Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yswiriant cyffredinol: y gwahanol fathau a gweld beth sydd ar gael

Mae yswiriant cyffredinol yn cynnwys y rhan fwyaf o yswiriannau ac eithrio yswiriant bywyd. Gallwch chwilio i weld pa yswiriant cyffredinol sydd ar gael a'i brynu'n uniongyrchol, neu gael cyngor yn ei gylch. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoli'r rhan fwyaf o werthiannau yswiriant cyffredinol ac yswiriant gwarchodaeth pur. Golyga hyn bod cwmnïau yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio â chi.

Mathau o yswiriant cyffredinol

Dim ond ar ôl digwyddiad sydd wedi'i yswirio y bydd yswiriant cyffredinol yn talu allan. Mae'n cynnwys:

  • yswiriant cartref (cynnwys ac/neu adeiladau)
  • yswiriant car
  • yswiriant teithio
  • yswiriant meddygol preifat
  • yswiriant anifeiliaid anwes
  • yswiriant damweiniau, gwaeledd neu ddiweithdra er mwyn diogelu'ch incwm, eich morgais neu'ch taliadau benthyciad (gelwir hefyd yn 'Yswiriant gwarchod taliadau')
  • yswiriant afiechyd critigol
  • yswiriant gofal tymor hir

Sut i chwilio am yswiriant cyffredinol

Gyda chynifer o gynigion yswiriant ar y farchnad, mae'n werth gweld beth sydd ar gael. Mae pwyntiau allweddol i'w cymharu yn cynnwys:

  • addasrwydd ar gyfer eich anghenion neilltuol
  • cost
  • hyblygrwydd: beth sy'n digwydd os byddwch yn methu taliad neu'n dymuno diddymu'r yswiriant neu ei newid?
  • telerau: pryd fydd y polisi'n talu allan/a oes cyfyngiadau?

Dogfennau 'Ffeithiau allweddol' i'ch helpu i weld beth sydd ar gael

Pan fyddwch yn cysylltu â brocer yswiriant byddwch yn cael dwy ddogfen bwysig gyda'r symbol 'Ffeithiau allweddol' arnynt.

Bydd un yn eich helpu i gymharu'r math o wasanaeth y bydd gwahanol froceriaid yn ei ddarparu (cyngor neu wybodaeth), cynnyrch pwy fyddant yn ei ddewis a sut byddant yn codi tâl.

Bydd y ddogfen 'Ffeithiau allweddol' ar wahân yn crynhoi gwybodaeth bwysig am y polisi yswiriant y maent yn ei argymell neu'n darparu gwybodaeth amdano.

Sut i ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio gwasanaeth gwirio cwmnïau ar-lein yr Awdurdod.

Yswiriant ar gynnwys cartref

Mae digon o yswiriant rhad ar gynnwys cartref ar gael. Mae gwahanol bolisïau'n cynnig gwahanol lefelau o yswiriant ond yn gyffredinol bydd gennych yswiriant ar gynnwys eich cartref rhag colled neu ddifrod.

Mae rhai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn cynnig cynllun yswiriant ar gynnwys cartref. Mae'n bosib y bydd gan eich awdurdod lleol, gwefan eich cymdeithas dai, neu eich swyddfa dai leol fanylion am hyn.

Y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth a chyngor

Gallwch brynu yswiriant ar ôl cael cyngor, neu'n seiliedig ar wybodaeth ar ôl gweld beth sydd ar gael. Darllenwch ein herthygl berthnasol er mwyn deall beth yw'r gwahaniaeth rhwng prynu gyda chyngor a phrynu heb gyngor a'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig â hynny.

Allweddumynediad llywodraeth y DU