Os yw eich materion ariannol yn gymhleth neu os bydd angen cyngor arnoch am gynnyrch ariannol penodol, gall ymgynghorydd ariannol eich helpu. Er mwyn i gwmnïau allu rhoi cyngor i chi am y rhan fwyaf o gynnyrch ariannol, rhaid iddynt gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Golyga hyn eu bod yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio gyda chi.
Pan fyddwch yn cael cyngor ariannol, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn edrych ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol ac yn argymell cynnyrch ariannol a fydd yn eu diwallu. Mae hyn yn aml yn golygu cyfarfod wyneb-yn-wyneb, ond gallwch gael cyngor mewn ffyrdd eraill, er enghraifft dros y ffôn, e-bost neu drwy'r post.
Os prynwch heb gyngor, nid oes gennych gymaint o warchodaeth â phetaech yn prynu gyda chyngor.
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy'n rheoleiddio'r cyngor ariannol ar gyfer y rhan fwyaf o fuddsoddiadau, morgeisi ac yswiriant cyffredinol neu yswiriant gwarchod taliadau. I weld y manylion, dilynwch y dolenni isod. Os byddwch yn cael cyngor anaddas am y cynhyrchion hyn, mae trefn gwyno ffurfiol ar gael a threfn ar gyfer unioni'r sefyllfa.
Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi i roi cyngor drwy ddefnyddio Cofrestr ar-lein yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Mae rhai ymgynghorwyr yn arbenigo mewn un maes, megis yswiriant, buddsoddiadau neu forgeisi, tra bo eraill yn delio gyda sawl maes.
Dan reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, rhaid i ymgynghorwyr ariannol roi dwy ddogfen 'Ffeithiau allweddol' i chi: 'Ynghylch ein gwasanaeth' ac 'Ynghylch cost ein gwasanaeth'. Mae'r rhain yn esbonio'r math o wasanaeth y maent yn ei gynnig (gwybodaeth neu gyngor), cynnyrch o blith pwy y maent yn ei gynnig (y farchnad gyfan, ystod gyfyngedig neu un darparwr yn unig) a sut y codir am y gwasanaeth (ffioedd a/neu gomisiwn).
Dim ond os yw ymgynghorydd ariannol yn argymell cynnyrch o'r farchnad gyfan y gall ddweud ei fod yn cynnig cyngor annibynnol a chynnig yr opsiwn i chi dalu ffi yn hytrach na chomisiwn.
Bydd ymgynghorwyr morgais ac ymgynghorwyr yswiriant yn rhoi dogfennau ‘Ffeithiau allweddol’ i chi hefyd.
Os yw ymgynghorydd yn argymell cynnyrch lle byddwch yn buddsoddi, rhaid iddo/i hefyd roi dogfen 'nodweddion allweddol' i chi cyn i chi brynu. Bydd y ddogfen hon yn esbonio nodweddion allweddol, telerau, costau a pheryglon y cynnyrch mewn fformat safonol i'ch helpu chi i ddeall y cynnyrch a'i gymharu â chynnyrch eraill.
Mae ymgynghorwyr ariannol wedi'u rhestru mewn llyfrau ffôn a thudalennau busnes, ac ar y rhyngrwyd. Gallwch hefyd ofyn i ffrindiau am argymhellion personol.
Mae gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu ymgynghorwyr ariannol hefyd. Cofiwch eu bod yn aml wedi eu clymu i werthu cynnyrch eu cwmni, neu ystod gyfyngedig o gynnyrch eraill.