Mae'n debyg mai prynu eiddo fydd eich buddsoddiad unigol mwyaf. Felly mae'n bwysig cyfrifo cyfanswm y gost - nid y morgais yn unig - a faint y gallwch ei fforddio mewn gwirionedd. Bydd yn rhaid i chi hefyd gynllunio ar gyfer unrhyw gynnydd yn eich gwariant yn y dyfodol, megis cynnydd mewn cyfraddau llog.
Os ydych yn prynu am y tro cyntaf, mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn mynnu blaendal o 5 i 10 y cant o'r pris prynu. Bydd rhai yn benthyca 100 y cant o'r pris, ond byddant fel arfer yn benthyca llai a chodi cyfradd llog uwch neu 'dâl benthyca uwch'.
Fel arfer bydd angen i chi dalu am arolwg prisio sylfaenol y benthyciwr - mae'r gost yn amrywio yn ôl y benthyciwr a gwerth yr eiddo ond mae fel arfer yn ychydig o gannoedd o bunnoedd. Er mwyn cael adroddiad am gyflwr yr eiddo bydd angen arolwg manylach arnoch chi a bydd yn rhaid i chi gymharu dyfynbrisiau ar gyfer hynny.
Os yw pris yr eiddo dros £125,000 byddwch yn talu Treth Stamp ar Dir o rhwng un a phedwar y cant o werth yr eiddo. Ond, os yw'r eiddo mewn ardal 'ddifreintiedig' ddynodedig, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Stamp ar Dir. Gyda rhai adeiladau newydd, bydd y datblygwr yn talu'r Dreth Stamp ar Dir i chi.
Mae'r rhain yn cynnwys chwiliadau a gwaith papur cyfreithiol. Mae'r costau'n amrywio yn ôl ardal a/neu werth yr eiddo (neu swm y benthyciad os yw'n ailforgais) ac maent yn cynnwys:
Bydd eich twrnai yn cadarnhau costau'r ffioedd uchod.
Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein Ffioedd y Gofrestrfa Dir isod:
Mae'r rhain yn amrywio yn ôl benthyciwr, ond gallan nhw gynnwys:
Os oes gennych fenthyciad canran uchel, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi untro a elwir yn 'dâl benthyca uwch'. Mae hwn yn diogelu'r benthyciwr oni allwch ad-dalu'ch morgais. Fe'i cyfrifir fel canran o'r swm yr ydych yn ei fenthyca uwchben terfyn tâl benthyca uwch y benthyciwr, sydd fel arfer 80 neu 90 y cant o werth yr eiddo. Gall y premiwm fod yn uchel; holwch eich ymgynghorydd morgeisi. Fel arfer gallwch ei ychwanegu at y morgais ond i hynny beidio â mynd â chi dros uchafswm benthyciad y benthyciwr ar gyfer gwerth yr eiddo, ond bydd hyn yn cynyddu'ch taliadau llog.
Mae'r rhain yn amrywio yn ôl:
Mae'n well cael sawl pris a sicrhewch fod y sawl sy'n gwneud y gwaith gyda'r yswiriant priodol.
Bydd yn rhaid i chi gyllidebu ar gyfer eich ad-daliadau morgais misol - a phwyso a mesur pa effaith fyddai newid yn y cyfraddau llog yn ei gael ar y rhain.
Os mai morgais 'llog yn unig' sydd gennych, bydd yn rhaid i chi fel arfer gyllidebu ar gyfer talu'n fisol i fuddsoddiad er mwyn talu'n derfynol am y benthyciad ar ddiwedd y cyfnod.
Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd polisi yswiriant bywyd, megis 'yswiriant cyfnod' neu 'bolisi diogelu morgais'. Gall y taliadau misol fod yn gymharol isel a bydd yr yswiriant yn talu'r arian sydd arnoch chi os byddwch yn marw cyn i chi ad-dalu'r benthyciad. Holwch eich ymgynghorydd morgeisi am ragor o fanylion. (Os oes gennych bolisi gwaddol morgais, mae hyn yn cynnwys yswiriant bywyd).
Gallwch hefyd gymryd yswiriant sy'n talu'ch ad-daliadau misol os byddwch yn sâl neu'n colli'ch gwaith - ond gall hwn fod yn ddrud.
Unwaith y byddwch wedi cyfnewid y contractau ar gyfer eich eiddo, chi sy'n gyfrifol am ei yswirio. Gall eich benthyciwr fynnu bod gennych yswiriant adeiladau - ond allan nhw ddim eich gorfodi i brynu eu hyswiriant hwy. Ond mewn rhai achosion, bydd benthycwyr yn mynnu eich bod yn cymryd eu hyswiriant hwy ar ôl cwblhau.
Cofiwch y gallai'ch biliau misol godi pan fyddwch yn symud.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell cyllidebu'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i gyfrifo a fydd gennych ddigon i dalu'ch biliau misol. Maen nhw hefyd yn cynnig awgrymiadau defnyddiol pellach ar brynu tw.