Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth yw'r Porth Cynilo a phwy sy'n gymwys

O 2010 ymlaen, bydd cynllun cynilo newydd ar gael a gefnogir gan y llywodraeth, sef ‘Y Porth Cynilo’.  Bwriedir y cynllun ar gyfer pobl oedran gweithio sydd ar incwm is, a’i nod yw eu helpu i ddod i arfer â chynilo. Bydd y llywodraeth yn ychwanegu 50 ceiniog am bob £1 a gynilir mewn cyfrif Porth Cynilo. Os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol, byddwch yn gymwys i gael cyfrif.

Pwy all gael y cyfrifon newydd?

Gallwch agor cyfrif Porth Cynilo os ydych yn cael un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Credydau treth – os yw’ch incwm yn llai na £16,040
  • Lwfans Gofalwr (rhaid eich bod yn cael y lwfans, nid dim ond bod â hawl sylfaenol iddo)

Sut y bydd y cyfrifon yn gweithio

Pan lansir y cynllun yn 2010, os bydd ein cofnodion yn dangos eich bod yn gymwys i gael cyfrif, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon atoch lythyr gwahoddiad, llyfryn gwybodaeth a rhestr o ddarparwyr y Porth Cynilo. Gallwch fynd â’ch llythyr at unrhyw ddarparwr Porth Cynilo cymeradwy ac agor eich cyfrif.

Yna, bydd modd i chi gynilo cymaint ag y dymunwch hyd at £25 y mis yn eich cyfrif am ddwy flynedd. Ar ddiwedd y ddwy flynedd, bydd y llywodraeth yn rhoi 50 ceiniog i chi am bob £1 yr ydych wedi’i chynilo.

Peidiwch â phoeni os yw £25 yn swnio’n ormod – cewch 50 ceiniog ychwanegol am bob £1 y byddwch yn ei chynilo. Bydd hefyd yn bosib i chi dynnu arian o’ch cynilion os bydd angen, ac ni fydd hyn yn effeithio ar yr arian y byddwch wedi'i ennill gan y llywodraeth hyd at y pwynt hwnnw. Cofiwch, dim ond un cyfrif Porth Cynilo y cewch ei agor gydol eich oes, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei agor ar yr adeg orau i chi.

Beth nesaf?

Bydd mwy o wybodaeth am gyfrifon Porth Cynilo ar gael yn nes at y lansiad yn 2010, gan gynnwys pwy all gael cyfrif, sut mae agor un a sut mae’n gweithio.

Does dim angen i chi wneud dim byd yn y cyfamser. Ond efallai y byddai’n werth holi i weld a ydych chi’n gymwys i gael unrhyw un o’r budd-daliadau neu’r credydau treth a grybwyllir uchod.

Os oeddech yn rhan o’r Cynllun Peilot

Cafodd y cynllun Porth Cynilo ei dreialu mewn chwe ardal yn y wlad. Roedd y cyfrifon ar agor o fis Mawrth 2005 tan fis Mawrth 2007, lle'r oedd cyfrifon unigol yn para am 18 mis.

Os oeddech chi’n rhan o’r cynllun peilot, bydd yn dal yn bosib i chi agor cyfrif yn 2010, os ydych yn bodloni’r meini prawf a ddangosir uchod. Os oedd gennych chi gyfrif Porth Cynilo fel rhan o’r cynllun peilot a bod gennych unrhyw gwestiwn am eich taliad cyfatebol neu am unrhyw agwedd arall ar eich cyfrif, ewch i'ch cangen Halifax leol neu ffoniwch linell gymorth Halifax ar 08457 263646.

Allweddumynediad llywodraeth y DU