Pan fyddwch yn cael morgais, bydd benthycwyr yn edrych ar nifer o bethau i gyfrifo faint y gallwch ei fenthyg. Mae'r rhain yn cynnwys eich enillion a'ch gwariant, gwerth yr eiddo a'ch hanes credyd. Faint bynnag y byddwch yn ei fenthyg, bydd rhaid ichi sicrhau y gallwch fforddio'r ad-daliadau.
Bydd benthycwyr yn cynnig benthyca swm i chi a fydd yn seiliedig ar eich enillion. Fel arfer byddant am weld prawf o'ch incwm a byddant hefyd yn edrych ar eich gwariant rheolaidd.
Mae'n bwysig rhoi gymaint ag y bo modd o fanylion i'ch benthyciwr am eich enillion a'ch gwariant er mwyn i chi gael cynnig morgais y gallwch ei fforddio. Hefyd, bydd angen i chi gofio cyllidebu ar gyfer costau untro prynu eiddo - megis ffioedd gweinyddu a chyfreithwyr a Threth Stamp.
Mae gan wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ystod o gyfrifianellau hawdd eu defnyddio i'ch helpu i gyfrifo beth y gallwch ei fforddio a chost fisol debygol morgais.
Bydd eich benthyciwr yn trefnu i brisio'r eiddo i weld beth yw ei werth. Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn cynnig hyd at 90 neu hyd yn oed 95 y cant o'r prisiad, os ydynt yn meddwl y gallwch ei fforddio. Dyma'r gyfradd LTV (benthyciad yn ôl gwerth - loan to value). (Os oes gennych enillion digon uchel neu warantwr efallai y byddant yn cynnig 100 y cant neu fwy hyd yn oed. Ond efallai y bydd y cyfraddau llog yn uwch).
Mae rhai benthycwyr yn cyfyngu ar y swm y byddant yn ei fenthyca ar rai mathau o eiddo, er enghraifft tai gyda fframwaith coed. Mae'n werth holi o gwmpas i weld beth sydd ar gael gan wahanol gwmnïau.
Bydd eich benthyciwr yn archwilio'ch hanes credyd ac yn gofyn i fenthycwyr blaenorol neu landlordiaid am eirdaon. Os dengys eich record eich bod wedi cael anhawster gyda benthyciadau neu daliadau rhent yn y gorffennol, efallai y bydd yn effeithio ar faint y gallwch ei fenthyg.
Peidiwch â digalonni os bydd benthyciwr yn gwrthod rhoi morgais i chi neu'n cynnig bargen ddrud - mae'n werth siopa o gwmpas o hyd.
Oni allwch brofi eich incwm (efallai oherwydd eich bod yn hunangyflogedig a heb ddigon o gyfrifon) efallai y gallwch gael morgais 'hunandystiolaeth'. Gallwch ddysgu mwy am y mathau hyn o forgais ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.