Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

ISAs i Bobl Iau

Mae Cyfrifon Cynilo Unigol i blant, neu ISAs i Bobl Iau, bellach ar gael. Maent yn cynnig ffordd ddi-dreth newydd o gynilo ar gyfer dyfodol eich plentyn. Mynnwch wybod mwy am bwy all gael un, sut mae'r cyfrifon yn gweithio a sut i ddechrau arni.

Beth yw ISA i Bobl Iau?

Cyfrifon cynilo di-dreth hirdymor i blant hyd at 18 oed yw ISAs i Bobl Iau.

Ni ellir codi'r arian a gaiff ei gynilo mewn ISA i Bobl Iau hyd nes y bydd y plentyn yn 18 oed.

Pwy all gael ISA i Bobl Iau

O 1 Tachwedd 2011, gall eich plentyn gael ISA i Bobl Iau:

  • os yw o dan 18 oed
  • os yw'n byw yn y DU
  • os nad yw'n gymwys i gael cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF)

Ni all eich plentyn gael ISA i Bobl Iau os oes ganddo eisoes gyfrif CTF.

Gallai plant 16 oed ddewis agor ISA arian parod i oedolion yn ogystal ag ISA i Bobl Iau.

Sut mae'r ISA i Bobl Iau yn gweithio

Mae dau fath o ISA i Bobl Iau:

  • ISA arian parod i Bobl Iau
  • ISA stociau a chyfranddaliadau i Bobl Iau

Gall eich plentyn gael un o'r ISAs hyn i Bobl Iau neu'r ddau ohonynt ar unrhyw adeg.

Nid oes unrhyw dreth yn daladwy ar unrhyw incwm neu elw a wneir drwy ISA i Bobl Iau.

Pwy biau'r arian yn yr ISA i Bobl Iau

Arian eich plentyn yw'r arian yn y cyfrif ac ni all ei gael hyd nes y bydd yn 18 oed. Ond mae eithriadau i hyn, er enghraifft os bydd eich plentyn yn dioddef o salwch angheuol neu. Gweler yr adran 'Os bydd eich plentyn yn dioddef o salwch angheuol neu os bydd yn marw'.

Talu arian i mewn i ISA i Bobl Iau

Gall unrhyw un dalu arian i mewn i'r cyfrif. Yr uchafswm y gellir ei dalu i mewn i ISA i Bobl Iau ym mhob blwyddyn dreth yw £3,600. (Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol.)

Gall eich plentyn gael ISA arian parod a stociau a chyfranddaliadau i Bobl Iau. Os bydd yn gwneud hynny, yr uchafswm y gellir ei dalu i mewn i'r ddau gyfrif ym mhob blwyddyn dreth yw £3,600. Er enghraifft, £1,000 i mewn i ISA arian parod a £2,600 i mewn i ISA stociau a chyfranddaliadau i Bobl Iau.

Os oes gan eich plentyn ddau ISA i Bobl Iau, gallwch drosglwyddo arian rhyngddynt. Ond ni allwch drosglwyddo arian rhwng ISA i Bobl Iau ac ISA i oedolion na rhwng ISA i Bobl Iau a chyfrif CTF.

Sut i agor ISA i Bobl Iau

Os yw eich plentyn o dan 16 oed, bydd yn rhaid i rywun â chyfrifoldeb rhiant (er enghraifft rhiant neu lys-riant) agor yr ISA i Bobl Iau ar ei ran.

Gall plant rhwng 16 a 18 oed agor eu Cyfrif i Bobl Iau eu hunain. Ond gallai rhywun â chyfrifoldeb rhiant agor y cyfrif ar eu rhan o hyd.

Bydd amrywiaeth o fanciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, cymdeithasau llesiant a broceriaid stoc yn cynnig ISAs i Bobl Iau. Gallwch gael mwy o wybodaeth ynghylch eu telerau ac amodau a sut maent yn ganddynt yn uniongyrchol. Ceisiwch edrych ar nifer o ISAs i Bobl Iau gan ddarparwyr gwahanol cyn i chi benderfynu beth sydd orau i chi a’ch plentyn.

Er mwyn agor ISA i Bobl Iau, bydd angen i chi:

  • ddewis y math o ISA i Bobl Iau rydych am i'ch plentyn ei gael, naill ai cyfrif arian parod neu stociau a chyfranddaliadau (neu'r ddau), a chael cyngor ariannol os oes angen
  • edrych i weld pa ddarparwyr cyfrifon sy'n cynnig y math o gyfrif rydych am i'ch plentyn ei gael
  • dewis y darparwr - efallai mai eich banc neu gymdeithas adeiladu eich hun fydd hwn neu rywun cwbl wahanol
  • cael ffurflen gais gan y darparwr - gellid gwneud hyn yn bersonol, dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd

Rheoli ISA i Bobl Iau

Y sawl sy'n agor yr ISA i Bobl Iau sy'n gyfrifol am reoli'r cyfrif hyd nes y bydd y plentyn yn 16 oed. Gallwch newid y person hwn i rywun arall â chyfrifoldeb rhiant unrhyw bryd.

Gallwch hefyd newid darparwyr neu'r math o gyfrif unrhyw bryd.

Beth sy’n digwydd pan fydd eich plentyn yn 16 oed neu’n 18 oed

Pan fydd eich plentyn yn 16 oed, gall reoli ei gyfrif ei hun os bydd am wneud hynny.

Pan fydd eich plentyn yn 18 oed, gall ddewis codi'r arian o'r ISA i Bobl Iau neu ei fuddsoddi mewn math gwahanol o gyfrif. Fel arall, daw'r ISA i Bobl Iau yn ISA i oedolion yn awtomatig.

Os bydd eich plentyn yn dioddef o salwch angheuol neu os bydd yn marw

Gallwch godi arian o ISA i Bobl Iau cyn y bydd eich plentyn yn 18 oed os yw'n dioddef o salwch angheuol. Mae hyn yn golygu bod ganddo glefyd neu salwch a fydd yn gwaethygu a'i fod yn debygol o farw o fewn chwe mis. Cysylltwch â Llinell Gymorth Cyllid a Thollau EM (CThEM) i roi gwybod iddo:

  • bod eich plentyn yn dioddef osalwch angheuol
  • eich bod am godi'r arian o'r ISA i Bobl Iau

Os yw eich plentyn wedi marw, nid oes angen i chi gysylltu â CThEM. Ond bydd angen i chi ddweud wrth y darparwr fel y gall y cyfrif gael ei gau.

Sut i gael gwybod mwy am ISAs i Bobl Iau

I gael mwy o wybodaeth am ISAs i Bobl Iau, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth ISA CThEM.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Yn yr adran hon...

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU