Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae pensiynau'n gweithio

Ffordd o gynilo ar gyfer ymddeol yw pensiynau, gyda rhai manteision treth. Pan fyddwch yn ymddeol, neu'n cyrraedd oed neilltuol, bydd cynllun pensiwn yn talu incwm rheolaidd ichi am oes. Mae'r llywodraeth yn symleiddio'r rheolau pensiwn o Ebrill 2006 er mwyn gwneud y broses o gynilo yn haws ac yn fwy hyblyg.

Mathau o bensiynau

Ar hyn o bryd mae tri prif fath o bensiwn: pensiwn y wladwriaeth, pensiwn personol a phensiwn cwmni ('galwedigaethol').

Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch yn dibynnu ar faint o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi'u talu neu wedi'ch trin fel petaech wedi'u talu. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, efallai y bydd gennych hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Mae'n daladwy o oed Pensiwn y Wladwriaeth - 65 i ddynion, 60 i ferched a anwyd ar neu ar ôl 5 Ebrill 1950 (bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020 - ond gallwch ohirio ei dderbyn am hyd at bum mlynedd.

Pensiynau cwmni

Sefydlir pensiynau cwmni gan gyflogwyr er mwyn darparu pensiynau i'w gweithwyr pan fyddant yn ymddeol. Os gallwch ymuno â chynllun o'r fath, mae'n werth ei ystyried gan y bydd y rhan fwyaf o bobl yn well eu byd ar ôl ymddeol na phetaent heb ymuno.

Pensiynau personol

Mae pensiynau personol i'w cael gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant bywyd, sy'n buddsoddi'ch cynilion ar eich rhan.

O dan rheolau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gallwch ddechrau cael eich pensiwn yn 50 oed (yn codi i 55 erbyn 2010) a chymryd rhan o'ch cronfa bensiwn fel taliad unswm di-dreth.

Ym mis Ebrill 2001, cyflwynodd y llywodraeth 'bensiynau cyfranddeiliaid', math newydd o gynllun pensiwn personol gyda'r nod o ddarparu sicrwydd, hyblygrwydd a gwerth da am arian.

Gostyngiad treth ar bensiwn personol a phensiwn cwmni

Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad trwy roi 'gostyngiad treth' ar yr arian a rowch yn eich cynllun pensiwn personol a'ch cynllun pensiwn cwmni hyd at ryw derfyn penodol. O safbwynt ymarferol, ystyr hyn yw y defnyddir arian y byddech wedi'i dalu mewn treth tuag at eich pot pensiwn yn lle.

Os nad ydych chi'n talu treth, gallwch ddal i gael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau chi (neu ar gyfraniadau rhywun arall) at eich pensiwn personol, hyd at derfyn penodol.

Cael help a chyngor am bensiynau

Onid ydych yn deall pensiynau'n iawn, dylech ystyried cael cyngor arbenigol. Bydd ymgynghorydd ariannol yn codi am y cyngor yn fwy na thebyg ond mae sawl mudiad yn darparu cyngor am ddim.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU