Gall nodau ariannol fod o help i chi gynllunio'ch materion ariannol yn fwy effeithlon. Gallwch osod un nod - neu sawl nod fel rhan o gynllun ariannol cyffredinol. Bydd y cynnyrch sy'n addas ar gyfer cyflawni'ch nod neu nodau yn dibynnu ar eich adnoddau a ffactorau unigol, megis amserlenni ac agwedd at risg.
Gall nodau ariannol fod yn rhai tymor byr i dymor canolig, megis clirio gorddrafft neu dalu benthyciad, neu'n dymor hir megis cynilo digon ar gyfer ymddeol. Efallai bod eich nod yn gysylltiedig â phrynu rhywbeth, megis car neu dw, neu wybod y gallwch chi ddarparu ar gyfer eich dibynyddion yn y dyfodol.
Mae rhestr ar gael o nodau ariannol enghreifftiol ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Maen nhw'n cynnig awgrymiadau a chynnyrch ar gyfer pob nod. Gallwch hefyd roi cynnig ar eu cwis rhyngweithiol i'ch helpu i nodi nodau ariannol a allai fod yn rhan o gynllun ariannol cyffredinol. Cofiwch y bydd yn rhaid i chi efallai osod nodau ariannol newydd os bydd rhywbeth annisgwyl yn newid yn eich bywyd, megis ysgariad neu golli swydd.
Unwaith i chi benderfynu ar eich nod neu nodau, eich cam cyntaf yw gweld faint o arian sydd gennych ar gyfer eu cyflawni. Mae'n bosib y gallwch gyflawni un neu fwy o'ch nodau o'r arian sydd gennych yn barod.
Defnyddiwch gyfrifiannell cyllidebu yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i weld faint o incwm sydd gennych chi'n weddill bob mis. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol hefyd yn cynnig awgrymiadau ar sut y gallwch chi gynyddu'ch incwm.
Os bydd angen cynilo arnoch chi neu fuddsoddi mewn cynnyrch ariannol er mwyn cyflawni'ch nod ariannol, bydd yr un mwyaf addas yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys:
Unwaith i chi benderfynu ar y math iawn o gynnyrch ariannol, gallwch siopa o gwmpas a chymharu beth sydd ar gael, neu gael cyngor. Os prynwch heb gyngor, nid oes gennych gymaint o warchodaeth â phetaech yn prynu gyda chyngor. Darllenwch ein herthygl gysylltiedig dan y pennawd 'Yn yr adran hon' isod.
Cofiwch wrth i bethau o'ch cwmpas newid y bydd yn rhaid i chi efallai newid eich nodau ariannol hefyd. Bydd yn rhaid i chi adolygu nodau tymor byr i dymor canolig yn rheolaidd a nodau tymor hwy, megis ad-dalu'ch morgais neu gyfraniadau cronfa bensiwn, yn flynyddol. Bydd yn rhaid i chi hefyd eu hadolygu os bydd eich amgylchiadau'n newid.