Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynilo a buddsoddi gydag ISAs

Cyfrifon cynilo a buddsoddi di-dreth yw Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs). Fe'u cyflwynwyd yn 1999 i ddisodli PEPS a TESSAs. Gallwch ddefnyddio ISA i gynilo arian, neu i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau.

Beth allwch chi ei gynilo neu ei fuddsoddi mewn ISA?

Gellir defnyddio ISAs i:

  • gynilo arian mewn ISA a bydd y llog yn ddi-dreth
  • buddsoddi mewn cyfranddaliadau neu gronfeydd gydag ISA - bydd unrhyw dwf cyfalaf yn ddi-dreth, ac nid fydd treth ychwanegol i'w thalu ar unrhyw ddifidendau y byddwch chi'n eu derbyn

Trosglwyddo arian o ISAs arian i ISAs stociau a chyfranddaliadau

Os oes gennych chi arian wedi'i gynilo o flwyddyn dreth flaenorol, gallwch drosglwyddo rhywfaint neu'r cyfan o'r arian o ISA arian i ISA stociau a chyfranddaliadau heb i hyn effeithio ar eich lwfans blynyddol wrth fuddsoddi mewn ISA.

Arian a gynilwyd yn y flwyddyn dreth gyfredol:

  • gall cynilwyr drosglwyddo arian a gynilwyd yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol o ISA arian i ISA stociau a chyfranddaliadau, ond rhaid iddynt drosglwyddo'r holl arian a gynilwyd yn y flwyddyn dreth honno yn yr ISA arian hyd at ddiwrnod y trosglwyddiad
  • yna fe ystyrir bod yr arian a drosglwyddwyd wedi cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol yn yr ISA stociau a chyfranddaliadau yn y flwyddyn dreth honno; yn dilyn hyn, gall y cynilwr ddal ati i gynilo neu fuddsoddi gweddill eu terfyn buddsoddi blynyddol ar gyfer ISA, sef £7,200, yn ystod y flwyddyn dreth honno, gan gynnwys hyd at £3,600 mewn ISA arian.

Faint o dreth fyddwch chi'n ei harbed?

Llog ar gynilion:

  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 20 y cant o dreth (2008-2009) ar log eich cynilion
  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 40 y cant o dreth (2008-2009) ar log eich cynilion
  • os ydych yn talu treth ar y 'gyfradd gynilo' ar gyfer cynilion, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 10 y cant o dreth ar log eich cynilion

Incwm difidend:

  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, mewn ISA neu ar wahân iddo, byddwch chi'n talu 10 y cant ar incwm difidend; cymerir hwn fel 'credyd treth' cyn i chi dderbyn y difidend ac ni ellir ei ad-dalu ar gyfer buddsoddiadau ISA.
  • os ydych yn talu treth uwch, byddech fel arfer yn talu treth ar 32.5 y cant ar incwm difidend; mewn ISA ni chewch 10 y cant o gredyd treth difidend yn ôl o hyn, ond byddwch yn arbed arian trwy beidio â gorfod talu unrhyw dreth ychwanegol

Cynilion Treth Enillion Cyfalaf (TEC):

Os ydych yn gwneud mwy o elw na £9,600 o werthu cyfranddaliadau a rhai mathau eraill o asedau yn y flwyddyn dreth 2008-2009, byddai'n rhaid i chi fel arfer dalu Treth Enillion Cyfalaf (TEC). Ond does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar elw o ISA. (Ond allwch chi ddim defnyddio colledion ar fuddsoddiadau ISA i ostwng y Dreth Enillion Cyfalaf ar elw o fuddsoddiadau y tu allan i'r ISA.)

All unrhyw un gael ISA?

I dalu i ISA rhaid i chi:

  • fod yn ddinesydd y DU - gyda dau eithriad: gweithwyr y Goron, megis diplomyddion neu aelodau o'r lluoedd arfog, sy'n gweithio dramor ond yn cael eu talu gan y llywodraeth; a'u gwŷr, eu gwragedd neu eu partneriaid sifil
  • fod dros 16 ar gyfer ISA arian
  • fod dros 18 ar gyfer ISA stociau a chyfranddaliadau

Rhaid i ISA fod yn eich enw chi yn unig; does dim modd cael ISA ar y cyd.

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, gallwch ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EM ar 0845 604 1701 (ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener).

Allweddumynediad llywodraeth y DU