Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Cyfrif cynilo a buddsoddi di-dreth hirdymor ar gyfer plant a aned ar neu ar ôl 1 Medi 2002 yw'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Bydd y llywodraeth yn rhoi taleb gwerth o leiaf £250 i bob plentyn sy'n gymwys er mwyn cychwyn y gronfa.

Sut mae'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gweithio

Byddwch yn defnyddio taleb y llywodraeth i agor cyfrif arbennig. Yna, bydd eich plentyn yn medru mynd ato wedi iddo ef neu hi gyrraedd 18 oed. Gall rhieni, teulu a ffrindiau ychwanegu hyd at £1,200 i'r cyfrif pob blwyddyn.

Does dim treth i'w thalu ar incwm o'r cronfeydd hyn nac ar unrhyw elw a wneir hyd nes y bydd eich plentyn yn cyrraedd 18 oed.

Pwy sy'n gymwys

Bydd eich plentyn yn gymwys:

  • os ganed ef/hi ar neu ar ôl 1 Medi 2002
  • os yw'n gymwys i gael Budd-dal Plant
  • os yw'n byw yn y DU
  • os nad yw’n destun i unrhyw gyfyngiad mewnfudo

Fydd eich plentyn ddim yn gymwys ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os ydych chi'n geisiwr lloches sy'n aros i'ch cais am loches gael ei brosesu.

Faint fydd eich plentyn yn ei gael

Fe fydd y llywodraeth yn anfon taleb Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gwerth £250 i gychwyn cyfrif eich plentyn. Os yw eich plentyn yn aelod o deulu sy'n derbyn Credyd Treth Plant, gydag incwm teuluol at neu lai na’r trothwy (£16,040 am flwyddyn treth 2009-10), bydd eich plentyn yn cael £250 yn ychwanegol - bydd hyn yn cael ei dalu’n syth i’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Unwaith y mae eich plentyn yn cyrraedd saith mlwydd oed, bydd eich plentyn yn derbyn taliad ychwanegol o £250 (£500 os ydych ar incwm isel).

Mae trefniadau arbennig i blant sy’n cael eu gofalu gan awdurdodau lleol, neu gan ymddiriedolaethau iechyd yng Ngogledd Iwerddon, er mwyn sicrhau ni fyddant ar eu colled.

Ers Ebrill 2007, am bob blwyddyn ddi-dor bydd plentyn yn cael ei ofalu gan awdurdod lleol (ymddiriedolaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon) byddant yn derbyn £100 - bydd y taliadau hyn yn cael eu gwneud gan yr awdurdod lleol/ymddiriedolaeth iechyd.

Ers Ebrill 2009, os ydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl i’ch plentyn, bydd eich plentyn yn derbyn taliad blynyddol o £100, â phlant sy’n ddifrifol anabl yn derbyn £200 - bydd y taliadau hyn yn cael eu talu’n uniongyrchol i’r cyfrif Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gan ddechrau o Ebrill 2010.

Rhoi'r daleb Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

I fod yn gymwys ar gyfer taleb mae'n rhaid i chi fod yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn.

Os na fyddwch wedi derbyn taleb o fewn mis i gychwyn hawlio'r Budd-dal Plant, neu os collwch yr un sydd gennych, ffoniwch linell gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar 0845 302 1470 neu gyda ffôn testun ar 0845 366 7870 (rhwng 8.00 am a 8.00 pm saith diwrnod yr wythnos).

Os na fyddwch chi'n agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant o fewn 12 mis i'r dyddiad a ddangosir ar y daleb, bydd y llywodraeth yn agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i'ch plentyn.

Mathau o Gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Mae tri math o gyfrif:

Cyfrifon rhanddeiliaid

Mae cyfrifon rhanddeiliad yn buddsoddi arian eich plentyn mewn nifer o gwmnïau er mwyn lleihau'r risg. Maent hefyd yn bodloni safonau'r llywodraeth ar daliadau isel. Unwaith bydd eich plentyn yn 13, bydd yr arian yn cael ei symud i fuddsoddiadau gyda llai o risg, felly mae arian eich plentyn yn fwy diogel wrth iddynt gyrraedd 18.

(Os na fyddwch yn defnyddio'r daleb cyn iddi ddod i ben, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif rhanddeiliaid i'ch plentyn.)

Cyfrifon sy'n buddsoddi mewn cyfranddaliadau

Mae'r cyfrifon hyn yn buddsoddi arian eich plentyn drwy brynu cyfranddaliadau mewn cwmniau.

Mae cyfranddaliadau yn golygu eich bod yn rhannol berchen ar gwmni, felly mae gwerth eich cyfrif yn gysylltiedig â pherfformiad y cwmniau. Mae'n bwysig cofio y gall gwerth cyfranddaliadau fynd i lawr yn ogystal ag i fyny.

Cyfrifon cynilo

Os na fyddwch eisiau buddsoddi mewn cyfranddaliadau, gallwch agor cyfrif cynilo yn lle. Mae cyfrifon cynilo yn cael eu hystyried yn llefydd diogel i gadw arian. Fel arfer, fodd bynnag, dim ond gwneud iawn am chwyddiant a wna'r llog a delir - sy'n golygu fod 'pŵer prynu' arian eich plentyn yn aros yr un fath.

Agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gallwch agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant:

  • mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gymdeithasau cyfeillgar
  • gyda rheolwyr cronfeydd, cwmnïau yswiriant neu ymddiriedolaethau buddsoddi
  • drwy siopau stryd fawr lleol (sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr er mwyn ei gwneud yn hawdd cael cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant)

Edrych o gwmpas

Cyn i chi agor Cronfa Ymddiriedolaeth Plant mae'n syniad da siopa o gwmpas i weld beth mae'r gwahanol fathau o gyfrifon yn ei gynnig cyn penderfynu ar yr un iawn ar gyfer eich plentyn chi.

Rheoli'r cyfrif

Fe fydd y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn enw eich plentyn, ond y person sy'n ei agor (y rhiant neu’r gwarcheidwad fel arfer) sy'n gyfrifol am ei reoli.

Mae hyn yn cynnwys cadw datganiadau'r cyfrif yn ddiogel, rhoi gwybod i'r bobl berthnasol os bydd y cyfeiriad yn newid, a newid y cyfrif neu'r darparwr - ar sail yr hyn sydd orau er budd y plentyn.

Eich plentyn fydd yn gyfrifol am eu cyfrif wedi iddynt gyrraedd 16 a bydd yr arian ar gael iddynt wedi iddynt gyrraedd 18.

Ychwanegu arian i'r cyfrif

Gallwch chi, aelodau eraill o'r teulu a ffrindiau gyfrannu hyd at £1,200 at y gronfa yn flynyddol. Mae'r cyfyngiad hwn yn para o ddydd pen-blwydd y plentyn yn y naill flwyddyn hyd at ei ben-blwydd yn y flwyddyn ganlynol.

Sut mae'r cyfrif yn cael ei drethu

Mae'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn ddi-dreth nes bod eich plentyn yn 18. Golyga hyn na fyddwch chi na'ch plentyn yn talu treth ar incwm nac elw'r cyfrif yn ystod y cyfnod hwn.

Unwaith iddynt gyrraedd 18 trethir y cyfrif yn y ffordd arferol.

Cyfrifon Cynilo eraill ar gyfer plant

Gallwch gychwyn cynilo ar gyfer eich plentyn hyd yn oed os nad yw'n gymwys i gael Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae nifer o gyfrifon ar y farchnad yn arbennig ar gyfer plant.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU