Os ydych yn ystyried cynilo neu fuddsoddi, cael morgais neu brynu yswiriant, mae digon o lefydd lle gallwch gymharu'r bargeinion diweddaraf - a dogfennau safonol i'ch helpu i siopa o gwmpas. Gallwch brynu wedyn yn seiliedig ar wybodaeth yn unig, neu gael cyngor. Mae prynu ar ôl derbyn cyngor fel arfer yn cynnig mwy o warchodaeth i chi.
Lle da i gymharu cynnyrch ariannol yw gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy'n rheoli gwerthiant y rhan fwyaf o gynnyrch ariannol ac mae'n cyhoeddi gwybodaeth yn ogystal â'r tablau cymharu diweddaraf ar gyfer rhai o'r cynhyrchion.
Gallech hefyd:
edrych mewn cylchgronau arbenigol ar gyfer defnyddwyr
edrych ar deledu testun - mae Ceefax, Teletext neu wasanaethau digidol yn aml yn rhoi'r cyfraddau llog diweddaraf a gwerthoedd cyfranddaliadau
edrych ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i gynnyrch penodol neu i gael cyngor cyffredinol a chymariaethau
defnyddio elusennau a mudiadau dielw - e.e. mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n darparu gwybodaeth gyffredinol yn rhad ac am ddim am bensiynau personol a phensiynau cwmni
siarad â darparwyr cynnyrch gwahanol am eu cynnyrch eu hunain
Mae llawer yn dibynnu ar y math o gynnyrch rydych yn chwilio amdano, ond mae'n bwysig ystyried y canlynol:
Mae morgais CAT yn bodloni nifer o safonau sy'n berthnasol i ffioedd, mynediad a thelerau a ddiffinnir gan y llywodraeth. Rhoddir ‘safon CAT’ y llywodraeth i forgeisi sydd, yn ei thyb hi, yn cynnig y canlynol:
Nid argymhelliad gan y llywodraeth yw morgais safon CAT ac nid yw o anghenraid yr un gorau i chi, ond mae'n feincnod defnyddiol y gallwch ei ddefnyddio i'w gymharu ag eraill.
Mae cynilion a chynnyrch buddsoddi sy'n galw eu hunain yn gynnyrch 'cyfranddeiliaid' yn bodloni safonau'r llywodraeth o ran ffioedd rhesymol, hyblygrwydd a'r wybodaeth a roddir i chi. Unwaith eto, nid argymhellion gan y llywodraeth mohonyn nhw, ond maen nhw'n cynnig meincnod defnyddiol ar gyfer cymharu. Gall cynnyrch cyfranddeiliaid gynnwys:
Dan reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, ar gyfer y rhan fwyaf o gynnyrch lle byddwch yn buddsoddi, dylech dderbyn dogfen 'Nodweddion allweddol' safonol cyn i chi brynu neu os ydych chi'n gofyn am ddyfynbris. Bydd y ddogfen hon yn esbonio nodweddion, costau a pheryglon y cynnyrch ac, os yw'n berthnasol, yn dweud wrthych chi a yw'n gynnyrch cyfranddeiliaid ai peidio.
Gyda morgeisi, fe gewch ddogfen ffeithiau allweddol 'Am y morgais hwn' (a elwir weithiau yn 'ddatganiad ffeithiau allweddol' neu 'KFI'). Mae hyn yn crynhoi nodweddion a chostau'r morgais y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Gallwch brynu cynnyrch ariannol yn seiliedig ar wybodaeth yn unig neu ar ôl cael cyngor ac argymhelliad. Ar gyfer cynnyrch a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, rhaid i'r cwmni neu'r darparwr roi dwy ddogfen 'Ffeithiau allweddol' i chi: 'Ynghylch ein gwasanaeth' ac 'Ynghylch cost ein gwasanaeth'. Mae'r rhain yn esbonio'r math o wasanaeth y maent yn ei gynnig (gwybodaeth neu gyngor), cynnyrch o blith pwy y maent yn ei gynnig a sut y codir am y gwasanaeth.
Os byddwch yn prynu heb gael cyngor a bod y cynnyrch yn anaddas wedyn neu eich bod yn derbyn gwasanaeth gwael, mae gennych lai o warchodaeth nag y byddai gennych pe baech wedi prynu gyda chyngor.