Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael cyngor ar eich cynilion a'ch buddsoddiadau

Pan fyddwch yn cael cyngor ar eich cynilion a'ch buddsoddiadau, mae'n bwysig gwybod pa fath yr ydych yn ei gael a holi a yw'ch ymgynghorydd wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdodau Gwasanaethau Ariannol (FSA). Mae angen i chi ddeall hefyd a ydych yn cael cyngor neu 'wybodaeth' yn unig.

Y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth a chyngor

Os ydych yn chwilio am gyngor ar gynilion neu fuddsoddiadau mae'n bwysig ystyried rhai pwyntiau allweddol:

  • rhaid i unrhyw un sy'n gwerthu buddsoddiadau neu forgeisi, neu sy'n rhoi cyngor amdanynt (ee yswiriant bywyd, pensiynau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau drwy unedau) gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) i wneud hynny
  • mae rhai cwmnïau wedi'u hawdurdodi i gynnig gwasanaeth 'cyngor', tra bo eraill yn gallu darparu 'gwybodaeth' yn unig - rhaid i gwmnïau roi dogfennau i chi sy'n esbonio'r math o wasanaeth y maent yn ei gynnig (darllenwch fwy am hyn yn yr adran 'Cael cyngor am fuddsoddiadau')
  • mae prynu gyda chyngor yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa os canfyddwch yn ddiweddarach i'r buddsoddiad fod yn anaddas
  • nid yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio gwerthiant cynnych cynilion, ond gall ymgynghorydd ariannol eich helpu i ddewis os ydynt eisoes yn eich cynghori am fuddsoddiadau

Cael cyngor am fuddsoddiadau

Gall buddsoddiadau dyfu, ond nid yw hyn yn sicr - gallai eu gwerth ostwng neu gallech golli'ch arian i gyd. Oherwydd y risgiau hyn mae'n bwysig felly ystyried cael cyngor ariannol cyn prynu buddsoddiad. Bydd ymgynghorydd yn edrych ar eich amgylchiadau a'ch anghenion unigol cyn gwneud argymhelliad a bydd yn esbonio unrhyw risgiau wrth fuddsoddi.

Awdurdodiad gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol

Gall ymgynghorwyr ariannol fod wedi'u hawdurdodi i gynnig cyngor mewn un maes neu fwy, megis pensiynau, yswiriant bywyd/unrhyw yswiriant ar wahân i yswiriant bywyd, buddsoddiadau cyffredinol a/neu morgeisi.

Cyn gwneud argymhelliad, rhaid i ymgynghorwyr ariannol fod wedi:

  • gofyn i chi'n fanwl am eich anghenion a'ch sefyllfa ariannol
  • egluro pam fod y cynnyrch y maent yn ei argymell yn addas
  • rhoi gwybodaeth glir i chi am y costau

Cymharu'r gwasanaeth a'r cynnyrch sydd ar gael

Dan reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, rhaid i ymgynghorwyr ariannol roi dogfennau i chi sydd â'r arwydd 'Ffeithiau allweddol' arnynt. Mae'r rhain mewn fformat safonol ac wedi'u cynllunio i'w gwneud yn haws i chi gymharu'r hyn a gynigir i chi drwy egluro:

  • y math o wasanaeth y maent yn ei gynnig (gwybodaeth neu gyngor)
  • cynnyrch o blith pwy y maent yn ei gynnig (y farchnad gyfan, ystod gyfyngedig neu un darparwr yn unig)
  • sut y codir ffi arnoch am y gwasanaeth (ffioedd a/neu gomisiwn).

(Dim ond os yw cwmnïau'n argymell cynnyrch o'r farchnad gyfan y gallant ddweud eu bod yn cynnig 'cyngor annibynnol' a hefyd yn cynnig yr opsiwn i chi dalu ffi yn hytrach na chomisiwn.)

Rhaid i ymgynghorydd ariannol hefyd roi dogfen 'nodweddion allweddol' i chi cyn i chi brynu unrhyw gynnyrch buddsoddi (a elwir weithiau'n 'ddatganiad nodweddion allweddol' ar gyfer morgeisi). Bydd hon yn esbonio natur, nodau a risgiau'r cynllun mewn fformat safonol i'ch helpu chi i ddeall y cynnyrch a'i gymharu â chynnyrch eraill. Bydd hefyd yn cadarnhau sut y bydd eich ymgynghorydd yn cael ei dalu.

Cynnyrch cynilo

Oherwydd mai 'risg isel' yw cynnyrch cynilo (fel arfer byddwch yn cael yr hyn yr ydych wedi'i roi yn y cynnyrch yn ôl, a llog fel arfer ar ben hynny), does dim rhaid i ymgynghorwyr ariannol fod wedi'u hawdurdodi'n benodol gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i roi cyngor amdanynt. Ond, os yw ymgynghorydd eisoes yn rhoi cyngor i chi am fuddsoddiadau, gallant eich helpu i ddewis cynnyrch cynilo'n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael.

Yn yr un modd, bydd banciau, cymdeithasau adeiladu a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) yn rhoi 'gwybodaeth' i chi a fydd yn eich helpu i ddewis o'u cynnyrch cynilo eu hunain, a gallant roi cyngor i chi ond chi fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol bob amser.

Wrth gwrs, does dim rhaid i chi gymryd cyngor gan unrhyw un ynghylch eich penderfyniadau am gynilo: gallwch chi eich hun gymharu'r hyn sydd ar gael, gan ddefnyddio tablau mewn cylchgronau arbenigol, y papurau dydd Sul ac ar-lein (gan gynnwys tablau cymharu'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol) ac wedyn gwneud eich penderfyniad eich hun.

Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol

Mae ymgynghorwyr ariannol wedi'u rhestru mewn llyfrau ffôn a thudalennau busnes, ac ar y rhyngrwyd (mae'r ddolen isod i'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn fan cychwyn da). Gallwch hefyd ofyn i ffrindiau am argymhellion personol.

Mae gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu ymgynghorwyr ariannol hefyd. Cofiwch eu bod yn aml wedi eu clymu i werthu cynnyrch eu cwmni, neu ystod gyfyngedig o gynnyrch eraill.

All brocer stoc roi cyngor i chi?

Mae broceriaid stoc yn cael eu hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Awdurdodir rhai i roi 'gwasanaeth gweithredu yn unig' (maent yn prynu ac yn gwerthu cyfranddaliadau ar eich rhan am ffi ond nid ydynt yn rhoi cyngor). Awdurdodir eraill i gynnig cyngor am beth i'w brynu neu beth i'w werthu. Fel arfer byddant yn codi ffi ychwanegol am roi cyngor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU