amlwg na chawsoch gyngor addas bydd gennych yr hawl i gwyno ac, mewn rhai amgylchiadau, i hawlio iawndal.

Prynu heb gael cyngor

Rhaid i gwmnïau yn y DU sy'n gwerthu yswiriant heb gyngor gadw at reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth benodol i chi am eu gwasanaethau a'u cynnyrch (gweler yr adran nesaf). Ond os prynwch yswiriant heb gael cyngor chi sy'n penderfynu a ydy'r polisi'n addas ar eich cyfer ai peidio. Os aiff pethau o chwith efallai y bydd yn anoddach i chi gwyno.

Gwybodaeth y mae'n rhaid i'r brocer yswiriant ei roi i chi

Rhaid i gwmnïau sydd wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ddilyn rheolau a safonau penodol, gan gynnwys rhoi gwybodaeth benodol i chi.

Gwybodaeth am wasanaeth y brocer

Pan fyddwch yn cysylltu â darparwr yswiriant, byddant yn rhoi manylion y gwasanaeth y byddant yn ei gynnig i chi. Gall fod mewn ‘dogfen ynghylch ein gwasanaeth’, ond nid yw hyn yn ofynnol.

Byddant yn dweud wrthych:

  • ai cynnig cyngor i chi ynteu wybodaeth yn unig ynghylch y cynnyrch y maent
  • polisïau yswiriant pwy y byddant yn eu cynnig - gall fod gan un cwmni yn unig neu sawl cwmni
  • faint y bydd rhaid i chi ei dalu am y gwasanaeth

Defnyddiwch y ddogfen hon, neu’r wybodaeth hon, i siopa o gwmpas i gael y gwasanaeth y dymunwch am bris sy’n eich bodloni chi.

Gwybodaeth am y polisi yswiriant

Unwaith y byddwch wedi trafod beth fydd ei angen arnoch ac wedi ateb y cwestiynau i gyd amdanoch chi’ch hun a beth yr ydych am ei yswirio, bydd y canolwr, cwmni yswiriant neu’r cwmni sy’n gwerthu’r yswiriant i chi yn rhoi gwybodaeth allweddol am y polisi i chi. Bydd hon yn nodi’r ffeithiau hanfodol.

Ar gyfer yswiriant sy'n ymwneud â buddsoddi rhaid iddynt roi dogfen nodweddion allweddol fanylach i chi yn cynnwys darlun o sut y bydd eich buddsoddiad yn perfformio dros gyfnod o amser.

Sut i ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio'u gwasanaeth Gwirio ein Cofrestr ar-lein.

Cwmnïau sy'n gweithredu y tu allan i'r DU

Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr yswiriant Ewropeaidd yn cael eu rheoleiddio yn eu gwledydd eu hunain, ond bydd angen i chi gadarnhau hyn - a gweld beth yw eich hawliau pe baech yn sylweddoli bod y cynnyrch yn anaddas. Mae'n bosib nad ydy cwmnïau sy'n gweithredu y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewrop (neu weithiau o fewn yr ardal honno, ond y tu allan i'r DU) sy'n defnyddio canolfan alw dramor, wedi'u rheoleiddio o gwbl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU