Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynlluniau cynilo arian a chyfrifon i blant

Os oes gennych blant neu wyrion ac wyresau, efallai y byddwch am agor cyfrif cynilo iddynt er mwyn eu hannog i gynilo o oedran cynnar. Yn gyffredinol, mae cyfrifon cynilo plant yn gweithio yn yr un ffordd â chyfrifon oedolion, ond mae rhai cynlluniau ar gyfer plant yn benodol.

A oes rhaid i blant dalu treth ar gynilion?

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu'n cynnig cyfrifon cynilo yn union i blant. Tynnir 20 y cant o dreth oddi ar log cyfrifon i oedolion cyn ei dalu, sydd hefyd yn wir am y rhan fwyaf o gyfrifon cynilo.

Fodd bynnag, mae gan blant, fel oedolion, lwfans treth personol o £5,435 ar gyfer y flwyddyn 2008-2009. Dyma incwm y gallan nhw ei dderbyn yn ddi-dreth. Cyhyd â bod eu hincwm blynyddol (gan gynnwys llog) yn is na'r swm hwn, byddant yn gallu:

  • derbyn llog heb fod treth wedi'i didynnu ohono (bydd rhieni neu warcheidwaid yn llenwi Ffurflen R85 ar gyfer pob cyfrif)
  • hawlio unrhyw dreth yn ôl na ddylent fod wedi'i thalu (bydd rhieni neu warcheidwaid yn gwneud hawliad ar wahân i Gyllid a Thollau EM gan ddefnyddio Ffurflen R40)

All plentyn ddim hawlio er mwyn derbyn llog cynilion yn ddi-dreth os yw eu hincwm yn uwch na'r lwfans personol. Ond byddan nhw'n gallu adhawlio rhywfaint o dreth os bydd eu hincwm cyffredinol yn y flwyddyn dreth yn dod o fewn band treth y gyfradd ddechreuol (10%) (hyd at £2,320 yn uwch na'r lwfans personol).

Rhoi arian i'ch plant neu fuddsoddi ar eu rhan

Gallwch fuddsoddi neu roi faint a fynnoch o arian i blentyn. Ond os ydych yn rhiant neu'n llys-riant, a bod yr arian yr ydych yn ei roi i'ch plentyn yn ennill mwy na £100 o log y flwyddyn, bydd y llog hwn yn cael ei drethu fe petai'n incwm i chi.

Dim ond i rieni a llys-rieni y mae'r terfyn o £100 yn berthnasol. Nid oes rhaid i neiniau a theidiau ac oedolion eraill sy'n rhoi arian i blant dalu treth os yw'r llog yn fwy na £100 y flwyddyn.

Treth Etifeddu

Os byddwch yn rhoi arian i'ch plant neu'ch wyrion (neu i blant yr ydych yn gofalu amdanynt) gall eithriadau i'r Dreth Etifeddu olygu nad oes yn rhaid talu treth arno. Os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd i roi'r arian, efallai y bydd rhywfaint o Dreth Etifeddu i'w thalu.

Cynilion di-dreth ar gyfer plant

Mae sawl cynnyrch cynilo ar gael sy'n gwbl ddi-dreth ac i blant yn unig.

Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (ar gyfer plant a aned ar ôl 1 Medi 2002)

Os ganed eich plentyn ar neu ar ôl 1 Medi 2002 ac os yw'n gymwys i gael Budd-dal Plant, byddwch yn cael taleb £250 gan y llywodraeth (£500 os nad yw eich incwm yn fwy na'r terfyn ar gyfer Credyd Treth Plant) i sefydlu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Unwaith y byddwch wedi sefydlu'r gronfa, gall unrhyw un ychwanegu hyd at uchafswm o £1,200 y flwyddyn ynddi. Ni fydd treth i'w thalu ar unrhyw log nac enillion.

Cyfrif cynilo a buddsoddi hirdymor yw'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ac ni ellir codi arian o'r cyfrif tan y mae'r plentyn yn 18.

Bondiau Bonws Plant gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

Mae Bondiau Bonws Plant NS&I yn darparu llog di-dreth i blant dan 16, gyda bonws ychwanegol os bydd yr arian yn aros heb ei gyffwrdd am bum mlynedd.

Mae bondiau NS&I ar gael mewn 'cyhoeddiadau' ac mae gan bob cyhoeddiad ei gyfradd adennill ei hun. Gallwch fuddsoddi rhwng £25 a £3,000 y cyhoeddiad, a gellid cael sawl cyhoeddiad mewn blwyddyn (fel arfer yn cyd-fynd â newidiadau yn y gyfradd llog).

Oherwydd bod Bondiau Bonws Plant NS&I yn cael eu cynnig gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol fe'u cefnogir gan y llywodraeth ac maent yn ffordd ddiogel o gynilo. Mae'r ffurflenni cais ar gael ar-lein neu yn Swyddfa'r Post.

Cynilion di-dreth eraill

Gall rhieni a neiniau a theidiau ddefnyddio cynnyrch cynilo di-dreth eraill sydd ar gael i oedolion ar ran plant. Gan nad yw'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant mewn rhai achosion bydd rhaid i chi reoli'r cyfrif hyd nes i'r plentyn gyrraedd oed penodol.

Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol (NS&I)

Gallwch fuddsoddi rhwng £100 a £15,000 am dair i bum mlynedd mewn Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol. Gwarentir bod gwerth y buddsoddiad yn symud yn unol â chwyddiant ac fe warentir y gyfradd llog. Nid ydych yn talu unrhyw dreth.

Gyda phlant dan saith oed, rhaid i rywun arall brynu'r tystysgrifau ar eu rhan.

Bondiau Premiwm (NS&I)

Gall unigolyn, gan gynnwys plentyn, fod yn berchen ar rhwng £100 a £30,000 o Fondiau Premiwm. Ni thelir llog ar Fondiau Premiwm, ond bydd gennych gyfle bob mis i ennill gwobrau ac mae'r gwobrau'n ddi-dreth.

Gall rhieni, neiniau a theidiau a hen-neiniau a hendeidiau brynu Bondiau Premiwm i blentyn, ond rhaid i riant neu warcheidwad ddal y bond ar ran y plentyn tan ei ben-blwydd yn 16.

Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)

Pan fydd plentyn yn cyrraedd 16, gall agor ISA arian di-dreth.

Beth sy'n digwydd pan fydd plentyn yn cyrraedd 16?

Pan fydd plentyn yn cyrraedd 16:

  • maent yn gyfrifol am y dreth ar eu taliadau llog, ac felly bydd angen iddynt lenwi ffurflen R85 eu hunain (gyhyd â bod eu hincwm yn aros o dan y lwfans personol)
  • dylid trosglwyddo cyfrifon sy'n cael eu dal yn enw rhywun arall iddynt hwy - fel arall bydd y banc neu'r gymdeithas adeiladu yn gorfod dechrau didynnu treth o'r llog yn syth (efallai y bydd yn bosibl hawlio'r dreth hon yn ôl, fel a ddisgrifiwyd yn gynharach).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU