Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth os mai ychydig o bensiwn sydd gennych neu os nad oes gennych bensiwn o gwbl

Drwy gynllunio ymlaen, gallwch sicrhau bod gennych ddigon o bensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Os na fydd gennych bensiwn neu os mai dim ond ychydig o bensiwn fydd gennych, efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn, ac efallai y bydd gennych hawl i Bensiwn anghyfrannol gan y Wladwriaeth os ydych yn hŷn na 80 oed.

A fyddwch yn cael unrhyw Bensiwn gan y Wladwriaeth?

Byddwch yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth os bydd gennych ddigon o 'flynyddoedd cymwys' wedi'u cronni. Mae blwyddyn gymwys yn golygu blwyddyn dreth lle'r ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich enillion, neu'ch bod yn cael eich trin fel petaech wedi talu digon, neu'n cael eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Fel arfer, bydd angen i ddynion gael 44 o flynyddoedd cymwys er mwyn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn pan fyddant yn 65 oed. Fel arfer, bydd angen i ferched sy'n cyrraedd 60 oed cyn 2010 gael 39 o flynyddoedd cymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn. Rhwng 2010 a 2020, bydd nifer y blynyddoedd cymwys y bydd angen i ferched eu cael yn codi o 39 i 44. Y rheswm dros hyn yw y bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth, erbyn 2020, yn 65 oed i ddynion a merched.

Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys, efallai y bydd gennych hawl i lai o Bensiwn y Wladwriaeth. Os oes gennych 25 y cant neu fwy o flynyddoedd cymwys, cewch Bensiwn sylfaenol wythnosol y Wladwriaeth sydd rhwng yr isafswm (£22.68 yn 2008-2009) a'r uchafswm (£90.70).

Newidiadau i flynyddoedd cymwys

Rhwng 2024 a 2046, bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu - i ddynion ac i ferched - o 65 oed i 68 oed. Dim ond 30 o flynyddoedd cymwys y bydd eu hangen ar ddynion a merched a fydd yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny er mwyn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn llawn. Os oes gennych lai na 30 o flynyddoedd cymwys, cewch gyfran o Bensiwn llawn y Wladwriaeth. Er enghraifft, os oes gennych saith o flynyddoedd cymwys, cewch Bensiwn y Wladwriaeth sy'n 7/30 o Bensiwn llawn y Wladwriaeth.

Os ydych o fewn pedwar mis i oed Pensiwn y Wladwriaeth, dylech fod wedi derbyn gwahoddiad i hawlio drwy'r post. Os nad ydych, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn yn syth.

Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 265, ffôn testun 0845 60 60 285. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ychwanegu at Bensiwn y Wladwriaeth

Os oes gennych flynyddoedd treth nad ydynt yn cyfrif fel blynyddoedd cymwys, efallai y gallwch gynyddu Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd hynny. Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn ôl i 1996. Gall rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ddweud wrthych a fydd talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn cynyddu'ch pensiwn.

Os nad ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oherwydd i chi fod yn gofalu am blentyn neu berson gwael neu berson anabl, dylech gael eich credydu'n awtomatig gyda chyfraniadau am y blynyddoedd hynny.

Os ydych yn wraig briod, efallai y byddwch yn gallu cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich gŵr. Gallwch gael gwybod mwy drwy lwytho taflen oddi ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn.

Credyd Pensiwn

Os ydych yn 60 oed neu'n hŷn, efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn.

Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal cysylltiedig ag incwm ar gyfer pobl 60 neu hŷn sy'n byw ym Mhrydain Fawr ac sy'n darparu, neu'n cyfrannu at, lefel incwm sicr o £124.05 yr wythnos i berson sengl (£189.35 i gwpl). Gall y symiau hyn fod yn fwy ar gyfer pobl gyda chyfrifoldebau gofalu, pobl sy'n ddifrifol anabl neu â chostau penodol sy'n ymwneud â'r cartref.

Hefyd gall pobl 65 oed a hŷn gael eu gwobrwyo am rai o'r cynilion a'r incwm sydd ganddynt ar gyfer eu hymddeoliad.

Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn 80 oed neu’n hŷn

Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, efallai y gallwch gael Pensiwn 'anghyfrannol' y Wladwriaeth os ydych yn 80 oed neu drosodd. Mae hwn oddeutu 60 y cant o Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.

Gallwch hawlio:

  • os ydych yn 80 oed neu’n hŷn
  • os nad ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu fod y Pensiwn sylfaenol yr ydych yn ei gael gan y Wladwriaeth yn llai na £54.35 yr wythnos (yn 2008-2009)
  • os ydych yn byw yng Nghymru, yn Lloegr neu yn yr Alban a'ch bod wedi byw yno ers 10 mlynedd neu fwy mewn unrhyw gyfnod di-dor o 20 mlynedd ar ôl eich pen-blwydd yn 60 oed

Byddwch yn cael:

  • £54.35 yr wythnos os nad ydych chi'n cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • os ydych chi'n derbyn lefel is o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth – fe gewch y gwahaniaeth rhwng y swm ar y lefel is a £54.35

Budd-daliadau ymddeol eraill

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau ymddeol eraill. Mae rhai ar gael i bawb dros oedrannau penodol, ac mae eraill ond i bobl y mae eu hangen arnynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU