Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad drwy roi 'gostyngiad treth' i chi ar gyfraniadau pensiwn. Mae gostyngiad treth yn lleihau eich bil treth neu'n cynyddu eich cronfa bensiwn.
Mae'r ffordd yr ydych yn cael gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn yn dibynnu p’un ai i gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn cwmni yr ydych yn talu.
Cynlluniau pensiwn cwmni
Mae'ch cyflogwr yn tynnu'r cyfraniadau pensiwn o'ch cyflog cyn tynnu treth (ond nid cyfraniadau Yswiriant Gwladol). Dim ond ar yr hyn sydd ar ôl y byddwch chi'n talu treth. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch gael y gostyngiad llawn ar unwaith.
Pensiynau personol
Mae'r darparwr pensiwn yn hawlio treth yn ôl gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd gennych £100 yn eich pot pensiwn am bob £80 y byddwch yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn. Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hawlio'r gwahaniaeth drwy Hunanasesu, neu, er enghraifft drwy anfon llythyr cais i'ch Swyddfa Dreth.
Mae terfynau ar faint o ostyngiad treth y gallwch ei gael – darllenwch fwy yn yr adran 'Terfynau i’r gostyngiadau treth'.
Gall unrhyw un gyfrannu at gynllun pensiwn personol – os ydynt yn talu treth neu beidio. Os nad ydych yn talu treth, £2,880 y flwyddyn yw'r mwyaf y cewch ei dalu i mewn os ydych am gael gostyngiad treth arno, ond bydd modd i chi gael gostyngiad treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) yn ychwanegol at eich cyfraniad o hyd. Mewn geiriau eraill, bydd y llywodraeth yn ychwanegu at eich cyfraniad i'w wneud yn £3,600 os byddwch chi’n talu £2,880.
Gallwch roi arian ym mhensiwn personol rhywun arall – er enghraifft, eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil, eich plant neu eich wyrion. Ychwanegir gostyngiad treth ato yn ôl y gyfradd sylfaenol, ond ni fydd hyn yn effeithio ar eich bil treth chi. Os nad oes ganddynt incwm, gallwch dalu hyd at £2,880 y flwyddyn (sy'n tyfu i £3,600 gyda'r gostyngiad treth).
Cewch gynilo cymaint ag y dymunwch mewn unrhyw faint ac unrhyw fath o gynlluniau pensiwn cofrestredig a chael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion (eich cyflog ac unrhyw incwm arall yr ydych yn ei ennill) bob blwyddyn, cyn belled â’ch bod yn talu’r cyfraniad cyn eich bod yn 75 oed. Ond mae’r swm a gynilwch bob blwyddyn ar gyfer pensiwn yn gyfyngedig i ‘lwfans blynyddol’. Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009, £235,000 yw’r lwfans blynyddol.
Nid yw'r gronfa bensiwn yn talu treth ar incwm buddsoddi nac incwm enillion cyfalaf.
Hefyd, pan fydd eich pensiwn yn aeddfedu gallwch gymryd hyd at 25 y cant ohono fel taliad unswm di-dreth, ar yr amod bod rheolau’ch cynllun pensiwn yn caniatáu hynny a bod cyfanswm eich cynilion o fewn y 'lwfans oes' ar gyfer y flwyddyn pan fyddwch chi'n cymryd eich budd. Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 mae hwn yn £1.65 miliwn.
Codir treth ar gyfandaliadau neu incwm a dynnir o enillion os ydynt yn uwch na’r lwfans oes.
Fel arfer, dim ond os ydych yn tynnu'n ôl o gynllun cwmni o fewn dwy flynedd i ddechrau gwneud taliadau y gallwch gael eich cyfraniadau pensiwn wedi'u had-dalu. Efallai y bydd rhai digwyddiadau’n lleihau’r terfyn amser. Tynnir treth ar gyfradd o 20 y cant ar gyfer ad-daliadau hyd at £10,800 ac ar gyfradd o 40 y cant ar unrhyw arian uwchben hyn. Bydd gweinyddwr y cynllun yn tynnu'r dreth cyn gwneud yr ad-daliad