Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yswiriant bywyd: y gwahanol fathau a sut i siopa o gwmpas

Mae yswiriant bywyd yn cynnwys 'math sy'n ymwneud â buddsoddi' ac yswiriant 'cyfnod'. Mae yswiriant math buddsoddi yn cynnwys polisïau sy'n talu allan ar ddyddiad penodol ar ôl i chi farw. Bydd yswiriant cyfnod yn talu taliad unswm os byddwch yn marw cyn dyddiad

Yswiriant bywyd sy'n ymwneud â buddsoddi

Gydag yswiriant bywyd sy'n ymwneud â buddsoddi byddwch fel rheol yn cyfrannu at bolisi yn fisol. Dim ond ar ôl i chi farw y bydd ambell bolisi yn talu. Bydd rhai eraill yn talu swm o arian ar ddyddiad penodol neu ar ôl marwolaeth. Mae'r swm y bydd polisïau sy'n ymwneud â buddsoddi yn eu talu yn dibynnu ar berfformiad y buddsoddiadau yn y gronfa yswiriant.

Polisïau sydd ddim ond yn talu pan fyddwch yn marw

  • yswiriant gydol oes

Polisïau sy'n talu pan fyddwch chi'n marw neu cyn i chi farw

  • bondiau gydag elw
  • bondiau sy'n gysylltiedig ag unedau
  • bondiau incwm a thwf
  • polisïau gwaddol (endowment)
  • cynlluniau buddsoddi uchafswm
  • mathau eraill o yswiriant bywyd sy'n creu cronfa o arian

Gall yswiriant sy'n ymwneud â buddsoddi fod yn ddrud o'i gymharu â buddsoddiadau traddodiadol. Cewch wybod mwy ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Yswiriant cyfnod

Mae yswiriant cyfnod fel rheol yn ffordd ratach o warchod eich dibynyddion be baech chi'n marw, gyda'r taliadau misol yn gyffredinol yn llawer is.

Mae'r polisi yn gwarantu talu swm penodol os byddwch yn marw o fewn cyfnod penodol (y 'cyfnod'), ond ni thelir unrhyw swm os byddwch chi'n byw y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Gallai'r cyfnod fod, er enghraifft, yn nifer y blynyddoedd sy'n weddill ar eich morgais neu nifer y blynyddoedd sydd ar ôl nes bydd eich plant yn medru cynnal eu hunain yn ariannol.

Weithiau, gelwir yswiriant cyfnod yn yswiriant 'gwarchod yn unig'.

Sut i siopa am yswiriant bywyd

P'un ai yswiriant bywyd sy'n ymwneud â buddsoddi ynteu yswiriant cyfnod yr ydych yn ei brynu, mae'n werth siopa o gwmpas. Mae pwyntiau allweddol i'w hystyried yn cynnwys:

  • addasrwydd ar gyfer eich anghenion
  • costau
  • adenillion (yswiriant sy'n ymwneud â buddsoddi)
  • risg (yswiriant sy'n ymwneud â buddsoddi)
  • hyblygrwydd (beth sy'n digwydd os byddwch yn methu taliad neu'n dymuno diddymu'r yswiriant neu ei newid?)
  • termau (amodau a chyfyngiadau)

Mae'n bosib y bydd ffactorau eraill i'w hystyried, yn dibynnu ar y math o yswiriant rydych yn ei brynu.

Dogfennau 'Ffeithiau allweddol' i'ch helpu i siopa o gwmpas

 Caiff cwmnïau neu froceriaid sy'n gwerthu yswiriant bywyd eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Yn unol â rheolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol rhaid iddynt ddarparu dogfennau 'Ffeithiau allweddol' a 'Nodweddion allweddol' safonol i'ch helpu i siopa o gwmpas. Bydd y dogfennau hyn yn eich helpu i gymharu'r canlynol: y gwasanaeth y byddant yn ei gynnig (cyngor neu wybodaeth yn unig, cynnyrch pwy fyddant yn ei ddewis o fewn y farchnad a faint o dâl y byddant yn ei godi) nodweddion allweddol unrhyw bolisi yswiriant y byddant yn ei awgrymu neu'n darparu gwybodaeth yn ei gylch

Sut i ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol drwy ddefnyddio gwasanaeth gwirio cwmnïau ar-lein yr Awdurdod.

Y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth a chyngor

Gallwch brynu yswiriant ar ôl cael cyngor, neu'n seiliedig ar wybodaeth yn unig ar ôl chwilio o gwmpas. Darllenwch ein herthygl berthnasol er mwyn deall beth yw'r gwahaniaeth rhwng prynu gyda chyngor a heb gyngor a'r manteision ac anfanteision sy'n gysylltiedig â hynny.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU