Os byddwch chi'n ymddeol yn gynnar neu'n rhoi'r gorau i'ch gwaith oherwydd i chi golli'ch swydd, oherwydd afiechyd, neu am resymau eraill, mae'n bosib y bydd hynny'n effeithio ar Bensiwn y Wladwriaeth a phensiynau eraill y mae gennych yr hawl iddynt. Mae angen i chi wybod beth yw'r holl ddewisiadau sydd gennych ar gyfer pensiynau er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i fyw arno ar ôl ymddeol.
Pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis peidio â chymryd y pensiwn yn syth. Ar hyn o bryd yw 65 ar gyfer dynion a 60 ar gyfer merched a anwyd ar neu ar ôl 5 Ebrill 1950; bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.
Ar hyn o bryd, y cynharaf y gallwch dderbyn pensiwn cwmni neu bersonol yw 50 – ond mae hyn yn dibynnu ar eich rheolau cynllun pensiwn. O 2010, mae’r oed hwn yn codi i 55.
Os ydych yn dioddef o iechyd gwael ac nad oes disgwyl i chi fyw yn hwy na blwyddyn, gallwch ymddeol ar unrhyw amser a chymryd i fyny at 100 y ganran o’ch cronfa pensiwn fel swm un-taliad am ddim. Er hyn, os ydych yn briod neu bod gennych bartner sifil, bydd rhaid i’r cynllun gadw 50 y ganran o’r gronfa pensiwn i ddarparu ar gyfer pensiwn y goroeswr/wraig.
Os ydych yn ymddeol cyn oed derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn syth ac efallai y byddwch yn derbyn llai pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth na phetaech wedi parhau i weithio. Y rheswm dros hyn yw eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol trwy gronni digon o 'flynyddoedd cymwys'. Blwyddyn gymwys yw blwyddyn dreth lle rydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) neu lle rydych yn cael eich trin fel petaech wedi talu cyfraniadau YG neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG. Os ydych yn ymddeol yn gynnar, ni fydd gennych gymaint o flynyddoedd cymwys.
Ar hyn o bryd gallwch roi hwb i'ch cofnod Cyfraniadau YG mewn sawl ffordd:
Gall eich swyddfa treth leol eich cynghori am gyfraniadau YG.
I gael gwybod faint y byddwch yn ei dderbyn os byddwch yn ymddeol yn gynnar, gallwch gael rhagolwg o'r Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth. Gall hyn fod o gymorth i chi benderfynu beth i'w wneud ynghylch eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Bydd angen ichi holi ynghylch eich dewisiadau ar gyfer ymddeol yn gynnar gyda chynllun pensiwn eich cwmni, eich cynllun pensiwn personol neu eich cynllun pensiwn cyfranddeiliaid - mae'r rheolau'n amrywio o ran a allwch chi a phryd y gallwch chi ymddeol. Er enghraifft, mae nifer o gynlluniau yn galluogi am ymddeoliad cynnar ar sail iechyd gwael neu os nad ydych yn gallu cario ymlaen â’ch swydd oherwydd nam meddyliol neu gorfforol.
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn cyfranddeiliaid neu gynllun pwrcasu arian pensiwn galwedigaethol (cwmni), dyma'r prif bwyntiau i'w cofio:
Os dechreuoch dalu i mewn i'ch pensiwn yn 35 oed a chyda disgwyliad oes o 85 yna:
Fodd bynnag, os ydych yn ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd a'ch salwch yn debygol o gael effaith ar eich disgwyliad oes, mae rhai darparwyr yn fodlon cynyddu'ch pensiwn i roi ystyriaeth i'ch salwch.
Gyda'r cynlluniau hyn, mae'r pensiwn a gewch wrth ymddeol wedi'i seilio fel arfer ar ffracsiwn o'ch cyflog wedi'i luosi gan nifer y blynyddoedd yr oeddech yn aelod o'r cynllun. Felly, os ydych yn ystyried ymddeol yn gynnar, byddwch mae'n debyg yn derbyn llai o bensiwn.
Os dechreuoch chi dalu i mewn i'ch pensiwn yn 35, a'r pensiwn yn seiliedig ar 1/80 o'ch cyflog terfynol, yna:
Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac efallai y byddai o fudd ichi gael cyngor annibynnol.
Os na fydd eich pensiwn yn ddigon ar eich cyfer ar ôl ymddeol, dyma rai opsiynau i feddwl amdanynt:
Yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig cael cyngor yn gynnar gan gynghorydd ariannol cymeradwy.